Module XAC-1070:
Llythrennedd am Oes
Llythrenned am Oes 2024-25
XAC-1070
2024-25
School of Education
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Manon Evans
Overview
- Cyfraniad y teulu at ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd o Cydnabod teuluoedd fel athrawon cyntaf y plentyn a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. o Cefnogi datblygiad iaith a llythrennedd plant dwyieithog ac amlieithog o Defnyddio straeon, teganau a gemau i ddatblygu iaith a llythrennedd cynnar. o Ymchwilio i ymyriadau cynnar sy'n cefnogi plant ag ADY/oedi cyfathrebu
- Cyfraniad yr ysgol at ddatblygu cyfathrebu, iaith a llythrennedd o Lleoliad ysgol 6 awr yn arsylwi ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfathrebu, iaith a llythrennedd o Ymgorffori sgiliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd ar draws y cwricwlwm o Defnyddio llenyddiaeth plant yn greadigol i ddatblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu o Defnyddio llwyfannau digidol i gefnogi a gwella dysgu llythrennedd plant o Trafod disgwyliadau cymdeithasol ac addysgol ym maes datblygiad iaith a llythrennedd sy'n gysylltiedig â rhyw a diwylliant
Assessment Strategy
-threshold -(D) Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o gyfraniad teuluoedd ac ysgolion at ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant. Rhoi gwerthusiad digonol o'r cyfleoedd trawsgwricwlaidd i ddatblygu cyfathrebu, iaith a llythrennedd mewn lle o ddiddordeb sy'n addas i ymweliad gan deulu neu ysgol. Gwneud ymgais resymol i gyflwyno stori syml i blant gan ddefnyddio propiau ac adnoddau (yn cynnwys adnoddau digidol) sy'n briodol i oedran a chyfnod datblygol y gynulleidfa. Rhywfaint o wahaniaethu wrth nodi sut y gellid addasu cyflwyniad llafar o stori syml i blant â sgiliau iaith gwahanol fel plant dwyieithog/amlieithog neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
-good -(B) Rhai elfennau da yn y wybodaeth a dealltwriaeth o gyfraniad teuluoedd ac ysgolion at ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant, gyda rhywfaint o feddwl yn feirniadol. Rhoi gwerthusiad trylwyr o'r cyfleoedd trawsgwricwlaidd i ddatblygu cyfathrebu, iaith a llythrennedd mewn lle o ddiddordeb sy'n addas i ymweliad gan deulu neu ysgol. Gwneud ymgais hyderus i gyflwyno stori syml i blant gan ddefnyddio propiau ac adnoddau (yn cynnwys adnoddau digidol) sy'n briodol i oedran a chyfnod datblygol y gynulleidfa. Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gefnogi gwahaniaethu wrth nodi sut y gellid addasu cyflwyniad llafar o stori syml i blant â sgiliau iaith gwahanol fel plant dwyieithog/amlieithog neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
-excellent -(A) Lefel ragorol o wybodaeth a dealltwriaeth o gyfraniad teuluoedd ac ysgolion at ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant, gyda llawer o feddwl yn feirniadol. Rhoi gwerthusiad llawn o'r cyfleoedd trawsgwricwlaidd i ddatblygu cyfathrebu, iaith a llythrennedd mewn lle o ddiddordeb sy'n addas i ymweliad gan deulu neu ysgol. Gwneud ymgais hyderus a chywir i gyflwyno stori syml i blant gan ddefnyddio propiau ac adnoddau (yn cynnwys adnoddau digidol) sy'n briodol i oedran a chyfnod datblygol y gynulleidfa. Defnyddio amrywiaeth eang o strategaethau i gefnogi gwahaniaethu wrth nodi sut y gellid addasu cyflwyniad llafar o stori syml i blant â sgiliau iaith gwahanol fel plant dwyieithog/amlieithog neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Learning Outcomes
- Cyflwyno stori syml i blant yn hyderus ac yn gywir gan ddefnyddio propiau ac adnoddau (yn cynnwys adnoddau digidol) sy'n briodol i oedran a chyfnod datblygol y gynulleidfa.
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o gyfraniad teuluoedd ac ysgolion at ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant.
- Gwerthuso sut y gellid addasu cyflwyniad llafar o stori syml i blant â sgiliau iaith gwahanol fel plant dwyieithog/amlieithog neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Rhoi gwerthusiad beirniadol o'r cyfleoedd trawsgwricwlaidd i ddatblygu cyfathrebu, iaith a llythrennedd mewn lle o ddiddordeb sy'n addas i ymweliad gan deulu neu ysgol.
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Assignment 3 Essay
Weighting
25%
Due date
26/04/2023
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Assignment 2 Presentation
Weighting
25%
Due date
26/04/2023
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Assignment 1 Report
Weighting
50%
Due date
08/03/2023