Golygathon cyntaf erioed ar Gerddoriaeth i’w gynnal yn Adran Gerdd Prifysgol Bangor
Fe fydd y ‘Golygathon’ cyntaf o’i fath erioed ym maes Cerddoriaeth yn cael ei gynnal yn Adran Gerdd Prifysgol Bangor ddydd Gwener, 24 Chwefror, 2017.
Bwriad y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar y cyd rhwng yr Adran Gerdd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a BBC Bangor, yw gwella a datblygu cynnwys grwpiau pop a gwerin ar y Wicipedia Cymraeg.
Dywedodd cydlynydd y prosiect Jason Evans, o’r Llyfrgell Genedlaethol: ‘fe fydd cynnal y ‘Golygathon’ ym Mangor yn help i bobl ychwanegu cynnwys am grwpiau pop Cymraeg presennol a hanesyddol i Wicipedia. Wicipedia yw’r Gwefan Cymraeg mwya’r byd ac felly mae’n llwyfan arbennig i bostio gwybodaeth am fandiau a grwpiau gwerin Cymraeg.’
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 1–5 ar bnawn Gwener, 24 Chwefror, yn Archif Bop Cymru ac Archif Draddodiadol Cerddoriaeth Cymru. Bydd pryd o fwyd i bawb sy’n mynychu.
Mae’r ‘Golygthon’ yn cyd-ddigwydd gydag arddangosfa o eitemau allan o Archif Bop Cymru sydd i’w weld ar hyn o bryd yng nghyntedd yr Adran Gerdd.
Publication date: 23 February 2017