Module XAC-2073:
Blasu byd yr athro ysgol
Blasu byd yr athro ysgol yng Nghymru 2024-25
XAC-2073
2024-25
School of Education
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Gwawr Maelor Williams
Overview
Gall y modiwl gynnwys themau a'r testunau canlynol: 1. Beth sy’n gwneud athro gwych? 2. Egwyddorion a phrif gysyniadau Cwricwlwm i Gymru 3. Damcaniaethau addysgu a dysgu effeithiol 4. Dulliau arsylwi effeithiol wedi’i wreiddio mewn ymchwil 5. Strategaethau asesu ar gyfer dysgu effeithiol 6. Strategaethau addysgu ar-lein a thasgau rhyngweithiol sy’n hybu sgiliau meddwl effeithiol 7. Ysytyriaethau wrth addysgu mewn ysgolion dwyieithog a chyfrwng Cymraeg 8. Egwyddorion beth sy’n bwysig mewn MDa Ph a’r disgyblaethau pynciol dewisiedig 9. Cynllunio profiad dysgu symbylus sy’n cymhwyso gwybodaeth disgyblaeth gradd y myfyriwr yn effeithiol ar gyfer cyd-destun disgyblion cynradd neu uwchradd 10. Cyflwyno profiad dysgu/gwers feicro ac arfarnu gwersi cymheiriaid 11. Datblygu sgiliau personol a phroffesiynol yr athro
Assessment Strategy
Teitl: Cynllunio, paratoi a chyflwyno profiad dysgu / gwers feicro sy’n arddangos dewis effeithiol o strategaethau addysgu a dysgu ac asesu ar gyfer dysgu i hyrwyddo dysgu disgyblion cynradd/uwchradd. Ysgrifennu gwerthusiad yn arfarnu a dadansoddi'r addysgeg ddewiswyd ac effeithiolrwydd y profiad dysgu / gwer feicro o ran cymhwyso damcaniaeth i ymarfer.
D - Trothwy
Tystiolaeth o ddarllen cyfeiriedig yn unig. Tystiolaeth gyfyngedig o gymhwyso perthnasol o ddamcaniaethau a/ neu ganlyniadau. Gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau ac egwyddorion allweddol. Gwaith cyfeirio a llyfryddiaeth gyfyngedig . Cyflwyniad gwan. Strwythur addas a derbyniol. Cystrawen, gramadeg a mynegiant ysgrifenedig a llafar derbyniol.
C - Da Tystiolaeth dda o ran amrediad darllen a ffynonellau ategol. Cymhwyso addas rhwng damcaniaethau/a neu ganlyniadau ac arfer. Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r egwyddorion a chysyniadau allweddol. Gwerthuso a myfyrio da o'r deunydd gyda pheth gwreiddioldeb. Gwaith cyfeirio a llyfryddiaeth berthnasol, addas. Cyflwyniad da, strwythur wedi'i ymresymu'n dda a threfnus. Defnydd da o iaith o ran cywirdeb cystrawennol, gramadegol a mynegiant ar lafar ac yn ysgrifenedig.
B - Da iawn
Tystiolaeth dda iawn o ran amrediad darllen a ffynonellau ategol. Cymhwyso da iawn rhwng damcaniaethau/a neu ganlyniadau ac arfer. Gwybodaeth a dealltwriaeth dda iawn o'r egwyddorion a chysyniadau allweddol. Gwerthuso a myfyrio da iawn o'r deunydd gyda pheth gwreiddioldeb. Gwaith cyfeirio a llyfryddiaeth berthnasol, eang. Cyflwyniad da iawn, strwythur wedi'i ymresymu'n dda iawn a threfnus. Defnydd da iawn o iaith o ran cywirdeb cystrawennol, gramadegol a mynegiant ar lafar ac yn ysgrifenedig.
A-Ardderchog
Tystiolaeth o ddarllen amrediad eang o ffynonellau ategol. Cymhwyso manwl, clir a pherthnasol o ddamcaniaethau a/neu ganlyniadau lle bo'n briodol. Gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawra dwfn o'r cysyniadau ac egwyddorion. Gwerthusiad critigol manwl/peth manylder yn cymhathu syniadau a deunydd sy'n cynnwys meddwl adfyfyriol a gwreiddioldeb. Gwaith cyfeirio a llyfryddiaeth ardderchog, Cyflwyniad eithriadol a strwythur yn dangos ymresymu effeithiol. Defnydd ardderchog a chywir o iaith a gramadeg yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Learning Outcomes
- Gallu hunan werthuso profiad dysgu o ran effeithiolrwydd y cynllunio, strategaethau addysgu a dysgu a’u cydberthnasu gyda damcaniaethau dysgu ac addysgu perthnasol.
- Adnabod nodweddion sgiliau personol athro wrth addysgu mewn sefyllfa ddwyieithog.
- Gallu arddangos sgiliau adfyfyrio o safon uchel wrth aryslwi ar addysgu a dysgu yn ymarferol mewn ysgol.
- Gallu cynllunio a chyflwyno profiad dysgu sy’n arddangos dewis perthnasol o strategaethau addysgu a dysgu, asesu ar gyfer dysgu i hyrwyddo dysgu disgyblion cynradd neu uwchradd.
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Gwerthuso'r profiad dysgu/ gwers feiro o ran effeithiolrwydd y cynllunio, addysgeg a strategaethau asesu a'u cydberthnas gyda damcaniaethau addysgu a dysgu perthnasol.
Weighting
50%
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Dyddiadur myfyriol
Weighting
20%
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cynllunio, paratoi a chyflwyno gwers feciro i gymheiriad sy’n cyflwyno agwedd ar y Cwricwlwm i Gymru.
Weighting
30%