Module SCW-4020:
Modiwl Addysgu Ymarfer
Dyfarniad Dysgu Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 2024-25
SCW-4020
2024-25
School of Health Sciences
Module - Semester 1 & 2
30 credits
Module Organiser:
Gwenan Prysor
Overview
Bydd y modiwl yma yn edrych ar y pynciau canlynol:
- Egwyddorion, theoriau a modelau dysgu oedolion
- Egwyddorion asesu cymhwysedd, yn cynnwys gwrthrychedd, cysondeb a thegwch
- Darparu a derbyn adborth
- Modelau goruchwyliaeth proffesiynol
- Damcaniaethau pwêr, defnydd o awdurdod a sicrhau atebolrwydd
- Damcaniaethau a modelau gwaith cymdeithasol
- Damcaniaethau a modelau adlewyrchu
- Dealltwriaeth feirniadol o gyfyng-gyngor proffesiynol, moesegol a
gwleidyddol mewn proffesiwn dadleuol megis gwaith cymdeithasol - Darparu tystiolaeth / Portffolio
- Rol yr Athro/awes Ymarfer ac eraill o fewn y broses
- Gofynion a disgwyliadau hyfforddiant gwaith cymdeithasol
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy50%> Dylai'r myfyriwr trothwy ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu ac asesu ymarfer mewn gwaith cymdeithasol. Yn ychwanegol i hyn, bydd yn arddangos gallu i gymhwyso hyn i sefyllfaoedd ymarfer, gan gynnwys dealltwriaeth, dadansoddiad a gwerthusiad beirniadol o faterion cyfyng-gyngor a gwerthoedd cysylltiedig. Dylai fod gallu hefyd i ddadansoddi a gwerthuso'n feirniadol ymchwil mewn perthynas ag addysg ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
-good -Da60%> Dylai'r myfyriwr 'nodweddiadol' ddangos lefel gadarn o wybodaeth a dealltwriaeth o addysgu ac asesu ymarfer mewn gwaith cymdeithasol. Yn ychwanegol i hyn, bydd yn arddangos gallu clir i gymhwyso hyn i sefyllfaoedd ymarfer, gan gynnwys dealltwriaeth, dadansoddiad a gwerthusiad beirniadol o faterion cyfyng-gyngor a gwerthoedd cysylltiedig. Dylai fod gallu clir hefyd i ddadansoddi a gwerthuso'n feirniadol ymchwil mewn perthynas ag addysg ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
-excellent -Rhagorol70%> Dylai'r myfyriwr rhagorol ddangos lefel soffistigedig o wybodaeth a dealltwriaeth o addysgu ac asesu ymarfer gwaith cymdeithasol. Yn ychwanegol i hyn, bydd yn arddangos gallu hynod gymwys i gymhwyso hyn i sefyllfaoedd ymarfer, gan gynnwys dealltwriaeth, dadansoddiad a gwerthusiad beirniadol o faterion cyfyng-gyngor a gwerthoedd cysylltiedig. Hefyd, dylai fod gallu cynhwysfawr i ddadansoddi a gwerthuso ymchwil yn feirniadol mewn perthynas a dysgu ac addysgu ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
-another level-Pasio/FethuBydd y portfolio yn ei gyfanrwydd yn cael ei ddyfarnu ar sail Pasio/Fethu
Learning Outcomes
- Arddangos ac integreiddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol (SGC) a'r Cod Ymarfer Gofal Cymdeithasol (CYP) i bob agwedd ar ddysgu ac asesu ymarfer
- Asesu myfyrwyr gwaith cymdeithasol mewn ymarfer, gan arddangos tegwch a chysondeb wrth ddysgu ymarfer ac asesu cymhwysedd
- Galluogi dysgu a datblygiad proffesiynol myfyriwr gwaith cymdeithasol yn ymarferol
- Lleoli a hyrwyddo dysgu ymarfer, addysgu ac asesu ymarfer yng nghyd-destun Cymru, gan gynnwys ymarfer ieithyddol sensitif
- Myfyrio'n feirniadol, dadansoddi a gwerthuso’r profiad o ddysgu ac asesu ymarfer
- Rheoli'r trefniadau dysgu ymarfer
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Assignment - Critical Analysis of Practice Educator Role in relation to social work student placement offered
Weighting
100%
Due date
30/08/2024
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Portfolios will be standardised and quality assured by the ‘Practice Educator Assessment Panel’ (PEAP). PEAP will need to confirm the Assessor’s Pass recommendation. Students cannot pass this module with the assignment alone.
Weighting
0%
Due date
29/08/2024