Module SCS-3010:
Hawliau Ieithyddol
Hawliau Ieithyddol 2024-25
SCS-3010
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Cynog Prys
Overview
Ceir ymdriniaeth drylwyr o faes hawliau ieithyddol yn ystod y modiwl hon. Mae'n cynnwys ymdrin â'r ddadl ynghylch hawliau ieithyddol a gosod yr hawliau hyn o fewn fframwaith polisi hanesyddol y maes ac yn ogystal o fewn cyd-destun ehangach hawliau lleiafrifol. Mae'r modiwl yn pwyso a mesur hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a'r damcaniaethau allweddol sydd ynghlwm wrthynt. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys trafodaeth ynglyn â sicrhau hawliau ieithyddol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yng Nghymru, ac yn ogystal, yn tynnu ar ddatblygiadau ar lefel Ewropeaidd yn y maes.
Learning Outcomes
- Cymharu a dadansoddi'n feirniadol prif elfennau hawliau ieithyddol allweddol o fewn cyd-destun Ewropeaidd ac Americanaidd ehangach â'r sefyllfa yng Nghymru.
- Dangos dealltwriaeth ddatblygedig ac egluro yn allweddol gwreiddiau hawliau ieithyddol.
- Dangos dealltwriaeth ddwys a datblygedig amlwg o gynnydd yn hawliau ieithyddol a statws yr iaith Gymraeg yng Nghymru.
- Dangos dealltwriaeth uwch a blaengar ynglyn â datblygiad y ddadl ynghylch hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a chymhwyso damcaniaethau nodedig ac allweddol at y ddadl hon.
- Defnyddio cysyniadau priodol i drafod a dadansoddi maes hawliau ieithyddol penodol o fewn fframwaith polisi hawliau dinasyddion a hawliau lleiafrifol cyffredinol
Assessment type
Summative
Weighting
50%
Assessment type
Summative
Weighting
50%