Traethawd Hir/Dissertation (Bilingual) 2024-25
QCB-3341
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
40 credits
Module Organiser:
Christopher Shank
Overview
Gall testunau amrywio, yn dibynnu ar ddewisiadau myfyrwyr a rhaglen y radd. Maent yn ymwneud ag ystod eang o faterion mewn ieithyddiaeth, ond rhaid iddynt fod yn berthnasol i raglen y radd y mae'r myfyriwr wedi cofrestru arni. Bydd testunau'n cynnwys, ymhlith eraill, ymchwil mewn Astudiaethau Iaith Saesneg, Ieithyddiaeth Wybyddol, Dwyieithrwydd, Caffael Iaith, Datblygiad Iaith, ac Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL). Bydd y rhan fwyaf o bynciau yn cynnwys casglu a dadansoddi data, ond ni fydd y posibilrwydd o ddefnyddio data presennol neu wneud adolygiad estynedig o lenyddiaeth yn cael ei eithrio os yw'n berthnasol i'r pwnc, ac y cytunir ar hynny â'r goruchwyliwr. Mae'r Ysgol yn gwneud pob ymdrech i oruchwylio'r testun o ddewis y myfyrwyr, fodd bynnag, ar yr adegau prin pan nad oes gan yr Ysgol y gallu i oruchwylio testun, cynghorir myfyrwyr i ddewis testun newydd.
Fodd bynnag, bydd dosbarthiadau yn cynnwys:
•Sut i lunio cwestiwn ymchwil.
•Cynhyrchu cynnig ymchwil.
•Methodolegau ymchwil.
•Ystadegau.
Dim ond myfyrwyr sy'n dymuno casglu data sy'n ymwneud â phlant neu oedolion agored i niwed fydd angen gwiriad DBS (gweler isod). Bydd myfyrwyr yn y modiwl hwn, yn dibynnu ar bynciau asesu, cwestiwn(cwestiynau) ymchwil a methodolegau yn cael y cyfle i ddefnyddio labordai'r adran, meddalwedd arbenigol ac adnoddau, wrth gynnal eu hasesiadau. Gall hyn gynnwys mynediad i a defnydd o; cyfleusterau labordy pwrpasol ar gyfer arbrofion, system mesur gweithgaredd ymennydd uniongyrchol (ERP) a systemau olrhain llygaid, bwth ynysu sain gradd broffesiynol a gosod offer recordio o safon uchel, meddalwedd modelu a dadansoddi ystadegol lefel uchel, systemau meddalwedd arbrofion ymddygiadol, acwstig a ffonetig meddalwedd dadansoddi, profion seicometrig ac iaith safonol a gydnabyddir yn glinigol ac ystod eang o feddalwedd cydgordio a chorpora arbenigol ar gyfer llawer o ieithoedd.
Gall testunau amrywio, yn dibynnu ar ddewisiadau myfyrwyr a rhaglen y radd. Maent yn ymwneud ag ystod eang o faterion mewn ieithyddiaeth, ond rhaid iddynt fod yn berthnasol i raglen y radd y mae'r myfyriwr wedi cofrestru arni. Bydd testunau'n cynnwys, ymhlith eraill, ymchwil mewn Astudiaethau Iaith Saesneg, Ieithyddiaeth Wybyddol, Dwyieithrwydd, Caffael Iaith, Datblygiad Iaith, ac Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL). Bydd y rhan fwyaf o bynciau yn cynnwys casglu a dadansoddi data, ond ni fydd y posibilrwydd o ddefnyddio data presennol neu wneud adolygiad estynedig o lenyddiaeth yn cael ei eithrio os yw'n berthnasol i'r pwnc, ac y cytunir ar hynny â'r goruchwyliwr. Mae'r Ysgol yn gwneud pob ymdrech i oruchwylio'r testun o ddewis y myfyrwyr, fodd bynnag, ar yr adegau prin pan nad oes gan yr Ysgol y gallu i oruchwylio testun, cynghorir myfyrwyr i ddewis testun newydd.
Fodd bynnag, bydd dosbarthiadau yn cynnwys:
•Sut i lunio cwestiwn ymchwil.
•Cynhyrchu cynnig ymchwil.
•Methodolegau ymchwil.
•Ystadegau.
Dim ond myfyrwyr sy'n dymuno casglu data sy'n ymwneud â phlant neu oedolion agored i niwed fydd angen gwiriad DBS (gweler isod).
Bydd myfyrwyr yn y modiwl hwn, yn dibynnu ar bynciau asesu, cwestiwn(cwestiynau) ymchwil a methodolegau yn cael y cyfle i ddefnyddio labordai'r adran, meddalwedd arbenigol ac adnoddau, wrth gynnal eu hasesiadau. Gall hyn gynnwys mynediad i a defnydd o; cyfleusterau labordy pwrpasol ar gyfer arbrofion, system mesur gweithgaredd ymennydd uniongyrchol (ERP) a systemau olrhain llygaid, bwth ynysu sain gradd broffesiynol a gosod offer recordio o safon uchel, meddalwedd modelu a dadansoddi ystadegol lefel uchel, systemau meddalwedd arbrofion ymddygiadol, acwstig a ffonetig meddalwedd dadansoddi, profion seicometrig ac iaith safonol a gydnabyddir yn glinigol ac ystod eang o feddalwedd cydgordio a chorpora arbenigol ar gyfer llawer o ieithoedd.
Assessment Strategy
Bydd yr asesiad terfynol yn cael ei asesu yn y saith categori hyn:
I. Testun/Crynodeb: cyfiawnhau'r dewis ar sail ddamcaniaethol ac ymarferol.
II. Llenyddiaeth: gwybodaeth o'r maes, cloriannu ymchwil bresennol, nodi materion o bwys sy'n berthnasol i'r astudiaeth hon.
III. Ffocws: eglurder wrth bennu ffocws yr ymchwil ac addasrwydd y dull o ymdrin â'r ymchwil o ystyried ei hamcanion.
IV. Methodoleg: eglurder y disgrifiad o'r drefn weithredu (lle bo'n berthnasol) a thrylwyredd a gofal o ran cyflawni'r gwaith.
V. Dadansoddiad: ansawdd y dadansoddiad o'r darganfyddiadau, yn cynnwys dadansoddiad ystadegol lle bo'n berthnasol.
VI. Trafodaeth: ansawdd y drafodaeth o'r canlyniadau a sylwadau cloi, yn cynnwys hunanwerthusiad o ymwybyddiaeth o gyfyngiadau ac awgrymiadau ar gyfer gwella.
VII. Cyflwyniad: Trefn a chyflwyniad, arddull, cyfeirio a mynegiant
Rhagorol A: Mae’r myfyriwr wedi cyrraedd safon drylwyr o ddealltwriaeth ac/neu wybodaeth yn yr holl ddeilliannau dysgu, neu mae’r myfyriwr wedi dangos cyflawniad eithriadol mewn un neu fwy o’r deilliannau dysgu gyda safon dda yn gyffredinol: mae’r myfyriwr wedi cyrraedd dealltwriaeth drylwyr o'r pwnc, o ran cynnwys a theori; mae’r myfyriwr yn gallu defnyddio cysyniadau’n glir ac yn gywir; dangos tystiolaeth sylweddol o feddwl a dadansoddi’n feirniadol a gwreiddiol; dadl glir, resymegol; dangos medrusrwydd o ran cyfathrebu; dim deunydd amherthnasol na gwallau sillafu ac atalnodi; tystiolaeth o ddarllen helaeth y tu hwnt i destunau sylfaenol a chyfeiriadau clir a chywir at ddeunydd ffynonellau.
Da B-C: Mae’r myfyriwr wedi cyrraedd safon well na’r cyfartaledd o ddealltwriaeth ac/neu wybodaeth yn yr holl ddeilliannau dysgu, a chyda dealltwriaeth glir a chywir o gysyniadau; y gallu i ddefnyddio cysyniadau gyda data yn feirniadol ac yn ofalus; tystiolaeth o ddarllen eang a chyfeiriadau clir a chywir at ddeunyddiau ffynonellau; dim camddealltwriaeth na gwallau cynnwys; dim deunydd amherthnasol.
Trothwy D: Mae’r myfyriwr wedi cyrraedd y safon isaf sy’n dderbyniol o ddealltwriaeth ac/neu wybodaeth yn yr holl ddeilliannau dysgu. Gall y myfyriwr ddangos lefel ofynnol o ddealltwriaeth o'r cysyniadau sylfaenol a gallu eu defnyddio gyda data gyda rhywfaint o gywirdeb.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn gallu cynhyrchu a chynnal dadl estynedig yn ysgrifenedig.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth a dealltwriaeth o gyfyngiadau moesegol ar gasglu ymchwil a llunio adroddiadau.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth o ddarllen beirniadol sy'n ystyried nifer o ddarnau o waith ymchwil ysgrifenedig mewn dull priodol a thrylwyr.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth o ystyried gwahanol ddulliau methodolegol a defnyddio dulliau angenrheidiol sy'n addas i'r testun yr ymchwilir iddo.
- Bydd myfyrwyr yn gallu llunio cynnig ymchwil a fydd yn arwain at broject ymchwil ymarferol o'u heiddo eu hunain gyda sgôp sylweddol iddo.
- Bydd myfyrwyr yn gallu nodi a defnyddio corff perthnasol o dystiolaeth.
- Bydd myfyrwyr yn gallu ymwneud â darn sylweddol o ymchwil academaidd, unigol ar destun o'u dewis.
Assessment method
Class Test
Assessment type
Summative
Description
Ymarferion Gweithdy / Workshop Exercises
Weighting
10%
Due date
07/01/2025
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Summative
Description
Cynnig Traethawd Hir / Dissertation Proposal
Weighting
20%
Due date
20/01/2025
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Summative
Description
Traethawd Hir / Dissertation
Weighting
65%
Due date
09/05/2025
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Adolygu Cynnig / Review of outstanding proposal
Weighting
5%
Due date
10/01/2025