Module CXC-2119:
Gweithdy Rhyddiaith
Gweithdy Rhyddiaith 2024-25
CXC-2119
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Angharad Price
Overview
Mewn dosbarthiadau seminar byddir yn astudio'n fanwl enghreifftiau o ryddiaith Gymraeg yn ogystal â darnau o draddodiadau llenyddol eraill (mewn cyfieithiad) - esiamplau y gall egin lenorion eu cymryd fel patrymau ar gyfer eu gwaith eu hunain. Y mae ymdrechu i ymgydnabod ag amrywiaeth o wahanol genres, dulliau a chonfensiynau llenyddol yn rhan hollbwysig o ddatblygiad pob llenor. Rhoddir y prif sylw i ystyriaethau megis ffurfiau llenyddol a chrefft y llenor. Byddir yn tynnu sylw at nifer o ddamcaniaethau beirniadol ynghylch perthynas llenor â'i waith, a pherthynas y gwaith hwnnw â chynulleidfa. Gosodir tasgau wythnosol yn y seminarau, a chynhelir dosbarthiadau tiwtorial er mwyn trafod cynnyrch a chynnydd gwaith y myfyrwyr. Cymar i'r modiwl hwn yw 'Gweithdy Barddoniaeth'.
Assessment Strategy
-threshold -(D) Dylai'r traethawd ddangos cynefindra â'r syniadau beirniadol a drafodwyd ac â nifer dda o awduron, testunau a genres, ynghyd â gafael ar dermau technegol a geirfa'r ddigyblaeth, a gallu i gloriannu ffynonellau cynradd ac eilradd. Dylai'r gwaith creadigol amlygu dealltwriaeth o ofynion y cyfrwng dan sylw, gallu i gynllunio a datblygu syniadau, a dogn o wreiddioldeb a dychymyg. Yn y gwaith creadigol a'r gwaith dadansoddol dylid dangos gafael ar deithi'r Gymraeg a gallu i gymhwyso'r patrymau llenyddol a astudir at gyd-destunau creadigol a beirniadol. Dylai ymateb y myfyrwyr yn y dosbarthiadau tiwtorial amlygu gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill a pharodrwydd i gynnig barn bersonol.
-good -(B) Dylai'r traethawd amlygu gwybodaeth dda o'r testunau creadigol a beirniadol a astudir a hefyd am rychwant o awduron, testunau a genres mewn gwahanol gyfnodau. Dylai hefyd ddangos gallu i gasglu gwybodaeth ddefnyddiol o nifer fawr o ffynonellau, yn ysgrifenedig, llafar ac electronig. Dylai hefyd amlygu gafael dda ar dermau technegol y maes hwn. Dylai'r gwaith creadigol ddangos dealltwriaeth o'r cyfrwng dan sylw, gallu i ymdrin yn feirniadol â gwaith personol, gafael dda ar dechnegau arddull a strwythur, a chryn dipyn o wreiddioldeb a dychymyg. Yn y gwaith creadigol a'r gwaith dadansoddol dylid dangos gafael dda ar ramadeg y Gymraeg ynghyd â menter wrth gymhwyso'r patrymau llenyddol a astudir at gyd-destunau newydd. Dylai perfformiad y myfyrwyr yn y dosbarthiadau tiwtorial ddangos gallu i ymateb yn ddeallus i farn, i fynegi barn bersonol gytbwys, ac i gyflwyno a datblygu dadl yn glir ac yn rhesymegol.
-excellent -(A) Dylai'r traethawd ddangos gwybodaeth drylwyr am rychwant eang o awduron, testunau a genres llenyddiaeth Gymraeg a rhai llenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad) mewn gwahanol gyfnodau, ynghyd â dealltwriaeth drylwyr ohonynt, a gallu aeddfed i'w cymharu â'i gilydd a'u gosod yn eu cyd-destunau hanesyddol a llenyddol priodol. Dylai hefyd amlygu gallu i gywain gwybodaeth ddadlennol o rychwant eang o ffynonellau ac i ddefnyddio'r wybodaeth honno'n dreiddgar. Dylai'r gwaith hefyd amlygu gafael gadarn ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth. Dylai'r gwaith creadigol ddangos meistrolaeth ar dechnegau arddull a strwythur, gwreiddioldeb a dychymyg anghyffredin wrth fynd i'r afael â phwnc, ynghyd â gallu datblygedig i drafod gwaith personol yn feirniadol adeiladol ac i sicrhau prifiant llenyddol o dasg i dasg. Yn y gwaith creadigol a'r gwaith beirniadol dylid amlygu gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg, a dawn i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau'r iaith mewn amryw gyd-destunau. Yn ogystal dylai'r gwaith ddangos dyfeisgarwch a pharodrwydd i arbrofi wrth gymhwyso'r patrymau llenyddol a astudir at sefyllfaoedd newydd. Dylai ymateb y myfyrwyr yn y dosbarthiadau tiwtorial ddangos gallu datblygedig i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol aeddfed, ac i ddatblygu dadl estynedig yn ystyrlon ac yn effeithiol.
Learning Outcomes
- Archwilio themau mewn darn o ysgrifennu creadigol
- Dangos agwedd adfyfyriol at y gwaith o greu darn o ysgrifennu creadigol
- Datblygu, cynllunio a chynnal prosiect creadigol estynedig
- Gwerthfawrogi pwysigrwydd darllen i ysgogi rhagoriaeth mewn ysgrifennu creadigol
- Gwneud defnydd priodol o dechnegau arddull mewn darn o ysgrifennu creadigol
- Profi rheolaeth ymarferol ar dechnegau ysgrifennu creadigol
- Sylweddoli pwysigrwydd golygu ac ailddrafftio darn o ysgrifennu creadigol
- Ymrdin yn ymarferol a genres llenyddol
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Portffolio
Weighting
70%
Due date
10/01/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Traethawd
Weighting
30%
Due date
08/11/2024