Module XCC-3063:
Cymraeg mewn Blwyddyn III
Cymraeg Mewn Blwyddyn: Cymraeg i Ymarferwyr Addysg yn y sector cynradd cyfrwng Saesneg (Rhan 3) 2024-25
XCC-3063
2024-25
School of Education
Module - Semester 2
40 credits
Module Organiser:
Llion Jones
Overview
Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar yr hyn a gyflwynwyd yn nau fodiwl cyntaf y rhaglen:
Cymraeg mewn Blwyddyn I XCC-3060 Cymraeg mewn Blwyddyn II XCC-3061
Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y ddau fodiwl blaenorol gan barhau i ganolbwyntio ar ddwy agwedd, sef:
- datblygu sgiliau llythrennedd personol yr ymarferwyr
- datblygu gallu yr ymarferwyr i gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau hyn er mwyn datblygu sgiliau iaith eu disgyblion.
O ran adnoddau iaith personol yr ymarferwyr, canolbwyntir ar ddatblygu ac ymestyn eu gafael ar batrymau iaith a gramadeg ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae hyn yn cynnwys eu defnyddio’r berfau; brawddegu a mynegiant yn gyffredinol; treigladau; yn ogystal â datblygu eu geirfa a’u defnydd o dermau addysgol. Bydd yn parhau i gynyddu eu hymwybyddiaeth ieithyddol ac yn eu hannog i ddefnyddio cyfeirlyfrau ieithyddol a phecynnau meddalwedd electronig i’w cynorthwyo. Bydd y modiwl hwn yn cynnwys unedau thematig a fydd yn rhoi cyfle i’r ymarferwyr ymarfer, defnyddio, atgyfnerthu a datblygu’r patrymau a gyflwynir yn Rhan I a Rhan I mewn amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol perthnasol.
Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i’r ymarferwyr fireinio eu sgiliau gwerthuso, hunanwerthuso ac adfyfyrio gan ddatblygu’r gwaith a wnaed yn rhai o dasgau portffolio Cymraeg mewn Blwyddyn II XCC-3061. Byddant yn cael cyfle i wneud hyn ar lafar a thrwy greu darnau ysgrifenedig adfyfyriol estynedig yn y Gymraeg yn y modiwl hwn.
Drwy ddatblygu sgiliau ieithyddol personol yr ymarferwyr ar lafar ac yn ysgrifenedig, bydd y modiwl yn eu helpu i gymhwyso’r agwedd hon wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd eu disgyblion. Parheir i ddatblygu eu gallu i adnabod cyfleoedd i ddatblygu iaith eu disgyblion wrth baratoi a chyflwyno gwersi trawsgwricwlaidd, gan gynnwys paratoi adnoddau addas a’u gwahaniaethu’n bwrpasol.
Hefyd, fel athrawon profiadol, defnyddir eu gwybodaeth am wahanol strategaethau asesu ar gyfer dysgu er mwyn datblygu eu gallu i ymateb i gamgymeriadau disgyblion a chynnig adborth ieithyddol pwrpasol ac adeiladol, gan bennu disgwyliadau a thasgau fydd yn eu galluogi i symud ymlaen yn ieithyddol. Bydd y modiwl yn parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu’r iaith Gymraeg ac yn gofyn iddynt werthuso eu defnydd o’r dulliau hyn yn eu sesiynau addysgu.
Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i’r ymarferwyr barhau i weithio ar ddatblygu’r Gymraeg yn strategol yn eu hysgolion. Golyga hyn barhau i weithredu a datblygu’r cynllun ysgol a grëwyd ganddynt yn yr ail fodiwl. Bydd cyfle iddynt werthuso’r cynlluniau hyn er mwyn eu datblygu i’r dyfodol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn datblygu gwybodaeth yr ymarferwyr am arfer da a dulliau addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Byddant yn cael eu hannog i ystyried sut y gellir cymhwyso’r wybodaeth hon i’w sefyllfaoedd proffesiynol eu hunain.
Defnyddir amrywiaeth o ddysgu ffurfiol, gweithdai ymarferol, ymwelwyr a’r dosbarth, ymweliadau allanol ynghyd ag astudiaeth annibynnol dan arweiniad er mwyn cyflwyno’r modiwl hwn.
Bydd ymarferwyr yn cael cyfleoedd i ymarfer eu sgiliau ysgrifennu, darllen, gwrando a chyflwyno ar lafar. Defnyddir ystod o adnoddau iaith ac addysgol i hybu dealltwriaeth a chymhwyso sgiliau'r ymarferwyr.
Yn y modiwl hwn, fel y nodwyd, bydd yr ymarferwyr yn parhau i dreulio cyfnod yn ôl yn eu hysgolion eu hunain yn gweithio ar eu prosiect ysgol personol. Byddant yn parhau i gael arweiniad a chymorth gan athrawon bro eu siroedd gyda’r prosiect hwn.
Byddant hefyd yn treulio cyfnod mewn ysgolion Cymraeg yn arsylwi, trafod a lle bo hynny’n addas, yn cydweithio â staff yr ysgolion hynny. Bydd hyn hefyd yn digwydd drwy gydweithrediad ag athrawon bro’r siroedd perthnasol.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (D- i D+ / 40-49)Sesiwn Micro Ddysgu - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig omd heb wneud hynny'n gyson a thrwyadl. - Defnyddio iaith y dosbarth (e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau) ar lefel syml. - Cyflwyno’n weddol glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r dysgwyr yn eithaf rhugl gan ofyn ac ateb cwestiynau elfennol. - Gallu ymateb i gamgymeriad a chynnig adborth syml. - Dangos ymwybyddiaeth elfennol o dermau a geirfa bwrpasol ar lafar ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y gwaith. - Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth elfennol o fethodolegau dysgu iaith ac yn eu defnyddio ar adegau ond nid yn gyson i gyflwyno gwers drawsgwricwlaidd dderbyniol. - Ymgais i wahaniaethu'r gwaith, ond heb allu gwneud hynny'n effeithiol. - Wedi paratoi'r adnoddau gyda llawer o gymorth ac arweiniad gan y tiwtor. - Hunanwerthuso llafar ar ffurf atebion elfennol i gwestiynau'r tiwtor. Cyflwyniad llafar - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig ond heb wneud hynny'n gyson drwy'r cyflwyniad. - Cyflwyno’n weddol glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r gynulleidfa yn eithaf rhugl ac mewn modd pwrpasol ar adegau. - Dangos ymwybyddiaeth elfennol o eirfa bwrpasol ar lafar ac yn ysgrifenedig a’i defnyddio’n gywir yn eithaf cyson. - Wedi cael llawer o gymorth ac arweiniad gan y tiwtor i baratoi'r gwaith ysgrifennu a'r gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Gallu ymateb i rai cwestiynau a sylwadau o’r llawr mewn ffordd bwrpasol ond heb wneud hynny'n gyson a chydag ymwybyddiaeth bur elfennol o gywirdeb iaith.Portffolio - Adnoddau Dysgu a Phroject Ysgol Creu adnoddau (3 tasg) - Adnoddau eithaf pwrpasol yn dangos gallu i atgynhyrchu patrymau cyfarwydd y cwrs ond gan orddibynnu arnynt fel arfer. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth elfennol o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u cymhwyso ar y cyfan wrth baratoi adnoddau trawsgwricwlaidd ond heb wneud hynny'n gyson a thrwyadl. - Gwaith sy’n dangos y gallu i wahaniaethu gweithgareddau / adnoddau ond heb wneud hynny'n gyson drwy'r gwaith. - Ymwybyddiaeth elfennol o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau gan amlaf. - Ymwybyddiaeth elfennol o dermau a geirfa bwrpasol ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y gwaith. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth elfennol o’r patrymau iaith sydd eu hangen ar y gynulleidfa darged onf heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y gwaith. - Ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.Marcio gwaith plant - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o strategaethau asesu ar gyfer dysgu a’r gallu i’w cymhwyso a’u defnyddio’n ond heb wneud hynny'n gyson. - Dangos ymwybyddiaeth elfennol o nodweddion cynnwys ac iaith gwahanol ffurfiau ysgrifenedig mewn cyd-destun trawsgwricwlaidd. - Gallu cymhwyso eu gwybodaeth am yr iaith i gywiro iaith disgyblion drwy dynnu sylw at wallau elfennol yn y gwaith a'u cywiro ar adegau. - Gallu defnyddio iaith canmol ac annog yn gywir ac effeithiol ar brydiau. - Gwaith yn dangos y gallu i ddefnyddio patrymau cywir a pheth geirfa addas i roi sylwadau / adborth syml ar y gwaith ond heb fedru gwneud hynny er mwyn ymestyn a datblygu sgiliau iaith y disgyblion.Portffolio cymysg: Cynllun Datblygu UnigolAdroddiad ysgrifenedig - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith a pheth gafael ar batrymau ymestynnol a chywair addas ar adegau. - Rhannau o'r gwaith yn dangos peth defnydd cywir o'r cystrawennau a’r patrymau iaith amrywiol a gyflwynwyd drwy’r tri modiwl, ond nid yn gyson a thrwyadl. - Ymwybyddiaeth a defnydd elfennol o dermau a geirfa maes addysg. - Peth tystiolaeth o ddefnydd o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol, ond nid yn gyson drwy'r gwaith. - Sgiliau gwerthuso a hunanwerthuso elfennol a pheth ymwybyddiaeth o anghenion datblygiad personol pellach mewn mannau.Cyfweliad - Cyfweliad yn dangos dealltwriaeth elfennol o’r cwestiynau / sbardunau a’r gallu i ateb ac ymateb yn ddigonol gan amlaf. - Dangos y gallu i gyfeirio at ddarnau perthnasol o’r adroddiad ysgrifenedig o dro i dro. - Iaith a mynegiant yn dangos lefel elfennol o gywirdeb ar lafar ac ynganu clir a Chymreig ond heb wneud hynny'n gyson. - Cyfweliad yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o dermau a geirfa bwrpasol a’i defnyddio yn gywir ac addas weithiau. - Dangos y gallu i gyfathrebu a rhyngweithio’n bur effeithiol mewn cywair addas ar brydiau.
-good -Da (B- i B+ / 60-69)Sesiwn Micro Ddysgu - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth dda o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig yn gyson. - Defnyddio iaith y dosbarth (e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau) yn glir ac yn gywir yn y rhan fwyaf o achosion. - Cyflwyno’n glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r dysgwyr yn eithaf rhugl gan ofyn ac ateb cwestiynau’n gywir. - Gallu ymateb yn dda i gamgymeriadau’r dysgwyr gan gynnig adborth pwrpasol, ymestynnol gan amlaf. - Dangos ymwybyddiaeth dda o eirfa bwrpasol ar lafar ac yn ysgrifenedig a’i defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o achosion. - Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth dda ac effeithiol o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio’n llwyddiannus i gyflwyno sesiwn drawsgwricwlaidd effeithiol. - Gwaith wedi’i wahaniaethu’n addas a phwrpasol. - Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n annibynnol heb lawer o gymorth nac arweiniad gan y tiwtor ac yn dangos ymwybyddiaeth dda o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Hunanwerthuso llafar hyderus ac annibynnol gan ymateb i rai sbardunau gan y tiwtor yn ymestynnol. Cyflwyniad llafar - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth dda o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig gan fwyaf. - Cyflwyno’n glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r gynulleidfa yn eithaf rhugl ac mewn modd pwrpasol gan fwyaf. - Dangos ymwybyddiaeth dda o eirfa bwrpasol ar lafar ac yn ysgrifenedig a’i defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o achosion. - Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n annibynnol gydag ychydig o gymorth ac arweiniad gan y tiwtor ac yn adlewyrchu ymwybyddiaeth dda o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Gallu ymateb i gwestiynau a sylwadau o’r llawr mewn ffordd hyderus a phwrpasol gan fwyaf a chydag ymwybyddiaeth dda o gywirdeb iaith.Portffolio - Adnoddau Dysgu a Phroject Ysgol Creu adnoddau (3 tasg) - Adnoddau pwrpasol yn dangos peth gwreiddioldeb ar adegau gan gymhwyso, addasu ac ychwanegu at y patrymau iaith a gyflwynir ar y cwrs. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth dda o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u cymhwyso’n bur gyson wrth baratoi adnoddau trawsgwricwlaidd. - Gwaith sy’n dangos y gallu i wahaniaethu gweithgareddau / adnoddau’n effeithiol a phwrpasol. - Ymwybyddiaeth dda o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau. - Ymwybyddiaeth dda o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn eithaf cyson a thrwyadl. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gadarn o’r patrymau iaith sydd eu hangen ar y gynulleidfa darged gan eu defnyddio’n gywir a chyson yn y rhan fwyaf o'r gwaith. - Ymwybyddiaeth dda o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.Marcio gwaith plant - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o strategaethau asesu ar gyfer dysgu a’r gallu i’w cymhwyso a’u defnyddio’n effeithiol a phwrpasol. - Dangos ymwybyddiaeth dda o nodweddion cynnwys ac iaith gwahanol ffurfiau ysgrifenedig mewn cyd-destunau trawsgwricwlaidd. - Gallu cymhwyso eu gwybodaeth am yr iaith i gywiro iaith disgyblion drwy dynnu sylw at y gwallau, eu hegluro a’u cywiro’n hyderus gan amlaf. - Gallu defnyddio iaith canmol ac annog yn gywir ac effeithiol. - Gwaith yn dangos y gallu i ddefnyddio patrymau cywir a geirfa addas yn bur gyson i roi sylwadau / adborth ystyrlon a dealladwy er mwyn ymestyn a datblygu sgiliau iaith y disgyblion.Portffolio cymysg: Cynllun Datblygu UnigolAdroddiad ysgrifenedig - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth dda o gywirdeb iaith a gafael bur gadarn ar batrymau ymestynnol a chywair addas yn gyson. - Gwaith yn dangos defnydd hyderus a chywiro’r cystrawennau a’r patrymau iaith amrywiol a gyflwynwyd drwy’r tri modiwl. - Ymwybyddiaeth dda a defnydd cywir o dermau a geirfa maes addysg gan amlaf. - Defnydd cyson ac effeithiol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol. - Sgiliau gwerthuso a hunanwerthuso cadarn yn ogystal ag ymwybyddiaeth dda o anghenion datblygiad personol pellach.Cyfweliad - Cyfweliad yn dangos dealltwriaeth dda o’r cwestiynau / sbardunau a’r gallu i ateb ac ymateb yn effeithiol a hyderus gan amlaf. - Dangos y gallu i gyfeirio’n addas a phwrpasol at ddarnau perthnasol o’r adroddiad ysgrifenedig gan fwyaf. - Iaith a mynegiant yn dangos lefel dda o gywirdeb ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig gan amlaf. - Cyfweliad yn dangos ymwybyddiaeth dda o dermau a geirfa bwrpasol a’i defnyddio’n gywir ac addas yn y rhan fwyaf o'r cyfweliad. - Dangos y gallu i gyfathrebu a rhyngweithio’n effeithiol mewn cywair addas gan fwyaf.
-excellent -Ardderchog (A- i A / 70% +)Sesiwn Micro Ddysgu - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig yn gyson. - Defnyddio iaith y dosbarth (e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau) yn glir ac yn gywir. - Cyflwyno’n glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r dysgwyr yn rhugl gan ofyn ac ateb cwestiynau’n gywir. - Gallu ymateb yn ardderchog i gamgymeriadau’r dysgwyr gan gynnig adborth pwrpasol, ymestynnol yn gyson. - Dangos ymwybyddiaeth gadarn o eirfa bwrpasol ar lafar ac yn ysgrifenedig a’i defnyddio’n gywir yn gyson. - Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth gadarn ac effeithiol o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio’n llwyddiannus i gyflwyno sesiwn drawsgwricwlaidd hynod effeithiol. - Gwaith wedi’i wahaniaethu’n addas a phwrpasol iawn. - Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n annibynnol heb fawr ddim cymorth nac arweiniad gan y tiwtor ac yn dangos ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Hunanwerthuso llafar hyderus ac annibynnol gan ymateb i’r rhan fwyaf o’r sbardunau gan y tiwtor yn ymestynnol. Cyflwyniad llafar - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig yn gyson. - Cyflwyno’n glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r gynulleidfa yn rhugl ac mewn modd effeithiol. - Dangos ymwybyddiaeth gadarn o eirfa bwrpasol ar lafar ac yn ysgrifenedig a’i defnyddio’n gywir yn gyson. - Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n annibynnol heb fawr ddim cymorth nac arweiniad gan y tiwtor ac yn adlewyrchu ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Gallu ymateb i gwestiynau a sylwadau o’r llawr mewn ffordd hyderus, bwrpasol a chydag ymwybyddiaeth gref o gywirdeb iaith.Portffolio - Adnoddau Dysgu a Phroject Ysgol Creu adnoddau (3 tasg) - Adnoddau pwrpasol yn dangos gwreiddioldeb cyson gan gymhwyso, addasu ac ychwanegu at y patrymau iaith a gyflwynir ar y cwrs. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth gref o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u cymhwyso’n gyson wrth baratoi adnoddau trawsgwricwlaidd. - Gwaith sy’n dangos y gallu i wahaniaethu gweithgareddau / adnoddau’n gwbl addas a phwrpasol. - Ymwybyddiaeth gadarn o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau. - Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gref o’r patrymau iaith sydd eu hangen ar y gynulleidfa darged gan eu defnyddio’n gywir a chyson yn y gwaith. - Ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.Marcio gwaith plant - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o strategaethau asesu ar gyfer dysgu a’r gallu i’w cymhwyso a’u defnyddio’n gwbl effeithiol a phwrpasol. - Dangos ymwybyddiaeth gref o nodweddion cynnwys ac iaith gwahanol ffurfiau ysgrifenedig mewn cyd-destunau trawsgwricwlaidd. - Gallu cymhwyso eu gwybodaeth am yr iaith i gywiro / i farcio iaith disgyblion drwy dynnu sylw at y gwallau, eu hegluro a’u cywiro’n gwbl hyderus. - Gallu defnyddio iaith canmol ac annog yn gywir, yn effeithiol ac i bwrpas drwy’r gwaith. - Gwaith yn dangos y gallu i ddefnyddio patrymau cywir a geirfa addas yn gyson i roi sylwadau / adborth ystyrlon a dealladwy er mwyn ymestyn a datblygu sgiliau iaith y disgyblion.Portffolio cymysg: Cynllun Datblygu UnigolAdroddiad ysgrifenedig - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb iaith a gafael ardderchog ar batrymau ymestynnol a chywair cwbl addas gan wneud hynny’n gyson a thrwyadl drwy’r adroddiad. - Gwaith yn dangos defnydd hyderus a chywir iawn o’r cystrawennau a’r patrymau iaith amrywiol a gyflwynwyd drwy’r tri modiwl. - Ymwybyddiaeth gref a defnydd cywir o dermau a geirfa maes addysg yn gyson drwy’r adroddiad. - Defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol yn y gwaith. - Sgiliau gwerthuso a hunanwerthuso ardderchog yn ogystal ag ymwybyddiaeth gref iawn o anghenion datblygiad personol pellach.Cyfweliad* - Cyfweliad yn dangos dealltwriaeth ardderchog o’r cwestiynau / sbardunau a’r gallu i ateb ac ymateb yn hyderus ac ymestynnol. - Dangos y gallu i gyfeirio’n addas a phwrpasol at ddarnau perthnasol o’r adroddiad ysgrifenedig. - Iaith a mynegiant yn dangos lefel uchel a chyson o gywirdeb ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig. - Cyfweliad yn dangos ymwybyddiaeth gadarn iawn o dermau a geirfa bwrpasol a’i defnyddio’n gywir ac addas drwy’r cyfweliad. - Dangos y gallu i gyfathrebu a rhyngweithio’n hyderus, yn effeithiol a chlir mewn cywair cwbl addas.
-another level-(C- i C+ / 50-59)Sesiwn Micro Ddysgu - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig yn bur gyson. - Defnyddio iaith y dosbarth (e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau) yn bwrpasol ar lefel sylfaenol gywir. - Cyflwyno’n glir ac effeithiol ar y cyfan a rhyngweithio gyda’r dysgwyr yn eithaf rhugl gan ofyn ac ateb cwestiynau’n gywir gan amlaf. - Gallu ymateb i gamgymeriadau’r dysgwyr gan gynnig adborth pwrpasol yn aml. - Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o dermau a geirfa addas ar lafar ac yn ysgrifenedig a’u defnyddio’n gywir yn eithaf cyson. - Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth sylfaenol o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio i gyflwyno sesiwn drawsgwricwlaidd dderbyniol. - Ymgais i wahaniaethu'r gwaith mewn ffordd bwrpasol. - Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n weddol annibynnol ond gyda pheth arweiniad gan y tiwtor ac yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Hunanwerthuso llafar ar ffurf atebion sylfaenol i gwestiynau'r tiwtor. Cyflwyniad llafar - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig yn bur gyson. - Cyflwyno’n glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r gynulleidfa yn eithaf rhugl ac mewn modd pwrpasol yn aml. - Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o eirfa bwrpasol ar lafar ac yn ysgrifenedig a’i defnyddio’n gywir yn eithaf cyson. - Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n weddol annibynnol ond gyda chymorth ac arweiniad gan y tiwtor ac yn adlewyrchu ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol. - Gallu ymateb i gwestiynau a sylwadau o’r llawr mewn ffordd hyderus a phwrpasol yn weddol gyson gydag ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb iaith.Portffolio - Adnoddau Dysgu a Phroject Ysgol Creu adnoddau (3 tasg) - Adnoddau pwrpasol yn dangos gallu i gyfuno defnydd o batrymau cyfarwydd y cwrs â rhai patrymau gwreiddiol at ddiben y dasg. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u cymhwyso ar y cyfan wrth baratoi adnoddau trawsgwricwlaidd. - Gwaith sy’n dangos y gallu i wahaniaethu gweithgareddau / adnoddau’n weddol addas a phwrpasol. - Ymwybyddiaeth sylfaenol o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau gan amlaf. - Ymwybyddiaeth sylfaenol o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o'r gwaith. - Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gadarn o’r patrymau iaith sydd eu hangen ar y gynulleidfa darged gan eu defnyddio’n gywir yn bur aml. - Ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.Marcio gwaith plant - Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o strategaethau asesu ar gyfer dysgu a’r gallu i’w cymhwyso a’u defnyddio’n effeithiol a phwrpasol ar adegau. - Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o nodweddion cynnwys ac iaith gwahanol ffurfiau ysgrifenedig mewn cyd-destunau trawsgwricwlaidd. - Gallu cymhwyso eu gwybodaeth am yr iaith i gywiro iaith disgyblion drwy dynnu sylw at y gwallau, eu hegluro a’u cywiro ar adegau. - Gallu defnyddio iaith canmol ac annog yn gywir ac effeithiol ar y cyfan. - Gwaith yn dangos y gallu gan amlaf i ddefnyddio patrymau cywir a geirfa addas i roi sylwadau / adborth ystyrlon a dealladwy yn weddol gyson er mwyn ymestyn a datblygu sgiliau iaith y disgyblion.Portffolio cymysg: Cynllun Datblygu UnigolAdroddiad ysgrifenedig - Fel arfer, gwaith yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb iaith a pheth gafael ar batrymau ymestynnol a chywair addas. - Rhannau o'r gwaith yn dangos defnydd cywir o'r cystrawennau a’r patrymau iaith amrywiol a gyflwynwyd drwy’r tri modiwl, ond nid yn gyson a thrwyadl. - Ymwybyddiaeth a defnydd sylfaenol o dermau a geirfa maes addysg. - Tystiolaeth o ddefnydd o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol, ond nid yn gyson drwy'r gwaith. - Sgiliau gwerthuso a hunanwerthuso sylfaenol a pheth ymwybyddiaeth o anghenion datblygiad personol pellach.Cyfweliad - Cyfweliad yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r cwestiynau / sbardunau a’r gallu i ateb ac ymateb yn ddigonol gan amlaf. - Dangos y gallu i gyfeirio at ddarnau perthnasol o’r adroddiad ysgrifenedig ar adegau. - Iaith a mynegiant yn dangos lefel sylfaenol o gywirdeb ar lafar ac ynganu clir a Chymreig ar adegau. - Cyfweliad yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o dermau a geirfa bwrpasol a’r gallu i'w defnyddio’n gywir ac addas ond heb wneud hynny'n gyson a thrwyadl. - Dangos y gallu i gyfathrebu a rhyngweithio’n bur effeithiol mewn cywair addas ar y cyfan.
Learning Outcomes
- Adfyfyrio ar eu cynnydd personol eu hunain a’u datblygiad proffesiynol / ieithyddol gan adnabod camau datblygu pellach i’r dyfodol.
- Cynyddu ymwybyddiaeth o batrymau gramadegol y Gymraeg a’u cymhwyso ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Dangos hyder a rhuglder cynyddol wrth fynegi eu hunain ar lafar gan ddefnyddio ystod ehangach o batrymau addas yng nghyd-destun eu sefyllfaoedd proffesiynol.
- Datblygu gallu i gymhwyso’r hyn a ddysgwyd er mwyn adnabod cyfleoedd, gosod disgwyliadau a chynllunio tasgau pwrpasol er mwyn datblygu iaith disgyblion.
- Drwy gydweithio gyda’r prifathro, eu cydweithwyr a’r athrawon bro, gwerthuso eu cynlluniau ar gyfer datblygu’r Gymraeg yn strategol yn eu hysgolion, gan adnabod cyfleoedd i ddatblygu i’r dyfodol.
- Gallu defnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu er mwyn ymateb i iaith disgyblion a chywiro camgymeriadau gan gynnig adborth pwrpasol a dealladwy er mwyn ymestyn sgiliau ieithyddol y plant.
- Gallu gwahaniaethu gweithgareddau ac adnoddau dysgu iaith yn effeithiol a phwrpasol.
- Gwerthuso eu sesiynau addysgu a’u hadnoddau addysgu gan ystyried methodolegau addysgu’r iaith Gymraeg.
- Mynegi eu hunain yn ysgrifenedig gan ddefnyddio ystod ehangach o batrymau a geirfa sy’n berthnasol i’w cyd-destun a’u sefyllfaoedd proffesiynol.
- Parhau i ddefnyddio ac addasu dulliau addysgu’r iaith Gymraeg yn eu gwersi trawsgwricwlaidd er mwyn datblygu iaith disgyblion, yn sesiynau addysgu ac wrth baratoi adnoddau a deunyddiau dysgu.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyfweliad llafar Cyfweliad llafar 20 munud yn hunanwerthuso eu cynnydd ar y cwrs: cynnydd yn eu sgiliau iaith personol a methodolegau dysgu iaith.
Weighting
20%
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Hunan-werthusiad Terfynol Cofnod yn hunanwerthuso eu cynnydd ar y cwrs: cynnydd yn eu sgiliau iaith personol a methodolegau dysgu iaith.
Weighting
20%
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Micro Ddysgu 1 Sesiwn ddysgu 30 munud yn y dosbarth ym maes dysgu a phrofiad y Dyniaethau.
Weighting
40%
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Marcio gwaith plant Marcio darn o waith plant gan roi adborth pwrpasol. Cynllunio gweithgaredd iaith addas gydag un o’r gwallau yn y darn i ymarfer / atgyfnerthu.
Weighting
10%
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Gwerthusiad Micro Ddysgu Hunanwerthusiad o’r sesiwn Meciro Ddysgu ym maes dysgu a phrofiad y Dyniaethau.
Weighting
10%