Module WMC-4115:
Perfformiad II
Perfformio II 2024-25
WMC-4115
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Iwan Llewelyn Jones
Overview
Cynlluniwyd y modiwl hwn i alluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau perfformio ymhellach fel offerynwyr, cantorion, arweinyddion, cyfeilyddion neu gerddorion siambr. Bydd y myfyrwyr yn cael hyfforddiant unigol gyda thiwtor arbenigol yn ymdrin â thechneg, arddull a dehongli i safon uwch. Yn ychwanegol, bydd y myfyrwyr yn mynychu ac yn cymryd rhan mewn gweithdai pythefnosol, wedi eu harwain gan diwtor y modiwl, a fydd yn mynd i'r afael yn fwy cyffredinol â'r sgiliau y mae ar berfformiwr eu hangen, a bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu hyder, profiad a gwybodaeth.
Mae'r amserlen Asesu yn cynnwys datganiad 20 munud (90%) ynghyd â Chyflwyniad Llafar yn para 15 munud (10%).
Bydd cynnwys y modiwl yn canolbwyntio ar dechneg perfformio, pedagogaeth, dadansoddi, astudiaethau dehongli, astudiaethau perfformio, rhaglenni, ysgrifennu nodiadau rhaglen, a pharatoi ar gyfer perfformio. Bydd y gweithdai hefyd yn ystyried cyflwyniad ar lwyfan a swyddogaeth cyfathrebu wrth berfformio.
Bydd pwysoliad y pynciau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gan ymateb i arbenigeddau perfformwyr a diddordebau'r myfyrwyr.
Assessment Strategy
Trothwy (50-59%): Perfformiadau sydd gan fwyaf yn gywir ac yn briodol o ran arddull, gyda cyflwyniad ar lafar sydd yn llawn gwybodaeth ac yn drefnus.
Da (60-69%): Perfformiadau sydd wastad yn gywir gydag ymwybyddiaeth o arddull, gan ddangos peth gwreiddioldeb o ran y dull o ddehongli, gyda cyflwyniad ar lafar sy'n ddiddorol ac yn graff.
Rhagorol (70%+): Perfformiadau sydd yn dechnegol drawiadol ac yn argyhoeddi o ran arddull, gan ddangos llawer o wreiddioldeb o ran y dull o ddehongli, gyda cyflwyniad ar lafar sy'n peri i rywun feddwl ac sy’n hynod wreiddiol.
Learning Outcomes
- Dangos arweinyddiaeth wrth weithio gyda chyfeilydd, neu, pan nad yw'n cyfeilydd, perfformio'r gwaith(au) gan ddangos rheolaeth lawn ar ofynion testunol/melodig a deongliadol perthnasol.
- Rhaglennu a pherfformio repertoire/datganiad eang arbenigol sy'n cyfleu annibyniaeth meddwl a myfyrio beirniadol a gefnogir gan hyfedredd technegol perthnasol (gan gynnwys tonyddiaeth, fel y bo'n briodol).
- Yn gallu cyfleu mewn geiriau resymeg, dadansoddiad a gwerthusiad o repertoire eu datganiad.
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Datganiad o gerddoriaeth offerynnol neu leisiol unigol yn para 20 munud. Asesu Deilliannau Dysgu 1 a 2. I’w gyflwyno yn ystod Cyfnod Asesu Semester 2
Weighting
80%
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad llafar ar gynnwys y Datganiad Terfynol yn para 10 munud. Yn profi Deilliannau Dysgu 1 a 3. I gymryd lle yn ystod Cyfnod Asesu Semester 1 (Ionawr 2023).
Weighting
20%