Module CXC-3009:
Traethawd Estynedig
Traethawd Estynedig 2024-25
CXC-3009
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Manon Williams
Overview
Bwriedir i’r modiwl hwn roi cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol, ond dan gyfarwyddyd personol. Mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, dewisir pwnc priodol ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, neu astudiaethau cymharol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno traethawd 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasgau rhagarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Disgwylir i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu traethawd.
Assessment Strategy
-threshold -D- i D+Dylai'r traethawd ddangos cynefindra â'r prif ffynonellau gwybodaeth, ynghyd â'r gallu i gywain a dadansoddi deunydd a mynegi barn bersonol. Dylai'r dasg dechnegol ddangos cynefindra â'r egwyddorion, a dylai'r dasg lafar fod yn gyflwyniad clir mewn ieithwedd briodol. Rhaid dangos gafael ar deithi'r Gymraeg ymhob tasg.
-good -B- i B+Dylai'r traethawd ddangos gwybodaeth dda o'r prif ffynonellau ynghyd â'r gallu i gywain a dadansoddi ystod dda o ddeunydd ac i fynegi barn bersonol ystyriol. Dylai'r dasg dechnegol gael ei chyflawni'n bur gywir, a dylai'r dasg lafar fod yn gyflwyniad clir a chytbwys, mewn ieithwedd addas a graenus. Dylai pob tasg ddangos gafael dda ar deithi'r Gymraeg.
-excellent -A- i A*Dylai'r traethawd ddangos gwybodaeth drylwyr o ystod eang o ffynonellau gwybodaeth, ynghyd â gallu datblygedig i gywain a dadansoddi deunydd. Dylid arddangos barn bersonol aeddfed a meddylgar. Dylai'r dasg dechnegol gael ei chyflwyno'n gywir iawn, a dylai'r cyflwyniad llafar arddangos dawn i drafod yn fywiog ac yn ystyriol mewn ieithwedd gaboledig. Dylai pob tasg ddangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Learning Outcomes
- Arddangos sgiliau technegol wrth gyflwyno gwaith ysgrifenedig.
- Casglu deunydd yn annibynnol ar bwnc gosodedig.
- Cyflwyno deunydd a chynnal trafodaeth ar lafar.
- Dangos ymwybyddiaeth o gyd-destun llenyddol a diwylliannol.
- Defnyddio ieithwedd bwrpasol a mynegiant clir a graenus wrth draethu ar ei ddewis bwnc.
- Dethol defnyddiau a'u cyflwyno'n drefnus.
- Ymateb yn feirniadol i'r pwnc
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd 8000 o eiriau
Weighting
75%
Due date
18/04/2023
Assessment method
Oral Test
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad Llafar
Weighting
15%
Due date
09/05/2023
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
crynodeb, ymarferiad llyfryddol +cyflwyno troednodiadau
Weighting
10%
Due date
18/04/2023