Module WXC-3298:
Project Perfformio Unawdol
Perfformio Unawdol Blwyddyn 3 2024-25
WXC-3298
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
40 credits
Module Organiser:
Iwan Llewelyn Jones
Overview
Mae’r modiwl Perfformio Unigol (Blwyddyn 3) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a mireinio eu sgiliau technegol a cherddorol arbenigol, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygiad corfforol a seicolegol sy’n sail i berfformio ac ymarfer creadigol. Mae'r modiwl hwn yn rhedeg ar draws y flwyddyn academaidd, gan gyfrif am 40 credyd.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y modiwl yn paratoi ac yn perfformio datganiad cyhoeddus 40 munud o hyd, yn cynnwys repertoire unawdol mewn ardduliau amrywiol o wahanol gyfnodau. Byddant hefyd yn cyflwyno nodiadau rhaglen i gyd-fynd â'r datganiad, ac yn rhoi cyflwyniad llafar ar y repertoire a ddewiswyd. Caiff myfyrwyr hyfforddiant offerynnol neu leisiol unigol ochr yn ochr â gweithdai, lle byddent yn mynd i’r afael â chwestiynau uwch yn ymwneud â dewisiadau repertoire, strategaethau ymarfer, arferion perfformio (gan gynnwys perfformiadau hanesyddol), sgiliau cyflwyno a pharatoi nodiadau rhaglen.
Assessment Strategy
Trothwy: D- i D+ : Mae'r perfformiad yn adlewyrchu cerddoroldeb a thechneg sylfaenol; rhoddir sylw cyfyngedig i ofynion nodiannol ac arddulliadol, a gwerthoedd deongliadol. Mae'r cyflwyniad/nodiadau rhaglen yn dangos gwybodaeth elfennol o'r pwnc; prin yw'r gallu i feddwl yn gysyniadol, ynghyd â ymwybyddiaeth gyfyngedig o'r cyd-destun. Serch hyn, gwelir peth tystiolaeth o ddull deallusol cyffredinol o ymdrin a'r testun gyda mynegiant gweddol.
Da: C-i B+ : Mae'r perfformiad yn berswadiol, gan ddangos lefelau boddhaol o allu deongliadol, cerddoroldeb a thechneg. Rhoddir sylw priodol i ofynion nodiannol ac arddull perthnasol. Mae'r cyflwyniad unigol/nodiadau rhaglen yn adlewyrchu dealltwriaeth gadarn o'r pwnc, meddwl cysyniadol da, ymwybyddiaeth o'r prif faterion, gyda thystiolaeth o grafter deallusol a mynegiant da.
Ardderchog: A- i A* : Mae'r perfformiad yn ysgogol ac argyhoeddiadol, gan ddangos lefelau uwch o allu deongliadol, cerddoroldeb a thechneg, ynghyd a thystiolaeth o sylw gofalus i ofynion nodiannol ac arddull berthnasol. Mae'r cyflwyniad unigol/nodiadau rhaglen yn adlewyrchu dealltwriaeth drwyadl o'r pwnc, gyda thystiolaeth o astudiaeth ehangach, meddwl dyfnach, gwreiddioldeb a sgiliau ysgrifenedig rhagorol.
Learning Outcomes
- Coladu a pherfformio rhaglen estynedig o repertoire offerynnol/lleisiol unigol integredig thematig.
- Cyfiawnhau dewisiadau repertoire drwy gyfrwng dadansoddiad cerddorol manwl, ymchwil sy'n seiliedig ar berfformiad, hunan-fyfyrio, a meddwl beirniadol i lefel uwch.
- Dangos hyfedredd uwch o ran gofynion technegol a dehonglil y repertoire a ddewiswyd yn unol â bwriadau'r cyfansoddwyr.
- Ymgysylltu'n hyderus ag arferion perfformio hanesyddol a diwylliannol sy'n berthnasol i'r repertoire.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad llafar ar gynnwys y Datganiad Terfynol yn para 15 munud. Yn profi Deilliannau Dysgu 1 a 4. I gymryd lle yn ystod Cyfnod Asesu Semester 1 (Ionawr 2023).
Weighting
10%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Nodiadau Rhaglen i gyd-fynd â'r Datganiad Terfynol. 1000 o eiriau (950 o leiaf/uchafswm o 1050). Yn profi Deilliannau Dysgu 1 a 4. I'w cyflwyno i Blackboard erbyn dydd Iau Wythnos 10 (Semester 2).
Weighting
10%
Due date
20/04/2023
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Datganiad o gerddoriaeth offerynnol neu leisiol unigol yn para 35-40 munud. Asesu Deilliannau Dysgu 1, 2 a 3 I’w gyflwyno yn ystod Cyfnod Asesu Semester 2 (Mai 2023)
Weighting
80%
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Formative
Description
Perfformiad gweithdy heb ei asesu sy'n para hyd at 10 munud. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth llafar gan arweinydd y gweithdy. Cynhelir y perfformiadau gweithdy drwy gydol y flwyddyn, a hysbysir myfyrwyr cyn eu slot(au).
Weighting
0%