Module JXC-1055:
Sylfeini Seicoleg Chwaraeon ac
Foundations of Sport & Exercise Psychology 2024-25
JXC-1055
2024-25
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Eleri Jones
Overview
Nod y modiwl hwn yw i gyflwyno rhai meysydd allweddol ymchwil seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff cyfoes. Bydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff a bydd yn eich helpu i wneud dewisiadau mwy addysgedig ynghylch pa feysydd chwaraeon ac ymarfer corff i arbenigo ynddynt wrth i chi symud ymlaen i flynyddoedd dau a thri. Byddwn yn ymdrechu i ddod â'r deunydd yn fyw trwy gyflwyno enghreifftiau go iawn o gysyniadau seicoleg ar waith mewn lleoliadau chwaraeon a perfformiad. Wrth wneud hynny, byddwch yn dysgu sut y gall seicolegwyr chwaraeon ac ymarfer corff gymhwyso ymchwil wyddonol i ddatblygu pecynnau seicolegol i gefnogi cleientiaid/athletwyr.
Bydd myfyrwyr ar y modiwl hwn yn dysgu am y damcaniaethau a'r modelau seicolegol mwyaf dylanwadol mewn chwaraeon, ymarfer corff, ac iechyd. Gall y pynciau gynnwys: “Damcaniaethau cymhelliant”, “Y dull ymddygiad gwybyddol”, “Agweddau meddyliol o berfformiad”, “straen, pryder, a chynnwrf”, “emosiynau”, “seicoleg gymdeithasol”, “proffilio seicolegol”, ac ati.
Assessment Strategy
-trothwy -D- i C+. Mae'r gwaith yn dangos gwybodaeth am feysydd / egwyddorion allweddol yn unig ac mae tystiolaeth gyfyngedig o wreiddioldeb neu astudiaeth gefndir. Mae'r gwaith yn cynnwys rhai deunyddiau amherthnasol a gwendidau o ran strwythur. Cyflwynir dadleuon ond nid oes ganddynt gydlyniad. Mae'r gwaith yn cynnwys gwallau ffeithiol/cyfrifiadol heb fawr o dystiolaeth o ddatrys problemau. Mae yna gwendidau yn safon y cyflwyniad a'i gywirdeb.
Da iawn -B- i B+. Mae'r gwaith yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn ond gyda rhai cyfyngiadau. Mae yna dystiolaeth o astudiaeth gefndirol. Roedd gan y gwaith strwythur diffiniedig a rhesymegol ond gyda rhai gwendidau yn y ffordd y cyflwynir dadleuon. Mae rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol ac arddangosiad o gysylltiadau rhwng pynciau. Cyflwynir y gwaith yn ofalus gyda chyfathrebu cywir ac ychydig o wallau ffeithiol neu gyfrifiadurol.
ardderchog - A- ac uwch. Mae gwaith yn arddangos gwybodaeth gynhwysfawr a dealltwriaeth fanwl, gan adlewyrchu astudiaeth gefndirol helaeth. Mae gan y gwaith yn ffocws clir, wedi'i strwythuro'n dda, wedi'i gyflwyno'n rhesymegol a gyda dadleuon wedi eu cefnogi gan tystiolaeth. Mae'r gwaith yn cynnwys dehongliad gwreiddiol a datblygir cysylltiadau synhwyrol rhwng pynciau. Mae'r gwaith wedi ei gyflwyno i safon uchel gyda chyfathrebu cywir a dim gwallau ffeithiol na chyfrifiannol.
Learning Outcomes
- Cydnabod y ddamcaniaeth y tu ôl i bynciau allweddol mewn seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff.iad.
- Egluro sut y gellir cymhwyso theori mewn ymchwil ymarferol.
- Nodi canlyniadau papurau ymchwil allweddol ar bynciau sylfaenol mewn seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Cyfres o gwestiynau traethawd byr ar y damcaniaethau allweddol a'r papurau ymchwil a gwmpesir yn y modiwl.
Weighting
40%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
MCQ canol tymor. Cwestiynau MCQ ar y damcaniaethau allweddol a'r papurau ymchwil a gwmpesir yn y modiwl hyd yn hyn.
Weighting
20%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd critigol yn disgrifio damcaniaeth graidd o'r modiwl ac ymchwil berthnasol, a chymhwyso'r theori i fywyd go iawn. Er enghraifft, gallai'r traethawd ofyn i chi ddisgrifio ymchwil sy'n ymwneud â: a) yr effeithiau cadarnhaol y gall gweithio mewn tîm eu cael ar berfformiad aelodau unigol; b) yr effeithiau negyddol y gall gweithredu mewn tîm eu cael ar berfformiad aelodau unigol; ac c) y math o strategaethau y gallai seicolegydd eu defnyddio i geisio gwneud y gorau o berfformiadau unigol mewn lleoliadau tîm.
Weighting
40%
Due date
08/05/2022