Module XAC-1026:
Sgiliau ar gyfer Dysgu a Gwait
Sgiliau ar gyfer Dysgu a Gwaith 2024-25
XAC-1026
2024-25
School of Education
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Rhian Tomos
Overview
Bydd y modiwl hwn yn eich helpu yn eich astudiaethau yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer byd gwaith a gall eich helpu i gyflawni eich potensial. Bydd y modiwl hwn yn ystyried amrediad o ddamcaniaethau dysgu, gan gynnwys damcaniaethau deallusrwydd Gardner, Salovey, Mayer ac eraill; a sut mae’r rhain yn berthnasol i arddulliau dysgu personol y myfyrwyr. Bydd cynnwys y modiwl yn cysylltu â’ch Cynllun Datblygu Personol Bydd: - yn datblygu sgiliau’r myfyrwyr yng nghyd-destun strategaethau darllen a gwneud nodiadau; - crynhoi, cyfeirio, a’r defnydd effeithiol o wasanaethau llyfrgell ar-lein; - yn datblygu sgiliau ysgrifennu theoretig ac adfyfyriol yn cynnwys adolygu, beirniadu a gwerthuso testunau. - Yn datblygu sgiliau prawfddarllen a golygu gwaith personol - Yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu hyder mewn cyfathrebu llafar trwy gyflwyniadau mewn seminarau gyda’u cyfoedion. neu trwy baratoi blogiau neu flogiau. Ystryied gor-bryder perfformiad a sut mae ei reoli. - Yn ystyried pwysigrwydd seicoleg gadarnhaol a deallusrwydd emosiynol wrth weithio gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol eraill. - Yn datblygu gallu'r myfyrwyr o ran hunan-adnabyddiaeth, eu gwerthoedd, dycnwch a'u credoau, er mwyn pennu ffiniau priodol ac adfyfyrio ar berthnasau gyda phlant a phobl ifanc. - Deall effeithiau cymhelliant ar ddysgu a helpu myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u dysgu a'u cymhelliant eu hunain ac eraill. - Gwerthuso eu profiadau dysgu, eu llwyddiannau a'u heriau eu hunain. - Sut mae ymateb i adborth - Deall rheoli amser a blaenoriaethu gwaith.
Assessment Strategy
-threshold -D-, D, D+: Trothwy: Dealltwriaeth boddhoal o’ch allu fel unigolyn i ddysgu’n effeithiol; gallu i ymchwilio a chyflwyno’ch gwaith mewn cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig mewn arddull academaidd addas, ac i safon derbyniol. Medru chwilio am a chyfeirio at ffynonellau dibynadwy a'u defnyddio fel sail i'r gwaith. Dangos dealltwriaeth o sgiliau cynllunio a pharatoi ar gyfer aseiniadau.
-good -C-, C, C+: Dealltwriaeth da o’ch allu fel unigolyn i ddysgu’n effeithiol; gallu i ymchwilio a chyflwyno’ch gwaith mewn cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig mewn arddull academaidd addas, ac i safon uchel. Medru chwilio am a chyfeirio at amrywiaeth o ffynonellau dibynadwy a'u defnyddio fel sail i'r gwaith. Dangos dealltwriaeth dda o sgiliau cynllunio a pharatoi ar gyfer aseiniadau a'u defnyddio yn effeithiol.
-excellent -A-, A, A+, A, A*: Dealltwriaeth cynhywsfar a threiddgar o’ch allu fel unigolyn i ddysgu’n effeithiol; gallu i ymchwilio’n eang a chyflwyno’ch gwaith mewn cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig mewn arddull academaidd addas, ac i safon ardderchog. Medru chwilio am a chyfeirio at amrywiaeth eang o ffynonellau dibynadwy a'u defnyddio fel sail cryf i'r gwaith. Dangos dealltwriaeth ardderchog o amrywiaeth o sgiliau cynllunio a pharatoi ar gyfer aseiniadau a'u dewis yn bwrpasol ar gyfer gwahanol mathau o aseiniad.
Learning Outcomes
- Dangos dealltwriaeth o ddysgu, cymhelliant, a deallusrwydd emosiynol ac ystyried sut y gellir cefnogi gwahanol arddulliau dysgu;
- cymhwyso’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth wrth ddatblygu eu sgiliau eu hunain yng nghyd-destun eu hastudiaethau eu hunain;
- datblygu dealltwriaeth o'u harddulliau dysgu, eu datblygiad a’u profiadau eu hunain.
- datblygu hyder trwy gyflwyniadau llafar a thrwy ymchwilio i wahanol arddulliau cyfathrebu (BOPS)
- trefnu eu dysgu a’u gwybodaeth gan ddefnyddio ystod o ffynonellau gwybodaeth a chyflwyno eu gwaith yn briodol;
Assessment method
Group Presentation
Assessment type
Summative
Description
Work Plan - Group Presentation - 15 - 20 minutes
Weighting
25%
Due date
16/11/2022
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Essay
Weighting
40%
Due date
08/03/2023
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
BOPPS
Weighting
25%
Due date
03/05/2023
Assessment method
Other
Assessment type
Summative
Description
Referencing Task
Weighting
10%
Due date
12/10/2022