Module CXC-3202:
Athroniaeth a Llenyddiaeth
Athroniaeth a Llenyddiaeth 2024-25
CXC-3202
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Aled Llion Jones
Overview
Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir: y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth. Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth: e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd. Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy: D- i D+Mae gwaith llafar ac ysgrifenedig yn ddigonol ac yn dangos lefel dderbyniol o fedrusrwydd fel a ganlyn:- Cywir a rhugl ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac elfennau wedi eu hepgor.- Gwneir haeriadau heb dystiolaeth ategol glir neu heb resymu; ffurfir cwestiynau wrth drafod yn aneglur neu gan ddangos diffyg ffocws.- Mae strwythur i’r gwaith ond mae’n ddiffygiol o ran eglurder ac felly’n dibynnu ar y darllenydd neu’r cyd-drafodwr i wneud cysylltiadau ac i ragdybio.- (Mewn gwaith ysgrifenedig ac mewn cyflwyniadau llafar hirach) Defnyddir ystod cymharol gul o ddeunyddiau.
-good -Da C- i C+Medrus drwyddi draw: o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Arddangosir nodweddion megis a ganlyn:- Fframwaith da a dadleuon wedi’u datblygu’n rhesymegol.- Bydd yn defnyddio (yn rhannol, o leiaf) ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu a ddefnyddir ac a gyflwynir mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.- Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.- Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.- (Mewn gwaith ysgrifenedig ac mewn cyflwyniadau llafar hirach) Defnyddir ystod da o ddeunyddiau.Da iawn B- i B+ Mae’r gwaith a gyflwynir yn fedrus drwyddo draw a gwelir arddull a dull a dewis o ddeunyddiau cefnogol sy'n rhagori. Mae’n dangos:- Fframwaith da iawn a dadleuon sydd wedi eu datblygu’n rhesymegol.- Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol (yn enwedig mewn gwaith ysgrifenedig ond hefyd wrth gyflwyno a thrafod ar lafar), neu a ddefnyddir mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.- Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.- Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.
-excellent -Rhagorol A- i A* Mae’r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol; aiff y tu hwnt i’r nodweddion a restrir uchod ab ydd yn ac yn rhagori mewn un neu ragor o'r ffyrdd canlynol:- Mae’n cyflwyno syniadau mewn ffordd wreiddiol, a safbwynt y myfyriwr/wraig ei hun yn gwbl amlwg. - Mae’n dangos tystiolaeth glir o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol.- Cyflwynir dadleuon yn eglur, ar lafar neu mewn cyflwyniadau llafar estynedig, gan resymu fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.- Bydd cyfathrebu ar lafar yn rhugl yn gyson, gan arddangos ffocws glir wrth ddatblygu syniadau ac egluro unrhyw ansicrwydd..
Learning Outcomes
- Cyflwyno barn aeddfed a datblygedig gan ddadlau’n rhesymegol , yn feirniadol ac yn gywir mewn traethawd.
- Cyflwyno barn aeddfed a datblygedig gan ddadlau’n rhesymegol, yn feirniadol ac yn gywir ar lafar.
- Deall a gwerthuso pwysigrwydd ystod o ddulliau o ymwneud â llenyddiaeth, fel y’u gwelir yng ngweithiau allweddol yn hanes athroniaeth, a medru cymhwyso’r dealltwriaeth i’w (g)waith academaidd ef/hi ei hun.
- Medru cymhathu (1) methodoleg athronyddol allweddol a (2) ystod eang o gysyniadau athronyddol hanfodol i’r gwaith o astudio testunau llenyddol, ac esbonio sut y bydd y rhain yn aml yn cyfateb i fethodoleg a chysyniadau theori lenyddol.
- Medru trafod y gwahaniaethau a’r gorgyffwrdd a geir rhwng yr hyn a elwir yn iaith ‘athronyddol’ ac iaith ‘lenyddol’, a medru adlewyrchu ar oblygiadau hyn i’w (g)waith academaidd ef/hi ei hun.
- Trafod ffyrdd y mae athroniaeth a llenyddiaeth yn aml yn ymwneud â’r un cysyniadau allweddol, gan esbonio sut y mynegir yr ystyriaethau hyn.
Assessment type
Summative
Weighting
10%
Assessment type
Summative
Weighting
35%
Assessment type
Formative
Weighting
0%
Assessment type
Summative
Weighting
55%