Module ICC-2701:
DA a Dylunio Gemau
Deallusrwydd Artiffisial a Chynllunio Gemau 2024-25
ICC-2701
2024-25
School Of Computer Science And Electronic Engineering
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Llyr Ap Cenydd
Overview
Crynodeb o'r cynnwys:
• Cyflwyniad i dechnolegau Deallusrwydd Artiffisial (AI) a sut y gellir eu defnyddio i adeiladu gemau cyfrifiadurol.
• Cyflwyniad i bwnc creiddiol sef defnyddio algorithmau a dulliau deallusrwydd artiffisial mewn gemau cyfrifiadurol modern.
• Cyflwyniad i'r technolegau priodol sy'n gwneud gemau'n bosibl trwy gynllunio symudiadau, animeiddio ac ymddygiad mewn gemau.
• Cyflwyno sut y gellir defnyddio algorithmau chwilio o fewn cyd-destun gêm.
• Cyflwyno cysyniadau Bywyd Artiffisial a sut y cânt eu defnyddio mewn gemau.
• Darparu profiad ymarferol o ddatblygu cyfryngau a thechnegau deallusrwydd artiffisial mewn injan gêm.
Assessment Strategy
-threshold -Cyfateb i 40%. Defnyddio meysydd theori neu wybodaeth allweddol i fodloni deilliannau dysgu'r modiwl. Gallu llunio ateb priodol i ddatrys tasgau a chwestiynau'n gywir. Gallu nodi agweddau unigol, ond ddim yn ymwybodol o'r cysylltiadau rhyngddynt a'r cyd-destunau ehangach. Gallu deall canlyniadau, ond mae diffyg strwythur a/neu gydlyniant.
-good -Cyfateb i'r ystod 60% -69%. Gallu dadansoddi tasg neu broblem i benderfynu pa agweddau ar theori a gwybodaeth i'w defnyddio. Mae'r atebion o ansawdd ymarferol, yn dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol. Gallu cysylltu prif themâu yn briodol ond efallai ddim yn gallu ymestyn hyn i agweddau unigol. Mae canlyniadau'n hawdd eu deall, gyda strwythur priodol ond efallai heb soffistigeiddrwydd.
-excellent -Cyfateb i'r ystod 70%+. Casglu ynghyd feysydd gwybodaeth a theori perthnasol a werthuswyd yn feirniadol i lunio atebion ar lefel broffesiynol i dasgau a chwestiynau a gyflwynir. Gallu croes-gysylltu themâu ac agweddau i ddod i gasgliadau ystyriol. Cyflwyno canlyniadau mewn modd cydlynol, cywir ac effeithlon.
Learning Outcomes
- Archwilio pryderon ynghylch materion proffesiynol, moesol a moesegol mewn AI a gemau.
- Cymharu a chyferbynnu cysyniadau bywyd artiffisial, asiantau deallus ac AI sy'n seiliedig ar ymddygiad, a sut y gellir eu cymhwyso wrth ddylunio gemau fideo.
- Cysylltu gwahanol dechnolegau AI a sut y gellir eu cymhwyso i adeiladu gemau cyfrifiadurol.
- Dadansoddi strategaethau chwilio a llywio amrywiol a'u cymhwyso wrth ddatblygu gemau cyfrifiadurol.
- Gweithredu algorithmau AI ac adeiladu gemau gan ddefnyddio injan gêm.
- Trafod cyflwr celf a dyfodol AI mewn gemau.
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Blog documenting development of game.
Weighting
30%
Due date
02/05/2025
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
End of semester examination.
Weighting
30%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Game AI Implementation + Source Code.
Weighting
40%
Due date
02/05/2025