Module XMC-4316:
Arloesi ac Arweinyddiaeth Cwri
Arloesi ac Arweinyddiaeth Cwricwlwm 2024-25
XMC-4316
2024-25
School of Education
Module - Semester 3
20 credits
Module Organiser:
Kaydee Owen
Overview
1 - Archwilio a dadansoddi modelau arweinyddiaeth o fewn lleoliadau a chyd-destunau Addysgol.
2 - Dadansoddi’n gritigol rôl arweinyddiaeth o fewn Cwricwlwm i Gymru ac i ddyfnhau eu dealltwriaeth o arweinyddiaeth wasgaredig.
3 - Galluogi myfyrwyr i ddyfnhau eu dealltwriaeth o ddadleuon damcaniaethol ac athronyddol allweddol o ran dylunio cwricwlwm a’i weithredu, ac i gymhwyso’r dulliau hyn yn eu hymarfer eu hunain.
4 - Dadansoddi strategaethau arloesol mewn datblygiad cwricwlwm ac i adlewyrchu ar eu defnydd yn eu lleoliadau a chyd-destunau eu hunain.
Mae’r modiwl hwn yn archwilio theorïau o arweinyddiaeth ac arloesi gyda phwyslais penodol ar y Cwricwlwm i Gymru. Bydd myfyrwyr yn dadansoddi’n gritigol y dulliau gwahanol at arweinyddiaeth a defnyddio’r theorïau hynny i’w lleoliadau a’u cyd-destunau proffesiynol eu hunain. Ymhellach, bydd y cyd-destun arweinyddiaeth o fewn y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei archwilio gyda phwyslais ar ddeall arweinyddiaeth a rheolaeth wasgaredig o Feysydd Dysgu a Phrofiad gyda chyfeiriad at gyfrifoldeb ac asiantaeth athrawon. Bydd y modiwl hefyd yn tynnu ar ddadleuon athronyddol a damcaniaethol allweddol ynglŷn â theori addysgeg ac yn caniatau myfyrwyr i archwilio eu defnydd yn eu cyd-destunau a lleoliadau addysgol eu hunain. Yn ogystal â hyn, bydd y modiwl yn tynnu ar strategaethau arloesol ar gyfer cwricwlwm, dyluniad, gweithredu a rheolaeth ac yn caniatáu myfyrwyr i fyfyrio ar eu defnydd neu leoliadau a chyd-destunau addysgol eu hunain.
Assessment Strategy
Trothwy PASS C- i C+ ystod 50-59% o wendidau mewn dadleuon a darllen a gwybodaeth gefndirol gyfyngedig
Teilyngdod B- i B+ ystod 60-69% Mae ffocws yr ateb wedi'i strwythuro'n dda, cyflwynir dadleuon cydlynol da ar y pwnc ond gyda rhai bylchau yn y wybodaeth
Rhagoriaeth A- i A* ystod 70-100% Gwaith manwl gywir sy'n dangos darllen ehangach a pheth mewnbwn gwreiddiol
Learning Outcomes
- Dadansoddi a myfyrio ar ddulliau arweinyddiaeth cwricwlwm effeithiol.
- Dadansoddi’n gritigol dadleuon athronyddol a damcaniaethol allweddol ynglŷn â gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru.
- Deall a dadansoddi arweinyddiaeth cwricwlwm yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru ac AOLEs.
- Myfyrio’n gritigol ar strategaethau arloesol o ran datblygu cwricwlwm a myfyrio ar weithredu yn eu cyd-destunau a lleoliadau addysgol eu hunain.
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
A report focusing on curriculum leadership and innovation within the context of their subject/ AOLE/ School
Weighting
100%