Module XMC-4302:
Arwain Newid Sefydliadol
Arwain Newid Sefydliadol 2024-25
XMC-4302
2024-25
School of Education
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Jeremy Griffiths
Overview
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar brosesau ac ymarferoldeb arwain newid sefydliadol ar lefel ysgol a system. Bydd yn archwilio dadleuon allweddol ynghylch damcaniaethau newid a rheoli newid mewn cysylltiad â gwelliant sefydliadol. Bydd y modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr i archwilio’n feirniadol gyfraniad arweinwyr yn ystod adegau o newid sefydliadol ac ansicrwydd. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth iddynt am arweinyddiaeth fel y gallant arwain a gweithredu newid yn effeithiol yn eu cyd-destun. Bydd y modiwl yn cymharu gwahanol ddulliau o gyflawni newid sefydliadol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a’r gofynion polisi sy’n dylanwadu ar newidiadau o’r fath.
Assessment Strategy
Trothwy PASS C- i C+ ystod 50-59% o wendidau mewn dadleuon a darllen a gwybodaeth gefndirol gyfyngedig
Teilyngdod B- i B+ ystod 60-69% Mae ffocws yr ateb wedi'i strwythuro'n dda, cyflwynir dadleuon cydlynol da ar y pwnc ond gyda rhai bylchau yn y wybodaeth
Rhagoriaeth A- i A* ystod 70-100% Gwaith manwl gywir sy'n dangos darllen ehangach a pheth mewnbwn gwreiddiol
Learning Outcomes
- Archwilio’n feirniadol gyfraniad arweinwyr at newid a gwelliant sefydliadol llwyddiannus.
- Archwilio’r galluoedd arwain sy’n ofynnol i arwain a gweithredu newid yn effeithiol ar lefel ysgol a system.
- Cymharu’n feirniadol a myfyrio ar wahanol ddulliau o weithredu newid sefydliadol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a’u cymhwyso i gyd-destun y myfyrwyr eu hunain.
- Gwerthuso dadleuon allweddol ynglŷn â damcaniaethau newid a rheoli newid ar lefel ysgol a system.
- Gwerthuso’r ffactorau mewnol ac allanol, gan gynnwys gofynion polisi, sy’n effeithio ar newid a gwelliant sefydliadol.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Patchwork text exploring processes
Weighting
100%
Due date
29/04/2022