Module SNC-0001:
Prosiect Blwyddyn Sylfaenol
Prosiect Blwyddyn Sylfaenol 2024-25
SNC-0001
2024-25
School of Environmental & Natural Sciences
Module - Semester 1 & 2
40 credits
Module Organiser:
Stella Farrar
Overview
O dan oruchwyliaeth aelod academaidd o'r staff, bydd myfyrwyr yn datblygu prosiect ymchwil ar bwnc sydd o ddiddordeb iddynt ac sy'n cyd-fynd â phwnc eu gradd. Bydd y prosiect yn mynd i'r afael â phroblem/pwnc drwy nod a nodwyd ac amcanion cysylltiedig. Bydd y prosiect yn tynnu ar dystiolaeth a gafwyd o ffynonellau cynradd a/neu eilaidd a bydd yn cyflwyno ac yn dadansoddi'r dystiolaeth gan ddefnyddio technegau priodol. Bydd modiwl y prosiect yn gyfle i roi ar waith y sgiliau academaidd perthnasol a ddatblygwyd yn rhaglen y Flwyddyn Sylfaen a hefyd i gymhwyso gwybodaeth o fodiwlau eraill.
Assessment Strategy
-trothwy -Gradd D- i D+ Dealltwriaeth sylfaenol o ddeunydd pwnc perthnasol ond ceir rhai gwallau. Yn dangos cymhwysiad technegau perthnasol, ond gyda llwyddiant cyfyngedig a/neu rai gwallau a chamsyniadau yn amlwg. Prin yw'r dystiolaeth o ymgysylltu â'r ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael. Mae diffyg eglurder a strwythur clir wrth gyflwyno gwybodaeth.
-da -Gradd B- i B+A dealltwriaeth ddatblygedig ar y cyfan o ddeunydd pwnc perthnasol gydag ambell wall yn bresennol. Yn dangos cymhwysiad cywir ar y cyfan o dechnegau perthnasol, gyda dim ond mân enghreifftiau o anghywirdeb a/neu gamsyniad yn amlwg. Mae tystiolaeth dda o ymgysylltu â ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael. Mae cyflwyniad gwybodaeth a strwythur cysylltiedig yn glir ac wedi'u datblygu'n dda.
-rhagorol -Gradd A- ac uwch Dealltwriaeth ddatblygedig o ddeunydd pwnc perthnasol gyda dim ond mân wallau yn bresennol. Yn dangos cymhwysiad hynod gywir o dechnegau perthnasol, heb fawr ddim enghreifftiau o anghywirdeb a/neu gamsyniad yn amlwg. Mae tystiolaeth wych o ymgysylltu â ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael. Mae cyflwyniad y wybodaeth a'r strwythur cysylltiedig yn glir ac wedi'u datblygu'n dda gyda pheth tystiolaeth adlewyrchol.
-lefel arall-Gradd C- i C+A dealltwriaeth fwy datblygedig o ddeunydd pwnc perthnasol ond mae rhai gwallau yn bresennol. Yn dangos y defnydd o dechnegau perthnasol, gyda pheth llwyddiant ond yn cynnwys rhai anghywirdebau gyda rhai camsyniadau achlysurol yn amlwg. Mae rhywfaint o dystiolaeth o ymgysylltu â ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael. Mae cyflwyniad gwybodaeth a strwythur cysylltiedig yn gyffredinol glir ond gyda lle i wella.
Learning Outcomes
- Cyfathrebu gwybodaeth yn effeithiol gan ddefnyddio dulliau priodol.
- Cynhyrchu set ddata gan ddefnyddio technegau priodol.
- Dadansoddi set ddata gan ddefnyddio dulliau priodol.
- Dyfeisio a chynnal ymchwiliad i fynd i'r afael â nod penodol.
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Adroddiad prosiect ysgrifenedig
Weighting
70%
Due date
03/05/2024
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad
Weighting
15%
Due date
15/03/2024
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Summative
Description
Cynnig prosiect
Weighting
15%
Due date
14/12/2023