Module CXC-1016:
Llenyddiaeth Gyfoes
Llên Cymru Heddiw 2024-25
CXC-1016
2024-25
School of Welsh
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Marged Tudur
Overview
Canolbwyntir yn y modiwl hwn ar ddetholiad o weithiau gan rai o lenorion y Gymru gyfoes sy'n ymrafael â themâu cyfredol a pherthnasol, e.e. natur diwylliant poblogaidd; dylanwad y cyfryngau cymdeithasol; amlddiwylliannedd a chynhwysiant; boneddigeiddio trefol a gwledig; hunaniaeth a chyfeiriadaeth rywiol. Ar ddechrau’r modiwl bydd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion technegol yn ymwneud â chynllunio traethodau academaidd, e.e. dulliau cyfeirio, trefnu nodiadau, paratoi llyfryddiaeth ac osgoi llên-ladrata. Symudir wedyn at destunau gosod y modiwl: yn achos pob testun yn ei dro, ceir darlithoedd rhagarweiniol ac yna drafodaethau seminar a rydd gyfle i fyfyrwyr bwyso a mesur y testunau ar lafar.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Assessment Strategy
-threshold -D- - D+: Dylai traethodau ddangos dealltwriaeth o’r agweddau technegol perthnasol. Dylai’r traethodau a’r trafodaethau llafar ddangos cynefindra â’r testunau a drafodir. Dylai’r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu i nodi rhai cyfeiriadau cymharol perthnasol, gafael ar gystrawen a theithi’r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa’r maes penodol hwn, a gallu i fynegi barn bersonol ar amryw ddadleuon a damcaniaethau.
-good -B- - B+: Dylai traethodau ddangos dealltwriaeth dda o’r agweddau technegol perthnasol. Dylai’r traethodau a’r trafodaethau llafar ddangos gwybodaeth drylwyr o’r testunau a drafodir. Dylai’r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu i nodi nifer o gyfeiriadau cymharol perthnasol, gafael dda ar gystrawen a theithi’r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa’r maes penodol hwn, a pharodrwydd i fynegi barn bersonol yn hyderus ar nifer o ddadleuon a damcaniaethau.
-excellent -A- - A*: Dylai traethodau ddangos dealltwriaeth ragorol o’r agweddau technegol perthnasol. Dylai’r traethodau a’r trafodaethau llafar ddangos gwybodaeth helaeth a manwl am y testunau a drafodir. Dylai’r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu aeddfed i ddefnyddio cyfeiriadau llenyddol cymharol, gafael gadarn ar gystrawen a theithi’r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa’r maes penodol hwn, a pharodrwydd i fynegi’n hyderus farn bersonol soffistigedig ar nifer o ddadleuon a damcaniaethau.
Learning Outcomes
- Casglu a threfnu deunyddiau’n annibynnol
- Cloriannu’n feirniadol ac ymateb i weithiau llenyddol cyfoes
- Cyflwyno gwybodaeth a datblygu dadleuon ar lafar
- Cynllunio traethodau a chyflwyno manylion technegol yn unol â chonfensiynau safonol
- Defnyddio iaith raenus a chywir ac arfer cywair academaidd priodol
- Pwyso a mesur arwyddocâd nifer o ystyriaethau cefndirol, e.e. rhai beirniadol, hanesyddol neu gyd-destunol
Assessment method
Other
Assessment type
Crynodol
Description
Prawf technegol ar gonfensiynau cyflwyno traethodau academaidd
Weighting
10%
Due date
07/10/2022
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd
Weighting
30%
Due date
20/12/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd
Weighting
40%
Due date
12/12/2022
Assessment method
Oral Test
Assessment type
Crynodol
Description
Cyfraniad llafar yn ystod y modiwl cyfan
Weighting
20%
Due date
17/12/2024