Module WMC-4114:
Perfformio I
Perfformio I 2024-25
WMC-4114
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Iwan Llewelyn Jones
Overview
Bydd cynnwys y modiwl yn canolbwyntio ar dechneg perfformio, pedagogaeth, dadansoddi, astudiaethau dehongli, astudiaethau perfformio, rhaglenni, ysgrifennu nodiadau rhaglen, a pharatoi ar gyfer perfformio. Bydd y gweithdai hefyd yn ystyried cyflwyniad ar lwyfan a swyddogaeth cyfathrebu wrth berfformio. Mae'r amserlen Asesu yn cynnwys datganiad 20-25 munud (90%), ynghyd â Nodiadau Rhaglen (10%) .
Bydd pwysoliad y pynciau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gan ymateb i arbenigeddau perfformwyr a diddordebau'r myfyrwyr.
Cynlluniwyd y modiwl hwn i alluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau perfformio ymhellach fel offerynwyr, cantorion, arweinyddion, cyfeilyddion neu gerddorion siambr. Bydd y myfyrwyr yn cael hyfforddiant unigol gyda thiwtor arbennigol i ymdrin â thechneg, arddull a dehongli i safon uwch. Yn ychwanegol, bydd y myfyrwyr yn mynychu ac yn cymryd rhan mewn gweithdai pythefnosol, wedi eu harwain gan diwtor y modiwl, a fydd yn mynd i'r afael yn fwy cyffredinol â'r sgiliau y mae ar berfformiwr eu hangen, a bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu hyder, profiad a gwybodaeth. Mae'r amserlen Asesu yn cynnwys datganiad 20-25 munud (90%), ynghyd â Nodiadau Rhaglen (10%) .
Assessment Strategy
Trothwy (50-59%): Perfformiadau sydd gan fwyaf yn gywir ac yn briodol o ran arddull, gyda nodiadau rhaglen sydd yn cynnwys peth gwybodaeth ac yn eitha trefnus.
Da (60-69%): Perfformiadau sydd wastad yn gywir gydag ymwybyddiaeth o arddull, gan ddangos peth gwreiddioldeb o ran y dull o ddehongli, gyda nodiadau rhaglen sy'n ddiddorol ac yn graff.
Rhagorol (70%+): Perfformiadau sydd yn dechnegol drawiadol ac yn argyhoeddi o ran arddull, gan ddangos llawer o wreiddioldeb o ran y dull o ddehongli, gyda nodiadau rhaglen sy'n peri i rywun feddwl ac sy’n hynod wreiddiol.
Learning Outcomes
- Rhaglennu a pherfformio datganiad sy'n cyfleu'r gallu i ddehongli'r gerddoriaeth yn unol â normau arddulliadol a gefnogir gan hyfedredd technegol perthnasol (gan gynnwys tonyddiaeth, fel y bo'n briodol).
- Rhyngweithio â'r rhan gyfeiliant a'i ategu mewn modd sy'n gyfarwydd neu, pan nad yw'n cyd-fynd â hi, sylweddoli goblygiadau testunol y gwaith(au) yn effeithiol.
- Yn gallu cyfleu mewn geiriau resymeg, dadansoddiad a gwerthusiad o repertoire eu datganiad.
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Datganiad o gerddoriaeth offerynnol neu leisiol unigol yn para 20 munud. Asesu Deilliannau Dysgu 1 a 2. I’w gyflwyno yn ystod Cyfnod Asesu Semester 1
Weighting
80%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Nodiadau Rhaglen i gyd-fynd â'r Datganiad Terfynol. 750-1000 o eiriau. Yn profi Deilliannau Dysgu 3. I'w cyflwyno i Blackboard erbyn dydd Iau Wythnos 10 (Semester 1).
Weighting
20%