Module CXC-4015:
Traethawd Estynedig
Traethawd Estynedig 2024-25
CXC-4015
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 3
60 credits
Module Organiser:
Angharad Price
Overview
Mae 'Traethawd Estynedig' yn un o fodiwlau craidd MA: Cymraeg. Bydd yr union faes trafod yn dibynnu ar raglen unigol pob myfyriwr ac yn adeiladu ar y seiliau a osodwyd yn y tri modiwl rhagofynnol. Bydd pwyslais canolog ar weithio'n annibynnol a cheir mewn tiwtorialau gymorth i bennu a diffinio maes trafod, awgrymiadau ynghylch ffynonellau perthnasol, cyfarwyddyd ynghylch strwythuro'r drafodaeth, cyngor ynghylch trefnu deunyddiau, arweiniad ynghylch agweddau technegol, ac adborth i fersiynau drafft o'r gwaith.
Assessment Strategy
-threshold -C- i C+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Pasio1.dangos gallu i weithio'n annibynnol2.dangos gallu i ysgrifennu'n feirniadol3.dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol4.dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill5.dangos gallu i strwythuro trafodaeth estynedig ac arbenigol a'i chynllunio'n rhesymegol6.dangos gallu i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth7.dangos gafael ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth8.dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-good -B- i B+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Teilyngdod1.dangos gallu da i weithio'n annibynnol2.dangos gallu da i ysgrifennu'n feirniadol3.dangos gallu i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol gytbwys, ac i gyflwyno a datblygu dadl, yn glir ac yn rhesymegol4.dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys5.dangos gallu da i strwythuro trafodaeth estynedig ac arbenigol a'i chynllunio'n rhesymegol6.dangos gallu da i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth7.dangos gafael dda ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth8.dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
-excellent -A- i A* - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Rhagoriaeth1.dangos gallu datblygedig i weithio'n annibynnol 2.dangos gallu datblygedig i ysgrifennu¿n feirniadol3.dangos gallu datblygedig i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol aeddfed ac annibynnol, ac i gyflwyno a datblygu dadl estynedig, yn glir, yn rhesymegol ac yn gydlynus4.dangos gallu datblygedig i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys5.dangos gallu datblygedig i strwythuro trafodaeth estynedig ac arbenigol a'i chynllunio'n rhesymegol6.dangos gallu datblygedig i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth7.dangos gafael sicr ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth8.dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Learning Outcomes
- Arddangos medrau technegol wrth gyflwyno gwaith ysgrifenedig
- Casglu deunydd yn annibynnol ar bwnc gosodedig o ffynonellau priodol
- Cyflwyno, datblygu a chynnal trafodaeth academaidd estynedig.
- Dangos ymwybyddiaeth o gyd-destun llenyddol, diwylliannol a beirniadol
- Dethol deunyddiau a'u cyflwyno'n drefnus
- Ennill dealltwriaeth arbenigol o faes penodol yn deillio o waith ymchwil yn seiliedig ar ffynonellau cynradd a/neu eilaidd.
- Paratoi traethawd academaidd yn unol â'r confensiynau priodol
- Ymateb yn feirniadol ac yn wreiddiol i'r pwnc
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Tasgau technegol
Weighting
20%
Due date
29/09/2023
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd Estynedig
Weighting
80%
Due date
30/09/2023