Module XCC-2213:
Astudiaethau Pwnc 2.1
Astudiaethu Pwnc 2.1: Creadigrwydd a mynegiant drwy ieithoedd a'r celfyddydau mynegiannol 2023-24
XCC-2213
2023-24
School of Education
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Gwawr Maelor Williams
Overview
Cynnwys y modiwl:
** O fewn y modiwl hwn bydd y ffocws ar addysgeg pwnc neilltuo o fewn y Maes dysgu a phrofiad Ieithoedd Cymraeg a Saesneg a'r celfyddydau mynegiannol (celf gweledol, drama a cherdd. Bydd egwyddorion cynnydd o fewn y meysydd dysgu yn cael eu harchwilio. Bydd unigrywedd pob pwnc a'r rhyng-gysylltiadau rhyngddynt yn cael eu harchwilio wrth ystyried dylunio'r cwricwlwm a thrwy amrediad o gyd-destunau dysgu megis diwylliant Cymraeg er mwyn i'r Athro Cysylltiol wneud cysylltiadau trwy gyd-destunau dysgu ystyrlon.
Cynnwys generig y modiwl:
- Archwilio strategaethau asesu ar gyfer dysgu effeithiol mewn celf a chyfathrebu;
- Intergreiddio themau addas rhwng ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu a'r celfyddydau mynegiannol;
- Gwreiddio cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol trwy'r meysydd dysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu a'r Celfyddydau Mynegiannol yn greadigol;
- Ystyriaethau a gwybodaeth pwnc-penodol. Cynnydd mewn ieithoedd , llythrennedd a chyfathrebu yn yr ysgolion cynradd:
-
Archwilio'r cynnydd yn y prif gysyniadau o fewn ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu cynradd; ymestyn ac ehangu gwybodaeth am addysgeg iaith a gwybodaeth bynciol wedi'i wreiddio mewn ymchwil o fewn y meysydd canlynol o ran y maes ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu:
-
Dweud stori/ chwedlau Cymraeg a'r modd y gellir eu cyflwyno drwy'r celfyddydau mynegiannol;
-
Llenyddiaeth plant gan gynnwys barddoniaeth a sut maent yn gallu cyfrannu at les plant yn emosiynol a chreadigol;
-
Ysgrifennu creadigol ;
-
Cynllunio effeithiol ar gyfer addysgu a dysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn yr ysgol gynradd;
Cymraeg*:
- Deall y prif faterion sy'n gysylltiedig ag addysgeg iaith effeithiol ar gyfer dysgwyr D1 a D2. e.e. dulliau addysgu dwys ac addysg drochi
- Myfyrio ar ddulliau dysgu dwyieithog ac addysgeg iaith wrth addysgu a dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol gynradd ac mewn Canolfannau hwyrddyfodiaid gan gynnwys defnydd effeithiol o adnoddau dysgu, adnoddau cyfryngol a chymhwysedd digidol.
- Datblygu defnydd yr Athro Cysylltiol o'u Cymraeg a datblygu ar eu lefel cyrhaeddiad blaenorol yn eu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu mewn perthynas â'r Fframwaith Cymhwysedd Iaith ar gyfer Ymarferwyr Addysg.
Celfyddydau mynegiannol:
- Datblygu gwybodaeth bynciol, sgiliau personol a phedagogoaidd wedi wreiddio mewn ymchwilo o ran drama, cerdd, celf a chymhwysedd digidol (ffilm a'r cyfryngau digidol);
- Defnyddio amrediad o ffurfiau celf fel dull o gyfathrebu a sut y mae celf yn hyrwyddo mynegiant creadigol;
- Cyrchddulliau ar gyfer dylunio, dysgu ac addysgu, asesu, gwerthuso, trefniadaeth dosbarth a chynhwysiant mewn celf a dylunio, drama a chymhwysedd digidol;
- Modelau o greadigrwydd a chyrchddulliau ar gyfer dysgu ac addysgu wrth ddylunio cwricwlwm ar gyfer y meysydd dysgu Celfyddydau mynegiannol;
- Archwilio potensial gweithio ar y cyd gydag amrediad o ffurfiau celf; -Dathlu a pharchu diwylliannau, ieithoedd , gwerthoedd a thraddodiadau Cymru;
- Gweithio gyda artisiaid creadigol gan gynnwys yr ardal leol yn archwilio prosesau a dulliau a sut y gall ymweliadau a rhyngweithio rhwng artisitiaid a phlant ar brosiectau gweithredol hybu'r dysgu mewn cyd-destun ymarferol, go iawn.
- Gallu cyflwyno dadl resymegol tros ddefnyddio amrediad o adnoddau er mwyn cefnogi a datblygu plant a chynyddu eu dysgu amgueddfeydd, llyfrgelloedd, lleoliadau gwaith artistiaid);
- Archwilio'r celfyddydau mynegiannol yng Nghymru a'r traddodiad Celtaidd / treftadaeth celfyddydol yng Nghymru, llenyddiaeth draddodiadol, artistiaid a chynllunwyr o ran celf, drama a'r cyfryngau digidol.
- Archwilio'r cysylltiadau creadigol rhwng Cymru, Ewrop a'r byd.
- Sut y gall y celfyddydau mynegiannol gyfrannu at lesiant yn emosiynol ac ysbrydol;
- Sut y gellir meithrin a chefnogi doniau cynhenid plant drwy'r celfyddydau mynegiannol er mwyn cryfhau eu hyder fel unigolion.
Bydd pedwar diben y cwricwlwm o fewn y meysydd dysgu perthnasol wedi'i wreiddio drwy'r modiwl'
Datblygu plant yn : -ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes - gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith - yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd - ynunigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Dulliau a methodoleg ymchwil -
Bydd cynnwys y modiwl wedi'i wreiddio mewn ymchwil ac yn annog yr Athro Cysylltiol i weld gwahanol gysylltiadau rhwng theori ac ymarfer. Anogir Athrawon Cysylltiol i archwilio,dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol gryfderau a gwendidau'r dystiolaeth a'r theori ddiweddaraf sy'n sylfaen i'r arferion a'r addysgeg a fabwysiadir. .
** Sgiliau academaidd ac astudio** Datblygir sgiliau academaidd ac astudio drwy gyd-destun yr aseiniad.
Cynnwys y modiwl:
** O fewn y modiwl hwn bydd y ffocws ar yr Ieithoedd Cymraeg a Saesneg a'r traddodiadau a'r arferion Cymraeg yn hyrwyddo dealltwriaeth yr Athro Cysylltiol o ieithoedd eraill , dulliau cyfathrebu , llythennedd a'r celfyddydau mynegiannol (celf gweledol, drama, cerdd a chymhwysedd digidol ( ffilm a'r cyfyrngau digidol). O fewn y modiwl bydd yr athro cysylltiol hefyd yn datblygu eu sgiliau Cymraeg personol. Bydd egwyddorion cynnydd o fewn y meysydd dysgu yn cael eu harchwilio. Bydd unigrywedd pob pwnc a'r rhyng-gysylltiadau rhyngddynt yn cael eu harchwilio trwy amrediad o gyd-destunau dysgu er mwyn i'r Athro Cysylltiol wneud cysylltiadau trwy gyd-destunau dysgu ystyrlon.
Cynnwys generig y modiwl:
- Archwilio strategaethau asesu ar gyfer dysgu effeithiol mewn celf a chyfathrebu;
- Datblygu sgiliau Cymraeg llafar,darllen ac ysgrifennu yr athro cysylltiol;
- Intergreiddio themau addas rhwng ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu a'r celfyddydau mynegiannol;
- Gwreiddio cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol trwy'r meysydd dysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu a'r Celfyddydau Mynegiannol yn greadigol;
- Ystyriaethau a gwybodaeth pwnc-penodol.
Cynnydd mewn ieithoedd , llythrennedd a chyfathrebu yn yr ysgolion cynradd: - Archwilio'r cynnydd yn y prif gysyniadau o fewn ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu cynradd; ymestyn ac ehangu gwybodaeth am addysgeg iaith a gwybodaeth bynciol wedi'i wreiddio mewn ymchwil o fewn y meysydd canlynol o ran y maes ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu:
-
Dweud stori/ chwedlau Cymraeg a'r modd y gellir eu cyflwyno drwy'r celfyddydau mynegiannol;
-
Llenyddiaeth plant gan gynnwys barddoniaeth a sut maent yn gallu cyfrannu at les plant yn emosiynol a chreadigol;
-
Ysgrifennu creadigol ;
-
Cynllunio effeithiol ar gyfer addysgu a dysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn yr ysgol gynradd;
Cymraeg*:
- Deall y prif faterion sy'n gysylltiedig ag addysgeg iaith effeithiol ar gyfer dysgwyr D1 a D2. e.e. dulliau addysgu dwys ac addysg drochi
- Myfyrio ar ddulliau dysgu dwyieithog ac addysgeg iaith wrth addysgu a dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol gynradd ac mewn Canolfannau hwyrddyfodiaid gan gynnwys defnydd effeithiol o adnoddau dysgu, adnoddau cyfryngol a chymhwysedd digidol.
- Datblygu defnydd yr Athro Cysylltiol o'u Cymraeg a datblygu ar eu lefel cyrhaeddiad blaenorol yn eu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu mewn perthynas â'r Fframwaith Cymhwysedd Iaith ar gyfer Ymarferwyr Addysg.
Celfyddydau mynegiannol:
- Datblygu gwybodaeth bynciol, sgiliau personol a phedagogoaidd wedi wreiddio mewn ymchwilo o ran drama, cerdd, celf a chymhwysedd digidol (ffilm a'r cyfryngau digidol);
- Defnyddio amrediad o ffurfiau celf fel dull o gyfathrebu a sut y mae celf yn hyrwyddo mynegiant creadigol;
- Cyrchddulliau ar gyfer dylunio, dysgu ac addysgu, asesu, gwerthuso, trefniadaeth dosbarth a chynhwysiant mewn celf a dylunio, drama a chymhwysedd digidol;
- Modelau o greadigrwydd a chyrchddulliau ar gyfer dysgu ac addysgu wrth ddylunio cwricwlwm ar gyfer y meysydd dysgu Celfyddydau mynegiannol;
- Archwilio potensial gweithio ar y cyd gydag amrediad o ffurfiau celf; -Dathlu a pharchu diwylliannau, ieithoedd , gwerthoedd a thraddodiadau Cymru;
- Gweithio gyda artisiaid creadigol gan gynnwys yr ardal leol yn archwilio prosesau a dulliau a sut y gall ymweliadau a rhyngweithio rhwng artisitiaid a phlant ar brosiectau gweithredol hybu'r dysgu mewn cyd-destun ymarferol, go iawn.
- Gallu cyflwyno dadl resymegol tros ddefnyddio amrediad o adnoddau er mwyn cefnogi a datblygu plant a chynyddu eu dysgu amgueddfeydd, llyfrgelloedd, lleoliadau gwaith artistiaid);
- Archwilio'r celfyddydau mynegiannol yng Nghymru a'r traddodiad Celtaidd / treftadaeth celfyddydol yng Nghymru, llenyddiaeth draddodiadol, artistiaid a chynllunwyr o ran celf, drama a'r cyfryngau digidol.
- Archwilio'r cysylltiadau creadigol rhwng Cymru, Ewrop a'r byd.
- Sut y gall y celfyddydau mynegiannol gyfrannu at lesiant yn emosiynol ac ysbrydol;
- Sut y gellir meithrin a chefnogi doniau cynhenid plant drwy'r celfyddydau mynegiannol er mwyn cryfhau eu hyder fel unigolion.
Bydd pedwar diben y cwricwlwm o fewn y meysydd dysgu perthnasol wedi'i wreiddio drwy'r modiwl'
Datblygu plant yn : -ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes - gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith - yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd - ynunigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Dulliau a methodoleg ymchwil -
Bydd cynnwys y modiwl wedi'i wreiddio mewn ymchwil ac yn annog yr Athro Cysylltiol i weld gwahanol gysylltiadau rhwng theori ac ymarfer. Anogir Athrawon Cysylltiol i archwilio,dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol gryfderau a gwendidau'r dystiolaeth a'r theori ddiweddaraf sy'n sylfaen i'r arferion a'r addysgeg a fabwysiadir. .
** Sgiliau academaidd ac astudio** Datblygir sgiliau academaidd ac astudio drwy gyd-destun yr aseiniad.
Assessment Strategy
-threshold -(D+ )Bydd y deilliannau dysgu wedi eu cyrraedd yn foddhaol. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth o gynnwys y modiwl ac yng nghyd-destun gofynion yr aseiniad wedi ei gefnogi gan wybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o ran amrediad y theori , ymarfer a llenyddiaeth ymchwil sy'n gysylltiedig â meysydd dysgu penodol y modiwl. Bydd AC yn arddangos tystiolaeth foddhaol o ddadansoddi critigol wrth fyfyrio ar eu haddysgu a dysgu. Bydd AC yn cynhyrchu portffolio Cymraeg boddhaol yn arddangos cynnydd boddhaol yn eu sgiliau Cymraeg personol ( gwrando a siarad, darllen ac ysgrifennu) o'u cyrhaeddiad blaenorol yn yr awdit cychwynnol. Bydd AC wedi datblygu eu sgiliau astudio yn foddhaol a byddent yn gallu cyfathrebu i safon foddhaol yn broffesiynol ac yn academaidd.
-good -(B+) Bydd mwyafrif y deilliannau dysgu wedi eu cyrraedd yn dda. Bydd ardderchogrwydd mewn rhai deilliannau yn cydbwyso deilliant eraill a gyrhaeddwyd hyd at safon foddhaol.Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth dda yn cael ei amlygu o gynnwys y modiwl ac yng nghyd-destun gofynion yr aseiniad ac wedi eu cefnogi gydag amrediad da o ran theori , ymarfer a llenyddiaeth ymchwil sy'n gysylltiedig â meysydd dysgu penodol y modiwl. Bydd AC yn arddangos tystiolaeth dda o ddadansoddi critigol wrth fyfyrio ar ystod eang o gyrchddulliau addysgu a dysgu. Bydd AC yn cynhyrchu portffolio Cymraeg sy'n arddangos cynnydd da yn eu sgiliau Cymraeg personol ( gwrando a siarad, darllen ac ysgrifennu) o'u cyrhaeddiad blaenorol yn yr awdit cychwynnol. Bydd AC wedi datblygu eu sgiliau astudio yn dda a byddent yn gallu cyfathrebu i safon dda yn broffesiynol ac yn academaidd.
-excellent -(A+) Bydd mwyafrif y deilliannau dysgu wedi eu cyrraedd yn ardderchog a bydd pob deilliant dysgu o leiaf yn dda.Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn yn cael ei amlygu o gynnwys y modiwl ac yng nghyd-destun gofynion yr aseiniad ac wedi eu cefnogi gydag amrediad eang o ran theori , ymarfer a llenyddiaeth ymchwil sy'n gysylltiedig â meysydd dysgu penodol y modiwl. Bydd AC yn arddangos tystiolaeth ardderchog o ddadansoddi critigol wrth fyfyrio ar ystod eang o gyrchddulliau addysgu a dysgu. Bydd AC yn cynhyrchu portffolio Cymraeg sy'n arddangos cynnydd ardderchog yn eu sgiliau Cymraeg personol ( gwrando a siarad, darllen ac ysgrifennu) o'u cyrhaeddiad blaenorol yn yr awdit cychwynnol. Bydd AC wedi datblygu eu sgiliau astudio yn ardderchog a byddent yn gallu cyfathrebu i safon ardderchog yn broffesiynol ac yn academaidd.
Learning Outcomes
- Bydd AC yn arddangos cynnydd yn eu sgiliau Cymraeg personol yn unol â'r Fframwaith Cymhwysedd Iaith ar gyfer Ymarferwyr Addysg a dealltwriaeth briodol o ran addysgeg a methodolegau wrth addysgu iaith a'i gymhwyso gyda dysgwyr.
- Bydd AC yn gallu arddangos ymwybyddiaeth gritigol a dealltwriaeth o addysgeg a phedagogaeth yn seiliedig ar ymchwil , cynnwys cwrciwlaidd a gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol sut i addysgu'r Celfyddydau Mynegiannol, Ieithoedd a chyfathrebu yn effeithiol o ran y Gymraeg a'r Saesneg yn yr ysgol gynradd.
- Bydd AC yn gallu dadansoddi a gwerthuso moddau ar greadigrwydd ( diffiniadau, modelau a chyrchddulliau addysgu a dysgu sy'n arwain at greadigrwydd)
- Bydd AC yn gallu dadansoddi ymchwil sy'n bwydo cyrchddulliau addysgu a dysgu gan gynnwys addysgeg pwnc-penodol o fewn pynciau'r modiwl.
- Bydd AC yn gwerthuso mewn cyswllt â theori ac ymchwil sut mae'r pynciau ynddynt eu hunain yn cyfrannu at ddatblygiad academaidd, cymdeithasol ac emosiynol plant.
- Trwy themau integredig gan gynnwys Cymraeg iaith a threftadaeth bydd AC yn dadansoddi a gwerthus'r cysylltiadau rhwng pynciau er mwyn cynllunio profiadau cyfoethog ac ystyrlon mewn cyd-destunau go iawn ar gyfer plant a'r rheiny yn seiliedig ar agweddau ar iaith, cyfathrebu, celf gweledol, drama, ffilm a'r cyfryngau digidol a sut y mae'r rhain yn hyrwyddo cynhwysiant, hunan fynegiant ac yn cefnogi datblygiad POB plentyn.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Cynhyrchu cynnyrch o fewn Celfyddydau Mynegiannol a'i werthuso
Weighting
60%
Due date
27/03/2024
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad Dylunio'r Cwricwlwm
Weighting
40%
Due date
13/12/2023