Module XAC-2033:
Ymchwilio mewn Plentyndod
Ymchwilio mewn Plentyndod 2024-25
XAC-2033
2024-25
School of Education
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Margiad Williams
Overview
Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar y canlynol:
• damcaniaethau ymchwil, sgiliau ysgrifennu traethawd hir, a dewis y fethodoleg gywir ar gyfer maes ymchwil y myfyrwyr;
• prif ddulliau casglu data, gan gynnwys dogfennau, ffotograffau, cyfweliadau, astudiaethau achos, grwpiau ffocws, holiaduron a dulliau ethnograffig.
• enghreifftiau o ymchwil y darlithydd ei hun ac o waith arall yn yr Ysgol gan gynnwys profiadau ymchwilwyr doethurol ac ôl-ddoethurol.
• seiliau athronyddol ymchwil, trafod ac egluro natur traethawd hir a chanfod a dewis maes astudio;
• y prif gysyniadau sydd dan sylw wrth lunio’r cwestiynau i’w hastudio a ffurfio rhagdybiaeth.
Assessment Strategy
-threshold -(D) Gwybodaeth a dealltwriaeth boddhaol o faterion moesegol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio gyda phlant; y gallu i ddewis a dethol methodoleg a dylunio a chyflwyno cynnig ar gyfer prosiect ymchwil.
-good -(B) Gwybodaeth a dealltwriaeth da o faterion moesegol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio gyda phlant; y gallu i ddewis a dethol methodoleg addas a dylunio a chyflwyno cynnig cadarn ar gyfer prosiect ymchwil.
-excellent (A) Gwybodaeth cynhwysfawr a dealltwriaeth dwfn o faterion moesegol sy’n gysylltiedig ag ymchwilio gyda phlant; y gallu i ddewis a dethol methodoleg addas o ystod o ffynonellau, a dylunio a chyflwyno cynnig cytnhwysfawr a chaboledig ar gyfer prosiect ymchwil.
Learning Outcomes
- Arddangos dealltwriaeth beirniadol o gynnwys adroddiad ymchwil da;
- Arddangos dealltwriaeth beirniadol o’r ystod o ystyriaethau moesegol wrth wneud ymchwil sy'n ymwneud â phlant neu bobl ifanc a gallu gwerthuso’r gwahanol ddulliau;
- Arddangos dealltwriaeth o arwyddocâd dulliau ymchwil ansoddol a meintiol;
- Cyflwyno areithiau parod a byrfyfyr yn hyderus ac yn gymwys
- Cynllunio cynnig ymchwil, gan gynnwys dethol dulliau ymchwil priodol, ar bwnc sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc.
- Gwerthuso damcaniaethau a dadleuon allweddol mewn methodoleg ymchwil a arddangos dealltwriaeth o sut maent yn berthnasol i ymchwil sy'n ymwneud â phlant neu bobl ifanc.
- Trafod yn feirniadol gwahanol ddulliau ymchwil, a gallu adfyfyrio’n feirniadol ar eu cyfyngiadau a’u manteision mewn perthynas ag ystod o gyd-destunau;
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Prosiect Ymchwil
Weighting
50%
Due date
07/05/2025
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Summative
Description
Cynnig Ymchwil
Weighting
40%
Due date
12/11/2024
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Bangor Oral Presentation Scheme
Weighting
10%
Due date
09/05/2025