Module LCE-3200:
Astudio'r Cyfryngau
Astudio'r Cyfryngau 2024-25
LCE-3200
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Jonathan Ervine
Overview
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio pwnc cyfoes sy'n berthnasol i un neu fwy o wledydd/rhanbarthau lle y siaredir yr iaith darged. Gwyntyllir y pwnc a ddewisir drwy brism y wasg a'r cyfryngau, er mwyn magu dealltwriaeth o'r pwnc penodol ond hefyd o'r cyhoeddiadau a chyfryngau sydd ar gael yn y gymdeithas dan sylw. Bydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys dadansoddiad o sut y mae mathau cyferbyniol o gyhoeddiadau a chyfryngau yn ymdrin â'r pwnc, yn ogystal ag asesiad o'u pwysigrwydd wrth ddylanwadu ar farn y cyhoedd. Ysgrifennir yr adroddiad yn yr iaith darged, ac atodir y deunyddiau a drafodir wrtho.
Erthyglau o'r cyfryngau a'r wasg a gesglir gan y myfyriwr fydd y prif ddeunyddiau ar gyfer y modiwl hwn. Bydd llawer o ddeunyddiau o'r fath ar gael ar-lein; bydd deunyddiau eraill ar gael ar ffurf gylchgronau a phapurau newydd a archebir gan yr Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern.
Bydd darllen ehangach yn dibynnu ar y pwnc a ddewisir, a bydd yn cynnwys yn bennaf gyhoeddiadau printiedig a ffynonellau ar-lein.
Assessment Strategy
-threshold -D- - D+: Gafael sylfaenol ar faterion allweddol yn ymwneud â'r pwnc a ddewisir a'r cyhoeddiadau a chyfryngau perthnasol sydd ar gael. Gallu cyfyngedig i ddadansoddi a deall materion yn eu cyd-destun, gan dynnu ar dystiolaeth destunol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol, ddiwylliannol a gwleidyddol ehangach. Dealltwriaeth sylfaenol o'r defnydd o rethreg, cywair ac arddull yn yr iaith darged, a gallu i gyflwyno dadleuon sylfaenol yn yr iaith darged gyda mesur cyfyngedig o gywirdeb ieithyddol.
-good -C- - B+: Gafael dda ar faterion allweddol yn ymwneud â'r pwnc a ddewisir a'r cyhoeddiadau a chyfryngau perthnasol. Peth gallu i ddadansoddi a deall materion yn eu cyd-destun, gan dynnu ar dystiolaeth destunol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol, ddiwylliannol a gwleidyddol ehangach. Dealltwriaeth dda o'r defnydd o rethreg, cywair ac arddull yn yr iaith darged, a gallu i gyflwyno dadleuon yn yr iaith darged gyda rhyw fesur o gywirdeb ieithyddol.
-excellent -A- - A*: Gafael ardderchog ar faterion allweddol yn ymwneud â'r pwnc a ddewisir a'r cyhoeddiadau a chyfryngau perthnasol. Gallu amlwg i ddadansoddi a deall materion yn eu cyd-destun, gan dynnu ar dystiolaeth destunol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol, ddiwylliannol a gwleidyddol ehangach. Dealltwriaeth ardderchog o'r defnydd o rethreg, cywair ac arddull yn yr iaith darged, a gallu i gyflwyno dadleuon uwch yn yr iaith darged gyda lefel uchel o gywirdeb ieithyddol.
Learning Outcomes
- Cyflwyno a strwythuro dadleuon mewn astudiaeth estynedig annibynnol, a gefnogir gan dystiolaeth destunol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol, ddiwylliannol a gwleidyddol ehangach.
- Dangos dealltwriaeth a sgiliau ysgrifennu uwch yn yr iaith darged.
- Dangos dealltwriaeth ehangach o oblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol y pwnc a ddewisir.
- Dangos dealltwriaeth fanwl o bwnc cyfoes mewn un neu fwy o wledydd / rhanbarthau lle siaredir yr iaith darged.
- Dangos dealltwriaeth glir o'r wasg a'r cyfryngau mewn cymdeithas benodol trwy astudiaeth fanwl o fathau cyferbyniol o gyhoeddiadau a chyfryngau, ac asesiad o'u dylanwad ar farn y cyhoedd.
- Dangos dealltwriaeth uwch o'r defnydd o rethreg yn yr iaith darged, a'r gallu i ddadansoddi amrywiaeth o arddulliau a chyweiriau.
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
Cynllun ysgrifenedig ar gyfer y project
Weighting
10%
Due date
07/11/2022
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad llafar am destun y project
Weighting
10%
Due date
27/01/2023
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Adroddiad ysgrifenedig ar y cyfryngau
Weighting
80%
Due date
24/04/2023