Module WXC-1303:
Cerddoriaeth mewn Cyd-destun I
Cerddoriaeth mewn Cyd-destun I 2024-25
WXC-1303
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Stephen Rees
Overview
Nid yw cerddoriaeth yn cael ei chreu na'i pherfformio mewn gwacter: mae'n gynnyrch diwylliant a chymdeithas. Mae deall cerddoriaeth ar ei thelerau ei hun, a'r cyd-destunau pan gafodd y gerddoriaeth honno ei chreu a'i pherfformio'n wreiddiol, a derbyniad y gerddoriaeth honno wedyn, yn ein helpu ni i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach a dwysach o'r gweithiau hyn, yn enwedig lle maent yn cael eu perfformio heddiw. Mae'r modiwl hwn yn darparu pont angenrheidiol rhwng cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio drwy osod cyfansoddwyr a'u gweithiau yn eu cyd-destun.
Mae pynciau dangosol y darlithoedd yn cynnwys: - Palestrina ac oes aur poliffoni - Y madrigal - Cerddoriaeth ym Mhrydain Oes Elisabeth - Genedigaeth opera - Cynnydd cerddoriaeth offerynnol yn y 17eg ganrif – Y Concerto Baróc – Cerddoriaeth ym Mhrydain yng nghyfnod yr Adferiad - Cerddorieath, Menywod â’r Baróc - Bach - Opera Baróc – Oratorio yn y cyfnod Baróc – Hegemoni Ffurf Sonata – Y Pedwarawd llinynnol a’r symffoni - Y concerto clasurol - Beethoven - Schubert a'r Lied - Fanny a Felix Mendelssohn - Hyfedredd: Paganini, Liszt a Chopin - Verdi

Assessment Strategy
Trydydd Dosbarth: D- i D+ (40%-49%) Y cyrhaeddiad allweddol yw dangos gafael sylfaenol ar y testun dan sylw a’r math o ddeunydd a ddefnyddir. Fodd bynnag, cyfyngir y marc i’r lefel hon gan ffactorau megis: ailadrodd gwybodaeth yn foel, heb ddangos gwir ddealltwriaeth; dryswch wrth gyflwyno dadl sy’n dangos diffyg dealltwriaeth briodol o’r deunydd; methu â gwahaniaethu rhwng y perthnasol a’r amherthnasol; methu â deall syniadau’n iawn; cynnwys gwallau ffeithiol; sgiliau hynod ddiffygiol o ran llyfryddiaethau neu droednodiadau; mynegiant gwael; tawedogrwydd llafar; cyflwyno blêr.
Ail Ddosbarth Is: C- i C+ (50%-59%) Y prif gryfder sy’n gwarantu marc yn y categori hwn yw casglu corff rhesymol o ddeunydd perthnasol o ystod weddol eang o ddarllen neu ffurfiau eraill ar adalw gwybodaeth, sydd wedi’i gyflwyno mewn trefn eglur a’i fynegi’n ddealladwy. Nodweddion sy’n cyfyngu’r marc i’r lefel hon yw: dadleuon aneglur, neu ddadleuon sy’n ddiffygiol mewn rhyw ffordd; llyfryddiaeth neu droednodiadau cyfyngedig neu ddiffygiol; dealltwriaeth gyfyngedig o syniadau neu ddadl; tystiolaeth gyfyngedig o ddealltwriaeth neu wybodaeth eang o’r testun; ymrwymiad cyfyngedig i drafod ac aildrafod syniadau mewn trafodaethau llafar; tystiolaeth gyfyngedig o feddwl yn ddwys, mewn cyferbyniad â diwydrwydd syml.
Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%-69%) Y nodwedd allweddol yma yw’r gallu i lunio dadl glir gyda thystiolaeth briodol i’w hategu. Bydd y gwaith, felly, yn debygol o ddangos y gallu i ddeall y drafodaeth ar waith o gelfyddyd a chymhwyso’r wybodaeth honno at wahanol weithiau; cyfleu gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol o’r testun yn ei gyfanrwydd, a gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach o feysydd mwy penodol; sgiliau medrus gyda llyfryddiaethau a throednodiadau; cyfathrebu syniadau a dadleuon yn effeithiol; gallu gweld problemau a gwrthddweud mewn darllen ffynonellol; cyfraniad meddylgar i drafodaethau llafar; sgiliau mewn arsylwi a dadansoddi. Gall gwaith Ail Ddosbarth Uwch gynnwys llawer o’r un nodweddion ag a geir mewn gwaith Dosbarth Cyntaf, ond byddant i’w gweld ar lefel lai annibynnol, neu gall y gwaith fod yn eithriadol o ran un o nodweddion Dosbarth Cyntaf ond yn sylweddol ddiffygiol mewn un arall.
Dosbarth Cyntaf: A- i A (70%-83%) Y nodwedd allweddol yma yw tystiolaeth o feddwl deallusol ac annibynnol gwirioneddol mewn trafodaeth sylweddol. Bydd gwaith ar y lefel hon yn debygol o ddangos bod yr ymgeisydd wedi cymryd yr awenau i wneud gwaith ymchwil y tu hwnt i’r ffynonellau amlwg; y gallu i werthuso ffynonellau a ddefnyddiwyd yn feirniadol; trafodaeth sylweddol a chlir; mynegiant caboledig mewn gwaith ysgrifenedig a llafar; gallu i gywain deunydd o wahanol ffynonellau at ei gilydd; sgiliau arsylwi a dadansoddi o’r safon uchaf; y gallu i ddefnyddio gwybodaeth i egluro testunau cerddorol; arwyddion o wybodaeth eang y tu hwnt i ffiniau culion y testun dan sylw; y gallu i arwain trafodaethau llafar; y gallu i adnabod problemau neu groesddweud yn y testun a’u hwynebu’n rymus.
Dosbarth Cyntaf: A+ i A** (84%-100%) Mae gwaith ar y lefel hon yn hynod wreiddiol ac o safon sy’n cyrraedd safonau proffesiynol, neu sy’n agos at hynny. Bydd y gwaith hwn yn dangos, mewn modd cyson, yr holl nodweddion a restrwyd yng nghategori A-/A (70%-83%), ac o ansawdd mor uchel fel ei fod naill ai’n deilwng o gael ei gyhoeddi neu ddarlledu yn union fel ag y mae, neu gyda diwygiadau o ran ei gyflwyniad.
Learning Outcomes
- Cyfathrebu syniadau'n effeithiol.
- Dadansoddi cerddoriaeth o sgorau a pherfformiadau.
- Dangos gwybodaeth am weithiau, arddulliau, genres a nodweddion cerddorol penodol mewn repertoire a gyfansoddwyd rhwng c.1600 a 1850.
- Dangos gwybodaeth o'r amgylchiadau hanesyddol a diwylliannol pan gyfansoddwyd a pherfformiwyd cerddoriaeth rhwng c.1600 a 1850.
- Ymchwilio pynciau mewn hanes cerddoriaeth yn annibynnol.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Sylwebaeth ysgrifenedig ar ddarn(au) i'w chwarae yn y datganiad, gan amlinellu cefnogaeth ysgolheigaidd i benderfyniadau perfformio a wnaed. Bydd y sylwebaeth yn cael ei chyflwyno erbyn dydd Iau Wythnos 8, am 5pm.
Weighting
30%
Due date
14/03/2024
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Perfformiad byr o ddarn neu ragoriaeth ynddo (e.e. symudiad o waith mwy) o'r cyfnod a astudiwyd, gan ddangos dealltwriaeth o arddulliau perfformio a chyd-destunau perthnasol. I'w drefnu yn ystod y cyfnod asesu.
Weighting
30%
Due date
17/05/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd o 1500 o eiriau ar bwnc sy'n gysylltiedig â'r gerddoriaeth a astudiwyd. Darperir cwestiynau ar ddechrau'r semester. Mae disgwyl i'r traethawd gael ei gyhoeddi ddydd Llun Wythnos 13.
Weighting
40%
Due date
06/05/2024