Module QCL-4400:
Traethawd Hir MA/MSc
Traethawd Hir MA/MSc 2024-25
QCL-4400
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 3
60 credits
Module Organiser:
Peredur Webb-Davies
Overview
Gall testunau amrywio, yn dibynnu ar ddewisiadau myfyrwyr a rhaglen y radd. Maent yn ymwneud ag ystod eang o faterion mewn ieithyddiaeth, ond rhaid iddynt fod yn berthnasol i raglen y radd y mae'r myfyriwr wedi cofrestru arni. Bydd testunau'n cynnwys, ymhlith eraill, ymchwil mewn Ieithyddiaeth Wybyddol, Dwyieithrwydd, Caffael Iaith, Datblygiad Iaith, a dysgu Saesneg fel iaith dramor (TEFL). Bydd y rhan fwyaf o bynciau yn cynnwys casglu a dadansoddi data, ond ni fydd y posibilrwydd o ddefnyddio data presennol neu wneud adolygiad estynedig o lenyddiaeth yn cael ei eithrio os yw'n berthnasol i'r pwnc, ac y cytunir ar hynny â'r goruchwyliwr. Mae’r Ysgol yn gwneud pob ymdrech i oruchwylio unrhyw bwnc y mae myfyrwyr yn ei ddewis, ond yn yr achos prin nad ydy’r Ysgol â’r gallu i oruchwylio pwnc, yna gofynir i fyfyrwyr ddewis pwnc arall.
Dim ond myfyrwyr sydd eisiau casglu data yn ymwneud â phlant neu oedolion sy’n agored i niwed sydd angen prawf DBS (gwelwch isod).”
Assessment Strategy
-threshold -C: Gall y myfyriwr ddangos y lefel isaf dderbyniol o ddealltwriaeth o'r maes y maent wedi dewis ymchwilio iddo; ac wedi cyrraedd y safon isaf sy’n dderbyniol yn yr holl ddeilliannau dysgu. Rhaid i'r ateb ddangos tystiolaeth o beth astudiaeth gefndir o ffynonellau, gwybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd, y gallu i ddehongli data a dod i gasgliadau, a bod yn berthnasol i'r testun ymchwil a ddewiswyd. Rhaid ceisio cael cyn lleied o wallau sillafu, gramadeg ac atalnodi ag sy'n bosib, fel y gellir deall y traethawd hir yn rhwydd.
-good -B: Rhaid i'r data ac/neu adolygiad llenyddiaeth gael ei gasglu, ei drefnu a'i ddadansoddi â gofal. Ni ddylai gynnwys camddealltwriaeth a gwallau o ran cynnwys na deunydd amherthnasol, a heb lawer o wallau sillafu, gramadeg ac atalnodi. Rhaid dangos gwerthfawrogiad o rai o'r problemau dan sylw wrth gasglu data a/neu baratoi adolygiad o lenyddiaeth. Rhaid i'r ateb ddangos safon well na'r cyffredin o wybodaeth a dealltwriaeth. Rhaid i'r ateb ddangos tystiolaeth o astudiaeth gefndir o amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol. Rhaid i honiadau gael eu cefnogi gan gyfeiriad at theori ac/neu ymchwil empirig. Rhaid i'r ateb ddangos tystiolaeth o feddwl dadansoddol, a chynnwys fframwaith rhesymegol y cedwir ato ar y cyfan; rhaid i gysylltiadau rhwng rhannau dilynol fod yn hawdd eu dilyn ar y cyfan. Bydd myfyrwyr wedi cyrraedd safon well na’r cyffredin o ddealltwriaeth ac/neu wybodaeth yn yr holl ddeilliannau dysgu.
-excellent -A: Mae'r myfyriwr wedi dangos dealltwriaeth drylwyr o'r maes y maent wedi dewis ymchwilio iddo, o ran cynnwys a theori. Rhaid i'r data ac/neu adolygiad llenyddiaeth gael eu gwerthuso'n feirniadol ac yn fanwl, mewn dull rhesymegol. Rhaid i'r astudiaeth ddangos tystiolaeth o allu defnyddio cysyniadau'n glir a chywir, a dangos tystiolaeth o feddwl yn feirniadol, dadl glir a rhesymegol, a dangos medrusrwydd o ran cyfathrebu, heb unrhyw ddeunydd amherthnasol a gwallau sillafu, gramadeg ac atalnodi. Rhaid i'r ymchwil ddangos gwreiddioldeb o ran eglurhad a dealltwriaeth; dylai syniadau'r awdur ei hun fod yn gwbl amlwg. Rhaid i'r ymchwil ddangos fframwaith clir lle mae pob cam dilynol wedi’i gysylltu’n fanwl ac mewn modd synhwyrol ac y dywedir yn fanwl wrth y darllenydd pam y mae’r rhannau hyn yn berthnasol i’r astudiaeth. Rhaid i'r ymchwil ddangos tystiolaeth glir o ddarllen ffynonellau gwreiddiol yn helaeth. Bydd myfyrwyr wedi cyrraedd safon ragorol o ddealltwriaeth ac/neu wybodaeth yn yr holl ddeilliannau dysgu.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn dangos gallu soffistigedig i ystyried materion a chyfyngiadau moesegol, a byddant yn gwybod sut i ymarfer hyn wrth gynllunio a chyflawni’r astudiaeth.
- Bydd myfyrwyr yn dangos tystiolaeth o ystyried gwahanol ddulliau methodolegol mewn modd soffistigedig, a gallu gwerthuso a defnyddio'r dulliau hyn drwy fabwysiadu ac addasu'r dulliau angenrheidiol sy'n addas i'r testun yr ymchwilir iddo.
- Bydd myfyrwyr yn datblygu a dangos lefel uchel o annibyniaeth a chyfrifoldeb wrth gynllunio a chyflawni’r ymchwil.
- Bydd myfyrwyr yn datblygu annibyniaeth barn gynyddol, a dangos y gallu i ddadansoddi’n feirniadol, barnu a dod i gasgliadau.
- Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth fanwl iawn yn y maes/pwnc priodol sydd i’w archwilio, a’i dangos trwy ddefnyddio llenyddiaeth mewn modd hyderus a beirniadol drwy adfyfyrio ar nifer o weithiau ymchwil ysgrifenedig mewn modd priodol a thrwyadl, a gallu amddiffyn yr ymchwil mewn modd damcaniaethol a rhesymegol.
- Bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno’r ymchwil a wnaed ar ffurf traethawd hir ysgrifenedig, gan gynhyrchu a chynnal dadl soffistigedig ac estynedig yn ysgrifenedig, yn unol â safonau llym, gan gydymffurfio â chonfensiynau cyflwyno gwaith ym maes ieithyddiaeth.
- Bydd myfyrwyr yn gallu ffurfio a chyflawni project ymchwil academaidd sylweddol soffistigedig ac estynedig, a hynny i safon uwch, er mwyn ymchwilio i'r cwestiwn ymchwil a nodwyd.
- Bydd myfyrwyr yn gallu nodi a defnyddio corff perthnasol o dystiolaeth i safon uwch, gan nodi amcanion clir sy'n briodol i draethawd hir Meistr mewn ieithyddiaeth.
- Bydd myfyrwyr yn gallu nodi cyfyngiadau’r astudiaeth.
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Summative
Description
Traethawd Hir (20000 o eiriau)
Weighting
100%