Module CXC-1036:
Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg
Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg 2024-25
CXC-1036
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
30 credits
Module Organiser:
Aled Llion Jones
Overview
Mae Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg yn un o dri modiwl sy'n ymffurfio'n flwyddyn sylfaen Cymraeg (i Ddechreuwyr) a baratoir gan Ysgol y Gymraeg a'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Dyma amlinelliad o'i gynnwys:
- Adventus y Saeson a chyfnod y Cynfeirdd: y canu llys cynnar a’r canu englynol
- Cyfnod y Normaniaid a chanu Beirdd y Tywysogion
- Cyfreithiau Hywel Dda
- Y traddodiad rhyddiaith cynnar: chwedlau brodorol y Mabinogion a chyfieithiadau pwysig megis Brut y Brenhinedd.
- Y Cywyddwyr a’r gynghanedd
- Y traddodiad llawysgrifol
- Y Diwygiad Protestannaidd; o fyd y llawysgrif i fyd y llyfr print
- Y Dadeni a Dyneiddiaeth; dirywiad y traddodiad barddol
- Y Diwygiad Methodistaidd
- Diwylliant poblogaidd a thorfol y Gymraeg
- Yr Ymoleuo a thwf Rhyddfrydiaeth
- Rhamantiaeth
- Yr Eisteddfod a’r 19g.
- Llenyddiaeth y Cyfnod Modern
Assessment Strategy
-threshold -(D) TrothwyBydd myfyrwyr trothwyol (graddau D isel) yn arddangos rhychwant o wybodaeth briodol – neu ddyfnder priodol – mewn o leiaf rannau o’r maes perthnasol, a byddant yn llwyddo’n rhannol o leiaf i greu dadlau sy’n mynd i’r afael â’r pynciau a drafodir.
-good -(B) Da Bydd myfyrwyr da (graddau B) yn arddangos galluoedd sicr yn yr holl agweddau a nodwyd yn y paragraff uchod, gan gynnwys safon eu hiaith ysgrifenedig a llafar.
-excellent -(A) Rhagorol Bydd myfyrwyr ardderchog (graddau A) yn arddangos y galluoedd sicr hyn ar draws y meini prawf, yn ogystal â dyfnder arbennig yn eu gwybodaeth a/neu gywreinrwydd eu dadansoddi. Dangosant hefyd wreiddioldeb yn eu gwaith darllen a dehongli. Byddant yn arddangos dealltwriaeth gynyddol o’r testunau yn yr iaith wreiddiol.
Learning Outcomes
- Yn deall pwysigrwydd y gweithiau a’r awduron hyn, a’u cyfraniad i ddatblygiad y traddodiad llenyddol Cymraeg.
- Yn medru deall a defnyddio geirfa berthnasol a gyflwynir yn ystod y modiwl.
- Yn medru mynegi barn yn glir ac yn ddealladwy ar lafar am y darnau o lenyddiaeth a’r cyfnodau hanesyddol dan sylw.
- Yn medru mynegi barn yn glir ac yn ddealladwy yn ysgrifenedig am y darnau o lenyddiaeth a’r cyfnodau hanesyddol dan sylw.
- Yn medru ystyried y gweithiau llenyddol yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol, gan ddangos ymwybyddiaeth o berthynas y llenyddiaeth i rai o brif gysyniadau’r cyfnodau dan sylw.
- Yn ymwybodol o brif ddigwyddiadau a chyfnodau hanesyddol yr ystod dan sylw.
- Yn ymwybodol o rai o brif lenorion a phrif weithiau llenyddol yr iaith Gymraeg o’r Oesau Canol cynnar hyd heddiw.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Written exercise 1
Weighting
30%
Due date
09/11/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Written exercise 2
Weighting
30%
Due date
14/12/2022
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Oral presentation
Weighting
10%
Due date
21/04/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Traethawd byr
Weighting
30%
Due date
01/05/2023