Module JXC-1060:
Sgiliau Chwaraeon Padlo Ymarfe
Sgiliau Chwaraeon Padlo Ymarferol 2024-25
JXC-1060
2024-25
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 1 & 2
10 credits
Module Organiser:
Thandi Gilder
Overview
Mae'r modiwl Sgiliau Chwaraeon Padlo Ymarferol yn sicrhau bod gennych lwyfan cadarn y gallwch ddatblygu ohono fel academydd ac ymarferydd yn ystod eich amser fel myfyriwr israddedig a thu hwnt. Bydd datblygu sgiliau sylfaenol yn canolbwyntio ar y cymwyseddau sydd eu hangen i weithredu'n ddiogel fel aelod grŵp mewn amgylcheddau mewndirol ac arfordirol. Cefnogir y gweithgaredd ymarferol gan bodlediadau byr a/neu sesiynau ystafell ddosbarth gyda'r nod o ddatblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth sy'n gysylltiedig â chymryd rhan mewn chwaraeon padlo'n ddiogel. Er bod llawer o'r diwrnodau ymarferol yn syfrdanol ac mae'n wych mynd allan o'r ystafell ddosbarth, nodwch fod cymryd rhan yn y modiwl hwn yn gofyn am ymrwymiad o amser ac ymdrech mewn amgylchedd sy'n aml yn oer, ac a allai fod yn beryglus. Yn olaf, mae'r holl staff addysgu yn Aseswyr Canŵio Prydain a Hyfforddwyr Perfformiad UKCC/BC, sy'n galluogi'r Brifysgol i roi cyfle i chi ennill gwobrau corff llywodraethu a gydnabyddir yn genedlaethol, gan eich helpu i fod yn 'barod am gyflogaeth' ar ôl graddio.

Assessment Strategy
-trothwy - Rydych wedi dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth sylfaenol sy'n gysylltiedig â chymryd rhan ddiogel mewn canŵio a chaiacio. Nodwch, er mwyn sicrhau bod y canlyniadau dysgu wedi eu bodloni a safonau iechyd a diogelwch wedi eu cynnal, mae sesiynau ymarferol yn orfodol. Os byddwch yn colli dau neu fwy o'r deg sesiwn ymarferol heb amgylchiadau lliniarol, byddwch yn methu'r modiwl.
-da -Rydych wedi dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dda sy'n gysylltiedig â chymryd rhan ddiogel mewn canŵio a chaiacio. Rydych hefyd wedi dangos gallu i addasu i beryglon amgylcheddol sy'n newid, gyda chymorth gan hyfforddwr ar adegau. Yn olaf, rydych wedi dangos lefel dda o ddatblygu sgiliau yn y cymwyseddau sydd eu hangen i weithredu'n ddiogel fel aelod grŵp mewn amgylcheddau mewndirol ac arfordirol.
-ardderchog -Rydych wedi dangos lefel uchel o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth sy'n gysylltiedig â chymryd rhan ddiogel mewn canŵio a chaiacio. Rydych hefyd wedi dangos gallu i addasu i beryglon amgylcheddol newidiol heb gymorth gan hyfforddwr. Yn olaf, rydych wedi dangos lefel sylweddol o ddatblygiad sgiliau yn y cymwyseddau sydd eu hangen i weithredu'n ddiogel fel aelod grŵp mewn amgylcheddau mewndirol ac arfordirol.
Learning Outcomes
- Adnabod, deall ac addasu i'r peryglon amgylcheddol newidiol sy'n gysylltiedig â chanŵio a chaiacio.
- Cymryd rhan yn ddiogel, o fewn grŵp, tra'n canŵio a chaiacio mewn amgylcheddau mewndirol ac arfordirol.
- Datblygu a deall cymwyseddau a sgiliau sylfaenol sy'n sail i gymryd rhan ddiogel mewn canŵio a chaiacio.
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Mae'r aseiniad hwn yn gofyn i chi: 1) myfyrio ar eich cynnydd mewn chwaraeon padlo yn ystod eich blwyddyn gyntaf, a 2) drwy ddadansoddiad SWOT ystyried eich cryfderau a'ch gwendidau a nodi cyfleoedd a bygythiadau i'ch cynnydd parhaus ym mlwyddyn dau.
Weighting
50%
Due date
27/03/2023
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Mae'r aseiniad hwn yn gofyn i chi: 1) myfyrio ar eich cynnydd mewn chwaraeon padlo yn ystod eich semester cyntaf, a 2) drwy ddadansoddiad SWOT ystyried eich cryfderau a'ch gwendidau a nodi cyfleoedd a bygythiadau i'ch cynnydd parhaus yn semester 2.
Weighting
50%
Due date
16/12/2024