Module JXC-3090:
Gwyddor Chwaraeon Cymhwysol o
Gwyddor Chwaraeon Cymhwysol o Berfformiad Elît 2024-25
JXC-3090
2024-25
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Thandi Gilder
Overview
Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau ymarferol a damcaniaethol i chi sy'n sylfaenol ar gyfer gweithio gyda phoblogaethau athletaidd ac yn ymwneud ag ymarfer corff. Bydd hanner cyntaf y modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol. Mae'r cynnwys ymarferol wythnosol hwn wedi'i gynllunio i ddatblygu ystod eang o sgiliau ymarferol ar themâu pwysig, er enghraifft; mesuriadau uniongyrchol ac anuniongyrchol o dderbyniad ocsigen macsimal, profion trothwy lactad, profion anaerobig, profion maes, hyblygrwydd a chyfansoddiad y corff. Bydd y sesiynau ymarferol hyn yn mabwysiadu dull ymarferol fel y gallwch gymryd rhan uniongyrchol mewn casglu data a rhoi'r sgiliau angenrheidiol i chi eich hun i roi'r profion hyn ar waith yn effeithiol.
Nawr eich bod wedi caboli eich sgiliau ymarferol, bydd ail hanner y modiwl yn canolbwyntio ar sut y gellir integreiddio'r sgiliau ymarferol hyn i ddylunio cynllun hyfforddi athletwyr. Felly, bydd ail ran y modiwl yn canolbwyntio ar gysyniadau megis y broses dadansoddi anghenion, yn ogystal â chyfnodoldeb, rhaglennu a phenodoldeb i'ch galluogi i fabwysiadu'r egwyddorion sylfaenol sy'n gysylltiedig â gynllunio hyfforddiant a gwerthfawrogi sut y gall yr egwyddorion hyn amrywio yn dibynnu ar y parth chwaraeon (e.e. chwaraeon cryfder a phŵer, chwaraeon tîm, chwaraeon tîm, chwaraeon aerobig).
Byddwn yn dechrau drwy ganolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau ymarferol sy'n datblygu eich sgiliau i weithredu profion sy'n mesur marcwyr fel y defnydd ocsigen macsimal uniongyrchol ac anuniongyrchol, trothwyon lactad, marcwyr anaerobig, cyfansoddiad y corff, a mesurau ar y maes.
Yna bydd ail ran y modiwl yn ymdrin â'r pynciau damcaniaethol sy'n ymwneud â cynllunio hyfforddiant. Bydd y sesiynau hyn yn canolbwyntio ar bynciau megis y broses dadansoddi anghenion, cyfnodoli a rhaglennu, profi a phenodoldeb, monitro ac adfer, ac yn hollbwysig sut y gall yr ystyriaethau hyn amrywio o bryd i'w gilydd mewn ffordd sy'n ddibynnol ar gyd-destun (e.e. chwaraeon a phoblogaethau gwahanol).
Assessment Strategy
GWYCH A (70-100%) Rhagorol - Dealltwriaeth ragorol o ofynion asesu heb unrhyw anghywirdebau na chamdybiaethau. Gwybodaeth fanwl ragorol o'r asesiadau ffisiolegol, ystyriaethau diogelwch a'r holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar y cyfranogwr. Cynhaliwyd y Viva mewn modd proffesiynol iawn lle mae'r cyfathrebu yn rhagorol, cryno, ac yn hynod berthnasol.
Gellid trosglwyddo adborth y cleient i gleient go iawn heb angen unrhyw olygiadau. Mae adroddiad y cleient yn dangos dealltwriaeth ffisiolegol fanwl ac ymwybyddiaeth feirniadol o ba baramedrau sydd fwyaf perthnasol i'r athletwr a sut y gellir dehongli a chymhwyso data yn y lleoliad hwn. Mae cyfathrebu â'r gwirfoddolwr yn gryno, yn addas i'r diben ac yn addysgiadol iawn.
Dadansoddiad o anghenion wedi cyflawni i safon ardderchog gyda beirniadaeth academaidd glir. Mae nodau ar gyfer yr ymyrraeth, a dewisiadau profion yn glir ac wedi eu cyfiawnhau'n academaidd. Defnydd o feirniadaeth amlwg a chefnogaeth academaidd dtrwy gydol y gwaith. Defnydd amlwg a rhesymegol o gyfnodoli sy'n dangos dealltwriaeth drylwyr o'r cysyniad a gallu beirniadol i'w gymhwyso'n briodol i senario penodol. Tystiolaeth ragorol o'r defnydd o raglennu cynlluniau hyfforddiant priodol i gwrdd â strwythur cyfnodol mwy cyffredinol. Mae dadansoddiad critigol, cyfiawnhad dewisiadau, a chefnogaeth wyddonol yn amlwg drwy gydol y gwaith. Wedi'i ysgrifennu'n dda, yn gryno, ac wedi'i strwythuro'n gywir, a defnydd cywir o ddyfyniadau.
DA IAWN B (60-69%) Dealltwriaeth dda iawn o ofynion asesu gydag ychydig iawn o anghywirdebau neu hepgoriadau. Gwybodaeth dda a manwl iawn am yr asesiadau ffisiolegol, ystyriaethau diogelwch a'r holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar y cyfranogwr. Cynhaliwyd y Viva mewn modd proffesiynol lle roedd y cyfathrebu yn dda iawn, yn gryno ac yn berthnasol ar y cyfan.
Mae adborth y cleient o safon y gellid trosglwyddo'r adroddiad i gleient go iawn gyda rhai golygiadau. Mae adroddiad y cleient yn dangos, mae dealltwriaeth ffisiolegol fanwl yn y rhan fwyaf o feysydd a'r rhan fwyaf o agweddau'r asesiad yn dangos ymwybyddiaeth feirniadol o ba baramedrau sydd fwyaf perthnasol i'r athletwr a sut y gellir dehongli a chymhwyso data yn y lleoliad penodol hwn. Mae cyfathrebu â'r gwirfoddolwr yn gryno, yn addas i'r diben ac yn addysgiadol yn bennaf.
Dadansoddiad anghenion wedi cyflawni i safon dda iawn gyda beirniadaeth academaidd ar y cyfan. Mae nodau ar gyfer yr ymyrraeth a dewisiadaru profion yn glir yn bennaf ac yn cael eu cyfiawnhau'n academaidd. Defnydd o feirniadaeth amlwg a chefnogaeth academaidd drwy gydol y gwaith. Mae'r defnydd o gyfnodoli yn rhesymegol yn bennaf ac mae'n dangos dealltwriaeth dda iawn o'r cysyniad a gallu beirniadol i'w gymhwyso'n briodol i senario penodol. Tystiolaeth dda iawn o'r defnydd o raglennu cynlluniau hyfforddiant priodol i gwrdd â strwythur cyfnodol mwy cyffredinol, efallai y bydd un neu ddwy agwedd ar goll. Mae dadansoddiad critigol, cyfiawnhad dewisiadau, a chefnogaeth wyddonol yn amlwg yn bennaf. Wedi'i ysgrifennu'n dda, yn gryno, ac wedi'i strwythuro'n gywir, a defnydd cywir o ddyfyniadau. Mae un neu ddau o wallau hefyd yn bresennol mewn mannau.
DA C (50-59%) Da – Dealltwriaeth dda o ofynion asesu ond rhai anghywirdebau neu hepgoriadau pwysig. Tystiolaeth dda o wybodaeth fanwl am yr asesiadau ffisiolegol mewn mannau, tystiolaeth dda o ystyriaethau diogelwch sy'n berthnasol i'r prawf a'r wybodaeth sydd ei hangen ar y cyfranogwr. Cynhaliwyd y Viva mewn modd proffesiynol yn bennaf lle roedd y cyfathrebu'n dda, efallai na fydd gwybodaeth yn glir ac yn berthnasol mewn lleoedd ac efallai na fydd yn cael ei chyflwyno'n gryno.
Mae adborth y cleient o safon y gellid trosglwyddo'r adroddiad i gleient go iawn, ond nid cyn rhai golygiadau sylweddol. Mae adroddiad y cleient yn dangos dealltwriaeth ffisiolegol fanwl mewn rhai meysydd, ac mae agweddau ar yr asesiad yn dangos ymwybyddiaeth gritigol o ba baramedrau sydd fwyaf perthnasol i'r athletwr a sut y gellir dehongli a chymhwyso data yn y lleoliad hwn. Efallai na fydd cyfathrebu â'r gwirfoddolwr yn gryno neu ddim yn gwbl addas i'r diben, gall rhai agweddau o'r adroddiad fod yn gamarweiniol i'r cleient.
Dadansoddiad o anghenion wedi cyflawni i safon dda gyda beirniadaeth academaidd mewn rhai lleoedd, ond nid bob man. Mae nodau ar gyfer yr ymyrraeth a dewisiadau profi ychydig yn glir ac wedi'u cyfiawnhau'n academaidd. Mae rhai bylchau mewn cefnogaeth a/neu resymeg yn bresennol. Beirniadaeth amlwg a chefnogaeth academaidd mewn rhai mannau, ond nid yn gyson. Mae'r defnydd o gyfnodoli yn rhesymegol mewn mannau ac yn dangos dealltwriaeth dda o'r cysyniad a gallu beirniadol i'w gymhwyso'n briodol i senario penodol. Mae rhai achosion lle nad yw hyn bob amser yn wir. Tystiolaeth dda o'r defnydd o raglennu cynlluniau hyfforddiant priodol i gwrdd â strwythur cyfnodol mwy cyffredinol, efallai y bydd sawl agwedd ar goll hefyd. Mae dadansoddiad beirniadol, cyfiawnhad dewisiadau, a chefnogaeth wyddonol yn amlwg mewn mannau. Arddull ysgrifennu da, cryno mewn mannau, wedi'i strwythuro'n gywir, a defnydd cywir o ddyfyniadau. Mae gwallau hefyd yn bresennol mewn lleoedd mewn un neu fwy o'r meini prawf hyn.
PASS D (40-49%) Pasio - Dealltwriaeth sylfaenol o ofynion asesu gydag anghywirdebau neu gamsyniadau yn amlwg. Gall dealltwriaeth fod yn rhannol, neu gall fod yn amheus o gywirdeb. Cynhaliwyd y Viva gyda chyfathrebu da ond efallai nad oedd digon o ymarfer / paratoi digonol. Gall gwybodaeth a gyflwynir fod yn sylfaenol neu'n brin o eglurder mewn rhai meysydd arwyddocaol.
Mae rhywfaint o dystiolaeth o wybodaeth fanwl dda yn ymwneud â'r asesiadau ffisiolegol, ond yn bennaf dangosir dealltwriaeth sylfaenol. Mae ystyriaethau diogelwch a chyfathrebu gofynnol gyda'r gwirfoddolwr wedi eu crynhoi ar lefel sylfaenol. Byddai angen ail-ysgrifennu'r adroddiad adborth cleientiaid cyn ei anfon at gleient go iawn, ond dangoswyd dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau ffisiolegol cymhleth. Gall yr adroddiad ddangos rhywfaint o ymwybyddiaeth feirniadol o fesurau perthnasol i'r athletwr heb werthfawrogi'n llawn sut y gellir dehongli a chymhwyso'r data yn y lleoliad hwn. Efallai na fydd cyfathrebu â'r gwirfoddolwr yn gryno neu'n addas i'r diben, gall rhai agweddau pwysig ar yr adroddiad fod yn gamarweiniol i'r cleient.
Dadansoddiad o anghenion wedi cyflawni i safon sylfaenol gyda beirniadaeth academaidd ar goll mewn mannau. Mae nodau ar gyfer yr ymyrraeth a dewisiadau profi braidd yn aneglur heb fawr o gyfiawnhad academaidd. Llawer o fylchau mewn cefnogaeth a/neu resymeg. Mae beirniadaeth amlwg a chefnogaeth academaidd yn ddiffygiol i raddau helaeth. Mae'r defnydd o gyfnodoli yn rhesymegol o bryd i'w gilydd ond mae yna bylchau mewn dealltwriaeth o'r cysyniad ac ychydig o allu critigol i'w gymhwyso i senario penodol. Tystiolaeth sylfaenol o'r defnydd o gynlluniau hyfforddi priodol i gwrdd â strwythur cyfnodol mwy cyffredinol, efallai y bydd llawer o agweddau hefyd ar goll. Mae dadansoddiad critigol, cyfiawnhad dewisiadau, a chefnogaeth wyddonol braidd yn ddiffygiol. Arddull ysgrifennu sylfaenol, cryno mewn mannau, wedi'i strwythuro'n anghywir mewn mannau, a diffyg neu ddefnydd anghywir o ddyfyniadau.
Learning Outcomes
- Arddangos lefel uchel o hyfedredd wrth gynnal a dehongli sawl asesiad ffisiolegol craidd yn y labordy sy'n hanfodol ar gyfer cefnogi perfformiad elitaidd.
- Cyfathrebu'n glir ac yn broffesiynol gyda gwirfoddolwyr, gan arddangos hyfedredd wrth gyfleu cysyniadau gwyddoniaeth chwaraeon cymhleth mewn iaith hygyrch.
- Dadansoddi cysyniadau ffisiolegol yn feirniadol, dehongli a chymhwyso data i optimeiddio perfformiad athletaidd elitaidd.
- Gwerthuso ac integreiddio gwybodaeth am brofi, hyfforddi, strategaethau monitro, ac dadansoddiadiad anghenion i ddatblygu cynlluniau hyfforddi ac adfer cyfnodol a gefnogir yn wyddonol.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Adroddiad Adborth Cleientiaid Yn yr aseiniad hwn byddwch yn ysgrifennu adroddiad adborth cryno i athletwr/hyfforddwr, gan dynnu sylw at ganlyniadau allweddol o gasgliad o asesiadau ffisiolegol. Bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan y cleient ddealltwriaeth o'r paramedrau hyn a sut y gellir cymhwyso hyn i wella perfformiad.
Weighting
25%
Assessment method
Viva
Assessment type
Summative
Description
Arholiad Viva Voce Yn yr arholiad hwn, gofynnir i chi ddisgrifio'r gweithdrefnau profi ar gyfer asesiad ffisiolegol, wedi eu dewis ar hap o restr o weithdrefnau a ryddhawyd ymlaen llaw. Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth weithdrefnol yn ogystal ag ystyriaethau diogelwch perthnasol.
Weighting
25%
Assessment method
Case Study
Assessment type
Summative
Description
Bydd yr aseiniad hwn yn eich herio i ddefnyddio'r holl wybodaeth yr ydych wedi'i chael ar y modiwl i ddatblygu cynllun hyfforddi neu adfer sy'n mynd i'r afael orau ag un o pedwar senario astudiaeth achos y gallwch ddewis ohonynt.
Weighting
50%