Module WXC-3191:
Ysgrifennu Caneuon
Ysgrifennu Caneuon 2024-25
WXC-3191
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Pwyll Ap Sion
Overview
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i'r gelfyddyd o gyfansoddi caneuon. Mae'n archwilio elfennau sylfaenol ysgrifennu caneuon mewn ffurf hawdd sy’n hawdd ei ddeall, gyda’r myfyrwyr wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu gweithiau eu hunain.
Bob wythnos mae gwahanol agweddau'n cael eu harchwilio megis alaw (siapio melodig), harmoni (patrymau harmonig), ffurfiau set, gosod geiriau (lliwio geiriol), rhythm, gwead ac yn y blaen. Yna disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r technegau hyn yn eu caneuon eu hunain.
Mae caneuon a chyfansoddwyr caneuon yn bwysig iawn yn niwylliant poblogaidd heddiw. Mae'r modiwl hwn yn rhoi cipolwg ar gyfrinachau ysgrifennu caneuon artistiaid amrywiol megis Elton John a Joni Mitchell at arddulliau pop a roc mwy diweddar.
Ar y modiwl hwn byddwch yn dysgu egwyddorion sylfaenol cyfansoddi caneuon cyfoes a sut i'w hymgorffori yn eich ymarfer eich hun. Byddwch hefyd yn derbyn profiad o ysgrifennu caneuon mewn amgylchedd strwythuredig.
Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr wedi cynhyrchu portffolio o ganeuon a threfniadau caneuon, a byddant naill ai wedi perfformio'n llwyddiannus ar eu pen eu hunain neu mewn cyd-destun grŵp, neu wedi'u recordio i safon uchel, neu wedi eu cyfansoddi gan ddefnyddio meddalwedd nodiant cerddoriaeth fel Sibelius.
Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno yn ystod y darlithoedd i sylfeini cyfansoddi caneuon, gan gynnwys alaw (siapio alawol), harmoni (patrymau harmonig), ffurfiau penodol, gosod geiriau (lliwio geiriol), rhythm, gwead, ac yn y blaen. Trafodir yr elfennau hyn mewn perthynas ag idiomau ac arddulliau sy’n perthyn i ganeuon artistiaid megis Elton John a Joni Mitchell yn ystod y 1970au at arddulliau pop a roc mwy diweddar. Er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe fydd angen i’r myfyriwr gynhyrchu portffolio o ganeuon a threfniannau o ganeuon gan un ai eu perfformio yn unigol neu mewn grŵp, neu eu recordio i safon boddhaol, neu wedi eu cyfansoddi a’u prosesu ar feddalwedd megis Sibelius.
Assessment Strategy
Trydydd Dosbarth: D- i D+ (40%-49%)
Yr elfen allweddol yma yw creu syniadau cerddorol. Mae ffactorau a all gyfyngu marc i’r lefel hon yn cynnwys: adeiledd global gor-syml neu or-gymhleth nad yw’n cynnal y deunydd sydd ynddo nac yn cael ei gynnal ganddo; aymresymiad cerddorol i’w weld yn anaml a defnydd cyfyngedig ar ddeunyddiau; syniadau cerddorol yn brin a/neu o werth amheus; anghydbwysedd mewn undod ac amrywiaeth ar draul diddordeb cyson (yn arbennig drwy ailadrodd deunydd yn anfeirniadol); amrywiaeth o ran priodoldeb defnydd ar adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; techneg wedi’i chyfyngu i lefel weddol sylfaenol; rhai ymdrechion sylfaenol, er nad llwyddiannus bob tro, i reoli neu i ffurfio cymalau, cyflymdra, tempo, deinameg, seinlawnder neu ansoddau; cyflwyniad digonol gan mwyaf, er gyda rhai diffygion sylweddol, a deunyddiau y gall fod angen eu diwygio i raddau cyn y gellid eu defnyddio’n ymarferol mewn perfformiad.
Ail Ddosbarth Is: C- i C+ (50%-59%)
Creu a realeiddio technegol ar syniadau cerddorol i gyflawni gwaith terfynol sydd, yn gyffredinol, yn effeithiol yw’r brif nodwedd sy’n teilyngu marc yn y categori hwn. Mae ffactorau a all gyfyngu marc i’r lefel hon yn cynnwys: adeiledd global nad yw’n cynnal y deunydd sydd ynddo nac yn cael ei gynnal ganddo yn llawn; diffygion ysbeidiol yn effeithiolrwydd ymresymiad gerddorol; rhai agweddau ar syniadau cerddorol heb eu harchwilio neu heb eu datblygu’n ddigonol; dyfeisgarwch i’w weld ond yn gyfyngedig; llwyddiant cymysg yng nghyfosodiad effeithiol a pherthynas syniadau a deunyddiau; peth anghydbwysedd mewn undod ac amrywiaeth (yn arbennig trwy orddefnydd o ddeunydd heb ddatblygiad); defnydd amhriodol achlysurol o adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; techneg gadarn ond nid bob amser yn hyderus a llyfn; ffurfiant a rheolaeth gerddorol ysbeidiol a chyfyngedig o ran cymalau, cyflymdra, tempo, deinameg, seinlawnder neu ansoddau; rhai diffygion cyflwyniadol, gyda pheth cyfyngiadau ar ymarferoldeb y deunyddiau mewn perfformiad.
Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%-69%)
Creu, realeiddio technegol a threfnu syniadau cerddorol dychmygus i greu gwaith cyffredinol sy’n argyhoeddi’n esthetig yw’r nodwedd wahaniaethol yn hyn o beth. Mae’r cyfansoddiad yn dangos y rhan fwyaf o’r canlynol: adeiledd cyffredinol huawdl ac effeithiol; ymresymiad cerddorol clir, a grëir wrth archwilio a datblygu syniadau a deunyddiau cerddorol; syniadau cerddorol creadigol a huawdl; cydbwysedd da rhwng undod ac amrywiaeth, fel bod y cyfansoddiad yn cynnal diddordeb ac yn gydlynol; defnydd priodol ac effeithiol ar adnoddau offerynnol lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; defnydd cadarn ar ddulliau technegol priodol; sensitifrwydd da wrth bennu brawddegau, arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau, gan ddangos dealltwriaeth o’r effaith gyffredinol a gânt ar y gwaith cerddorol gorffenedig; safon dda o gyflwyno, gan roi sylw i fanylion a chyda rhywfaint o dystiolaeth o ystyriaeth o ymarferoldeb y deunyddiau perfformio.
Dosbarth Cyntaf: A- i A (70%-83%)
Creu gwaith cyflawn cyffredinol sy’n afaelgar, yn ddiddorol ac yn foddhaol o safbwynt esthetig, a hynny trwy ddychymyg cerddorol a meistrolaeth dechnegol barhaus. Mae’r cyfansoddiad yn dangos y rhan fwyaf o’r canlynol: adeiledd cydlynol wedi’i weu’n dynn; ymresymiad cerddorol cydlynol, argyhoeddiadol a pharhaus, wedi’i greu wrth archwilio a datblygu posibiliadau llawn y syniadau a’r deunyddiau cerddorol; syniadau cerddorol wedi’u creu a’u hynganu gyda dawn a dychymyg amlwg, a chyda rhywfaint o wreiddioldeb; cydbwysedd llwyr briodol (ond nid o anghenraid yn gyfartal) rhwng undod ac amrywiaeth, fel y cynhelir diddordeb a chydlyniad trwy gydol y darn, defnydd nodedig, creadigol ac idiomatig ar adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; defnydd hyderus, huawdl a doeth ar ddulliau technegol priodol; tystiolaeth o sensitifrwydd craff tuag at effeithiolrwydd brawddegau ac arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau, a chyfuniad, cyfosodiad a chydgysylltiad syniadau, a rheolaeth sicr drostynt; cyflwyniad trawiadol, gan roi sylw ardderchog i fanylion ac ystyriaeth lawn i ymarferoldeb deunyddiau perfformio (p’un a fyddo hynny ar gyfer perfformiad byw, ynteu’n realeiddiad o gyflwyniad electroacwstig);
Dosbarth Cyntaf: A+ i A** (84%-100%)
Byddai cyfansoddiadau yn y categori hwn yn argyhoeddiadol ac yn gredadwy o fewn rhaglen o weithiau a gyfansoddwyd yn broffesiynol. Ni ddyfernir marciau yn y band hwn ond mewn achosion eithriadol, lle mae’r cyfansoddiad yn cynnig profiad cerddorol llwyr afaelgar a grëir trwy wreiddioldeb creadigol gwirioneddol, ynghyd â realeiddiad technegol cwbl sicr.
Learning Outcomes
- Cyfansoddi caneuon sy'n cymathu confensiynau, idiomau a thechnegau arddulliadol priodol yn effeithiol.
- Cymhwyso'r offer a'r gweithdrefnau creadigol i gyfansoddi caneuon o safon broffesiynol neu bron yn broffesiynol.
- Dangos y gallu i fynegi syniadau gwybodus a threiddgar am arddulliau caneuon, eu datblygiad hanesyddol, a'r cyd-destun cerddorol maent yn rhan ohonno, a’r gallu i gymhwyso dulliau methodolegol a chysyniadol cadarn at enghreifftiau penodol.
- Egluro a chefnogi penderfyniadau artistig.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Formative
Description
2-3 munud agoriadol cân wreiddiol yn seiliedig ar set o ganllawiau. Fe fe fydd canllawiau hyn yn cael eu cynnwys yn y llawlyfr terfynol.
Weighting
0%
Due date
21/10/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad o ddwy gân wreiddiol yn cyfateb i rhwng 7-8 munud.
Weighting
60%
Due date
09/01/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Fe fydd angen i’r myfyriwr gyflwyno trefniannau o ddwy gân. Fe fydd y gân gyntaf yn enghraifft benodol wedi ei osod gan gydlynydd y modiwl
Weighting
40%
Due date
28/11/2022