Module XCC-3213:
Astudiaethau Pwnc 3
Astudiaethau Pwnc 3 2023-24
XCC-3213
2023-24
School of Education
Module - Semester 1 & 2
40 credits
Module Organiser:
Rowena Hughes-Jones
• Dadansoddi a myfyrio'n feirniadol ar addysgeg a modelau dysgu trawsgwricwlaidd;
• Dadansoddiad beirniadol o fodelau addysgu a dysgu trawsgwricwlaidd;
• Dadansoddiad beirniadol o berthnasedd y cysyniad 'Syniadau Mawr' a'i gymhwysedd i addysgu a dysgu;
• Dadansoddiad beirniadol o elfennau allweddol - sgiliau, addysgeg, agweddau, gwybodaeth a phrosesau;
• Dadansoddiad beirniadol o gynllunio a chyflwyno themâu trawsgwricwlaidd;
• Dadansoddi, gyda chydweithwyr, o feysydd i'w datblygu o fewn cynllunio datblygu ysgolion a defnyddio hyn i lunio cynlluniau i'w cyflwyno yn yr ysgol;• Cynnwys llais y disgybl
– beth yw llais y disgybl a sut y gellir cynnwys hyn wrth gynllunio cyfleoedd dysgu ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad?
• Asesu effaith addysgu a dysgu drwy werthuso, myfyrio a deialog;
• Myfyrio ar sut mae'r dysgwyr yn gwerthuso'r profiad o ddysgu;
• Gweithredu cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol;
Bydd llais y disgybl yn cael ei drafod a bydd Athrawon Cyswllt yn cynnwys plant wrth gynllunio a gwerthuso'r uned. Bydd cynllunio profiadau dysgu ystyrlon a dilys yn cael ei werthuso o ran datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol disgyblion a sut mae hyn wedi effeithio ar ddysgu ac ymgysylltu.
**Noder y bydd yr holl gynnwys ac asesiadau yn cael eu cysylltu'n benodol â'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Gellir dod o hyd iddynt yn
http://learning.gov.wal... g-and-leadership-en.pdf
Mae sut mae'r modiwl hwn yn cyfrannu tuag at gynnydd athrawon cysylltiol yn erbyn y safonau addysgu proffesiynol yn cael ei olrhain mewn dogfen ychwanegol ( PDP).
Assessment Strategy
Cyflwyniad Uned waith cwricwlaidd
Learning Outcomes
- Archwilio'n feirniadol, y dulliau a'r strategaethau a ddefnyddir i gynnwys ac ennyn diddordeb dysgwyr wrth fyfyrio ar gynllunio a gwerthuso dysgu.
- Arddangos tystiolaeth o gymhwysedd uwch mewn sgiliau personol yn y Gymraeg, mewn perthynas ag awdit y Rhaglen ar adeg mynediad.
- Cynllunio a gwerthuso eu gwaith eu hunain yn feirniadol, mewn perthynas â’r ddamcaniaeth sy'n gysylltiedig â dysgu trawsgwricwlaidd/thematig/cyfannol.
- Cynllunio, mewn perthynas â gwella ysgol, cyflwyno a gwerthuso'n feirniadol uned drawsgwricwlaidd/thematig, gan nodi'r effaith ar ddysgu a chynnydd disgyblion.
- Dadansoddi'n feirniadol, y defnydd o addysgeg addysgu Cymraeg er mwyn llywio dysgu ac addysgu yn yr ystafell ddosbarth.
- Myfyrio’n feirniadol ar sut mae cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wedi’u hymgorffori yn yr addysgu.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Asesiad B: 70% o'r modiwl (5600 gair cyfatebol) Dylunio profiad addysgol trawsgwricwlaidd/uned o waith gan dynnu ar y Cynllun Datblygu Ysgolion a llinellau ymholi dan arweiniad plant. Gweithredu cyfres o bedair sesiwn gysylltiedig gan dynnu ar o leiaf pedwar MDaPh a gwerthuso. Trafod yn feirniadol gyda chydweithwyr yn yr ysgol.
Weighting
70%
Due date
01/05/2024
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Asesiad A: 30% o'r modiwl (cyfwerth â 2400) – cyflwyniad 20-30 munud Mewn grwpiau o 3/4 nodwch safle addas ar gyfer ymweliad addysgol. Ewch i'r safle gan ystyried ffocws ar gyfer y dysgu. Lluniwch asesiad risg ar gyfer yr weithgaredd ynghyd a gwybodaeth i rieni/llythyrau caniatâd. Gan dynnu ar lenyddiaeth ddamcaniaethol ynghylch dysgu trawsgwricwlaidd, CiG a dysgu yn yr awyr agored, cyflwynwch y cynlluniau i weddill y grŵp. Nodwch yn glir wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y gellir eu datblygu. Myfyriwch yn feirniadol ar sut mae cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn rhan annatod o addysgu.
Weighting
30%
Due date
11/10/2023