Module WXC-3311:
Lleoliad Cymunedol Celfyddodol
Lleoliad Cymunedol Celfyddydol 2024-25
WXC-3311
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Gwawr Ifan
Overview
Mae’r modiwl hwn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymarferol allweddol ym maes gweinyddu'r celfyddydau. O dan arweiniad cydlynydd y modiwl, bydd myfyrwyr yn cynllunio ac yn ymgymryd â lleoliad estynedig o o leiaf 40 awr yn y gymuned, gan anelu at gyflawni gôl benodol. Bydd y myfyrwyr yn creu briff penodol i’r prosiect, gyda tharged(au) clir a chyraeddadwy, a byddant yn cael cyfle cyffrous i weithio’n annibynnol ar brosiect sydd wedi ei deilwro’n arbennig i gyfateb i’w diddordebau a’u cynllun gyrfa personol hwy.
Drwy seminarau pwrpasol, bydd myfyrwyr yn dysgu am amrywiol agweddau o reoli a gweinyddu'r celfyddydau, gan ddatblygu syniad clir o'r amrywiaeth o sgiliau personol a phroffesiynol sydd eu hangen mewn gwaith gweinyddu celfyddydol. Byddant hefyd yn datblygu gwybodaeth am theorïau perthnasol sydd wrth wraidd eu dull o ymdrin â hyrwyddo a rheoli'r celfyddydau.
Bydd gofyn i fyfyrwyr roi cyflwyniad llafar i weddill y dosbarth ar ddatblygiad eu prosiect, ac ar ddiwedd y modiwl bydd angen i fyfyrwyr lunio adroddiad manwl fydd yn egluro ac yn dadansoddi canlyniad eu prosiect, yn ogystal â chyflwyno log fydd yn adfyfyrio ar y 40 awr a dreuliodd y myfyriwr ar leoliad.
Mae’r modiwl hwn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth weithredol - yn theoretig ac yn ymarferol - ym maes gweinyddu'r celfyddydau. Yn ystod y semester, bydd myfyrwyr yn cynllunio ac yn ymgymryd â lleoliad annibynnol estynedig o o leiaf 40 awr yn y gymuned, gan anelu at gyflawni gôl benodol. Gall hwn fod yn ardal Bangor neu mewn lleoliad arall. Mae lleoliadau posibl yn cynnwys canolfannau celf neu leoliadau eraill (e.e. Gwyliau, canolfannau cerdd, cerddorfa).
Bydd y myfyrwyr yn creu briff penodol i’r prosiect, gyda tharged(au) clir a chyraeddadwy: gallai olygu gwneud ymchwil o’r farchnad ar ran canolfan gelfyddydol, gyda’r bwriad o greu cyfres o argymhellion ar bolisi, neu gallai olygu trefnu cyfres o weithdai addysgiadol ar thema benodol ar gyfer ysgol neu ysgolion lleol. Gall myfyrwyr rannu'r un lleoliad (e.e. Gwyl Gerdd Bangor) os ydy eu cyfrifoldebau penodol wedi eu nodi yn amlwg yn eu briff personol hwy.
Assessment Strategy
Trydydd Dosbarth: D- i D+ (40%-49%)
Y cyrhaeddiad allweddol yw dangos gafael sylfaenol ar y testun dan sylw a’r math o ddeunydd a ddefnyddir. Fodd bynnag, cyfyngir y marc i’r lefel hon gan ffactorau megis: ailadrodd gwybodaeth yn foel, heb ddangos gwir ddealltwriaeth; dryswch wrth gyflwyno dadl sy’n dangos diffyg dealltwriaeth briodol o’r deunydd; methu â gwahaniaethu rhwng y perthnasol a’r amherthnasol; methu â deall syniadau’n iawn; cynnwys gwallau ffeithiol; sgiliau hynod ddiffygiol o ran llyfryddiaethau neu droednodiadau; mynegiant gwael; tawedogrwydd llafar; cyflwyno blêr.
Ail Ddosbarth Is: C- i C+ (50%-59%)
Y prif gryfder sy’n gwarantu marc yn y categori hwn yw casglu corff rhesymol o ddeunydd perthnasol o ystod weddol eang o ddarllen neu ffurfiau eraill ar adalw gwybodaeth, sydd wedi’i gyflwyno mewn trefn eglur a’i fynegi’n ddealladwy. Nodweddion sy’n cyfyngu’r marc i’r lefel hon yw: dadleuon aneglur, neu ddadleuon sy’n ddiffygiol mewn rhyw ffordd; llyfryddiaeth neu droednodiadau cyfyngedig neu ddiffygiol; dealltwriaeth gyfyngedig o syniadau neu ddadl; tystiolaeth gyfyngedig o ddealltwriaeth neu wybodaeth eang o’r testun; ymrwymiad cyfyngedig i drafod ac aildrafod syniadau mewn trafodaethau llafar; tystiolaeth gyfyngedig o feddwl yn ddwys, mewn cyferbyniad â diwydrwydd syml.
Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%-69%)
Y nodwedd allweddol yma yw’r gallu i lunio dadl glir gyda thystiolaeth briodol i’w hategu. Bydd y gwaith, felly, yn debygol o ddangos y gallu i ddeall y drafodaeth ar waith o gelfyddyd a chymhwyso’r wybodaeth honno at wahanol weithiau; cyfleu gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol o’r testun yn ei gyfanrwydd, a gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach o feysydd mwy penodol; sgiliau medrus gyda llyfryddiaethau a throednodiadau; cyfathrebu syniadau a dadleuon yn effeithiol; gallu gweld problemau a gwrthddweud mewn darllen ffynonellol; cyfraniad meddylgar i drafodaethau llafar; sgiliau mewn arsylwi a dadansoddi. Gall gwaith Ail Ddosbarth Uwch gynnwys llawer o’r un nodweddion ag a geir mewn gwaith Dosbarth Cyntaf, ond byddant i’w gweld ar lefel lai annibynnol, neu gall y gwaith fod yn eithriadol o ran un o nodweddion Dosbarth Cyntaf ond yn sylweddol ddiffygiol mewn un arall.
Dosbarth Cyntaf: A- i A (70%-83%)
Y nodwedd allweddol yma yw tystiolaeth o feddwl deallusol ac annibynnol gwirioneddol mewn trafodaeth sylweddol. Bydd gwaith ar y lefel hon yn debygol o ddangos bod yr ymgeisydd wedi cymryd yr awenau i wneud gwaith ymchwil y tu hwnt i’r ffynonellau amlwg; y gallu i werthuso ffynonellau a ddefnyddiwyd yn feirniadol; trafodaeth sylweddol a chlir; mynegiant caboledig mewn gwaith ysgrifenedig a llafar; gallu i gywain deunydd o wahanol ffynonellau at ei gilydd; sgiliau arsylwi a dadansoddi o’r safon uchaf; y gallu i ddefnyddio gwybodaeth i egluro testunau cerddorol; arwyddion o wybodaeth eang y tu hwnt i ffiniau culion y testun dan sylw; y gallu i arwain trafodaethau llafar; y gallu i adnabod problemau neu groesddweud yn y testun a’u hwynebu’n rymus.
Dosbarth Cyntaf: A+ i A** (84%-100%)
Mae gwaith ar y lefel hon yn hynod wreiddiol ac o safon sy’n cyrraedd safonau proffesiynol, neu sy’n agos at hynny. Bydd y gwaith hwn yn dangos, mewn modd cyson, yr holl nodweddion a restrwyd yng nghategori A-/A (70%-83%), ac o ansawdd mor uchel fel ei fod naill ai’n deilwng o gael ei gyhoeddi neu ddarlledu yn union fel ag y mae, neu gyda diwygiadau o ran ei gyflwyniad.
Learning Outcomes
- Defnyddio ystod eang o fedrau cyfathrebu estynedig, fel sy’n briodol i’r lefel hon o astudio.
- Gwerthuso eu sgiliau gweinyddol, personol a chymdeithasol annibynnol a ddefnyddiwyd o fewn i gyd-destun cymunedol penodol.
- Gwneud dadansoddiad beirniadol o theoriau sy'n ymwneud gyda hyrwyddo a rheoli’r celfyddydau yn y gymuned, drwy gyfeirio at ystod eang o lenyddiaeth academaidd berthnasol.
- Trefnu ac arwain yn aeddfed ar brosiect annibynnol sylweddol.
Assessment method
Report
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad o'ch lleoliad. Fel rheol, defnyddir is-benawdau er mwyn rhannu’r adroddiad i adrannau addas, e.e: - Cyflwyniad (gan gynnwys nodau ac amcanion prosiect / lleoliad - gweler deilliant dysgu 1), - Disgrifiad o'ch rôl (gweler deilliant dysgu 2), - Canfyddiadau (os yw'n berthnasol), - Dadansoddiad a gwerthusiad o'ch cyfraniad (dylai'r adran hon gynnwys cyfeiriadau at ddeunydd ysgolheigaidd - gweler deilliant dysgu 3), - Casgliad. Dylech hefyd gynnwys: - Tudalen deitl - Tudalen gynnwys (gyda rhif tudalen). - Llyfryddiaeth (dylech gynnwys deunydd ysgolheigaidd cynradd a / neu eilaidd i gefnogi'ch gwaith). Efallai y byddai'n briodol cynnwys deunyddiau perthnasol mewn Atodiad (e.e. e-byst, cynlluniau gwersi, deunydd marchnata ac ati). Mae'r gofynion cyflwyno ar gyfer yr adroddiadau yr un fath ag ar gyfer traethodau (gweler adrannau perthnasol Llawlyfr yr Adran ar Blackboard). Dyddiad cau yr adroddiad fydd Dydd Llun Wythnos 13 (diwrnod cyntaf y cyfnod asesu ar ddiwedd y semester).
Weighting
50%
Due date
13/01/2025
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Crynodol
Description
Log Dylai’ch log fod yn record o 40 awr o weithio ar eich lleoliad, a dylai gynnwys: - Natur y weithgaredd (deilliant dysgu 1) - Hyd y weithgaredd (a chyfanswm oriau ar y prosiect hyd yn hyn) - Sgiliau a ddefnyddiwyd ac a ddatblygwyd (Yma, dylech gynnwys adlewyrchiadau a dadansoddiad beirniadol o’ch mewnbwn a’ch datblygiad - gweler deilliant dysgu 2) - Allbwn / pwyntiau gweithredu / nodiadau. Gallwch ddefnyddio’r fformat sydd wedi ei ddarparu ar Blackboard ar gyfer logiau blwyddyn 3, os ydyw’n berthnasol. Y dyddiad cau ar gyfer y log fydd dydd Llun, Wythnos 13 (diwrnod cyntaf y cyfnod asesu ar ddiwedd y semester).
Weighting
25%
Due date
13/01/2025
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad Dylech siarad am hyd at 10 munud am eich prosiect neu leoliad. Gan fod eich prosiect ar y pwynt hwn yn debygol o fod yn waith ar y gweill, bydd yr arholw(y)r yn deall nad ydych mewn sefyllfa i rannu eich casgliadau terfynol. Yn hytrach, dylech siarad am rai neu'r cyfan o'r canlynol: • Trosolwg byr o'ch lleoliad, a sut mae'n cylfawni gofynion y modiwl. • Beth yw eich brîff ar gyfer y prosiect? • Sut ydych chi'n mynd ati i wneud y gwaith, a pham? • Enghraifft o waith (ac o bosibl canfyddiadau) rydych chi wedi'i gwblhau hyd yn hyn. • Unrhyw broblemau y gallech fod wedi'u profi ar hyd y ffordd a sut rydych wedi delio â nhw • Gwerthusiad beirniadol o'ch cynnydd hyd yn hyn. • Rhagdybiaethau am yr hyn y gallwch chi ddisgwyl i'ch casgliadau yn y pen draw fod. Dylai'r cyflwyniad fod yn fanwl a thrylwyr. Dylid gwerthuso eich safbwyntiau a'ch dulliau o weithredu, a dylech gefnogi'ch gwerthusiad drwy gynnwys cyfeiriadau at lenyddiaeth academaidd berthnasol - gweler deilliant dysgu 3). Bydd y cyflwyniadau'n cael eu rhoi yn y seminar cyntaf ar ol yr wythnos ddarllen.
Weighting
25%
Due date
14/11/2024