Module CXC-2118:
Gweithdy Barddoniaeth
Gweithdy Barddoniaeth 2024-25
CXC-2118
2024-25
School of Welsh
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gerwyn Wiliams
Overview
Dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig: cyfeirir at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl sy'n dilyn y modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw i’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema i’r modiwl hwn: deunyddiau, e.e. delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau, e.e. yr haicw a phenillion telyn; vers libre neu'r wers rydd; y delyneg a’r filanél; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys, e.e. cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.

Assessment Strategy
-threshold -D- i D+1.dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith;2.dangos gallu i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol;3.dangos gallu i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddol;4.dangos gallu i ysgrifennu’n greadigol;5.dangos gallu i ysgrifennu’n feirniadol;6.dangos gafael ar gystrawen a theithi’r Gymraeg.
-good -B- i B+1.dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith;2.dangos gallu da i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol;3.dangos gallu da i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddol;4.dangos gallu da i ysgrifennu’n greadigol;5.dangos gallu da i ysgrifennu’n feirniadol;6.dangos gafael dda ar gystrawen a theithi’r Gymraeg.
-excellent -A- i A*1.dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith;2.dangos gallu sicr i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol; 3.dangos gallu sicr i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddol;4.dangos gallu sicr i ysgrifennu’n greadigol;5.dangos gallu sicr i ysgrifennu’n feirniadol;6.dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi’r Gymraeg.
Learning Outcomes
- Cyflwyno eu traethawd ac adolygiad mewn iaith raenus a chywir.
- Cymhwyso’r hyn a enghreifftiwyd mewn seminarau, e.e. technegau a themâu, at eu hysgrifennu creadigol eu hunain;
- Sylweddoli gwerth mynegiant barddol gwreiddiol, bywiog a diddorol;
- Ymateb yn effro i amrywiaeth o gerddi gan ystod o feirdd;
- Ymelwa ar y cerddi a ystyriwyd a dwyn ysbrydoliaeth greadigol ohonynt;
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Portffolio o tua 10-15 o gerddi
Weighting
65%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd 2000 gair
Weighting
25%
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Adolygiad byr 800 gair
Weighting
10%