Module UXC-1038:
Cynhyrchu i'r Cyfryngau
Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau 2024-25
UXC-1038
2024-25
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Huw Powell
Overview
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i'r sgiliau a'r technegau sylfaenol fydd yn eu galluogi i archwilio egwyddorion cynhyrchu'r cyfryngau trwy waith creadigol.
Bydd myfyrwyr yn gweithio yn unigol i gynhyrchu dau destun cyfryngau byr. Caiff myfyrwyr hefyd eu dysgu i ddadansoddi eu gwaith eu hunain yng nghyd-destun theori, a chreu cysylltiad rhwng theori ac ymarfer cynhyrchu'r cyfryngau.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (40%+)Mae'r gwaith a gyflwynwyd yn foddhaol ac yn dangos lefel dderbyniol o allu fel a ganlyn: Cywir ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac yn gadael pethau allan. Yn gwneud honiadau heb dystiolaeth na rhesymu cefnogol eglur. Yn strwythuredig ond yn aneglur ac felly'n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau. Yn defnyddio ystod gymharol gyfyng o ddeunydd.
-good -Da (50%+)Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw ac o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos: Strwythur da a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol. Mae'n defnyddio'n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.Da iawn (60%+) Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw a gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos: Strwythur da iawn a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol. Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.
-excellent -Rhagorol (70%+) Mae'r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol: Mynegiant gwreiddiol a syniadau'r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg. Yn rhoi tystiolaeth eglur o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol.* Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.
Learning Outcomes
- Dangos dealltwriaeth o'r prosesau ar gyfer cynhyrchu testunau'r cyfryngau.
- Medr dechnegol sylfaenol mewn agweddau creiddiol o waith cynhyrchu fideo a radio.
- Y gallu i greu, datblygu a chynhyrchu cynnwys gwreiddiol yn y maes hwn.
- Ymwybyddiaeth o ddamcaniaethau cynhyrchu perthnasol o fewn cyd-destun eu gwaith ymarferol.
Assessment type
Summative
Weighting
50%
Assessment type
Summative
Weighting
50%