Module VPC-2406:
Crefydd yng Nghymru
Crefydd yng Nghymru: O Baganiaeth i Jedïaeth 2023-24
VPC-2406
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Bydd y modiwl yn archwilio’r meysydd canlynol: • Dylanwad Cristnogaeth ar ddiwylliant, cymdeithas a chrefydd Cymru, gan gydnabod fod traddodiadau crefyddol eraill wedi bodoli yng Nghymru gan gynnwys rhai amlwg fel Iddewiaeth, Hindŵaeth ac Islam, a rhai llai 'amlwg', sef y sawl a drafodir yn y modiwl hwn. • Ymchwiliad i hanes a natur Paganiaeth yng Nghymru gan fanylu'n arbennig ar Dderwyddaeth a Derwyddaeth Fodern. • Asesiad o nodweddion Wica yng Nghymru, a’r modd y mae tirwedd Cymru wedi dylanwadu ar y modd y caiff y grefydd hon ei hymarfer. • Astudiaeth o ymarferoldeb a chyfyngiadau dilyn Fwdw mewn cyd-destun Celtaidd. • Ystyriaeth o natur a nodweddion Sataniaeth Gymreig, yn enwedig ers tro'r 21ain ganrif. • Archwiliad o'r modd y mae dilynwyr y grefydd Baha'i wedi datblygu traddodiad o'r fath mewn gwlad dra gwahanol i'w gwlad enedigol. • Eglwys Jedïaeth: crefydd newydd i Gymru ynteu athroniaeth anwadal? • Natur crefydd yng Nghymru heddiw: gwlad dduwiol ynteu genedl sy’n gynyddol seciwlar?
• Dylanwad Cristnogaeth ar ddiwylliant, cymdeithas a chrefydd Cymru. • Hnes a natur Paganiaeth yng Nghymru gan fanylu'n arbennig ar Dderwyddaeth a Derwyddaeth Fodern. • Wica yng Nghymru a’r modd y mae tirwedd Cymru wedi dylanwadu ar sut ymarferir y grefydd hon. • Fwdw mewn cyd-destun Celtaidd. • Natur a nodweddion Sataniaeth Gymreig. • Baha'i a’r Cymry. • Eglwys y Jedi: crefydd newydd ynteu athroniaeth anwadal? • Natur crefydd yng Nghymru heddiw: gwlad dduwiol ynteu genedl sy’n gynyddol seciwlar?
Assessment Strategy
-threshold -TrothwyD- i D+Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol:•Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau.•Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur.•Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau.•Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd. -good -Da iawnB- i B+Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos:•Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol.•Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr.•Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn.•Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol. -excellent -ArdderchogA- i A*Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol:•Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg.•Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol.•Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau. -another level-DaC- i C+Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos:•Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol.•Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr.•Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn.•Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Learning Outcomes
- Dangos dealltwriaeth o ysgolheictod perthnasol ynghylch crefydd yng Nghymru.
- Dangos lefel dda o ddealltwriaeth am rôl crefydd yn siapio hunaniaethau personol a chenedlaethol.
- Dangos lefel dda o wybodaeth am gymhlethdodau crefyddau yng nghymdeithas Cymru gyfoes.
- Trafod a dangos sut y mae lleoliad daearyddol yn dylanwadu ar y ffordd o gadw crefyddau amrywiol a’r ffordd o ddehongli testunau crefyddol.
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
Rhoddir arweiniad i fyfyrwyr lunio holiaduron ynghylch ymwybyddiaeth y cyhoedd am ddetholiad o'r crefyddau a drafodir yn y modiwl hwn. Byddent wedyn yn mynd ati i gael o leiaf 20 unigolyn i ymateb i'r holiadur.
Weighting
30%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Bydd myfyrwyr yn asesu'r data a gasglwyd ganddynt gyda'u holiaduron ac yn llunio darn yn asesu'r ymatebion.
Weighting
30%
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Bydd myfyrwyr yn cyflwyno cyflwyniad llafar 10 munud yn archwilio syniadau cyhoeddus am un o'r crefyddau a drafodwyd yn y modiwl hwn, a'r gwahanol ffyrdd y gall cymdeithas ddatblygu o ymgyfarwyddo fwyfwy â'r grefydd honno.
Weighting
40%