Modiwl WMC-4115:
Perfformiad II
Perfformio II 2024-25
WMC-4115
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Iwan Llewelyn Jones
Overview
Cynlluniwyd y modiwl hwn i alluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau perfformio ymhellach fel offerynwyr, cantorion, arweinyddion, cyfeilyddion neu gerddorion siambr. Bydd y myfyrwyr yn cael hyfforddiant unigol gyda thiwtor arbenigol yn ymdrin â thechneg, arddull a dehongli i safon uwch. Yn ychwanegol, bydd y myfyrwyr yn mynychu ac yn cymryd rhan mewn gweithdai pythefnosol, wedi eu harwain gan diwtor y modiwl, a fydd yn mynd i'r afael yn fwy cyffredinol â'r sgiliau y mae ar berfformiwr eu hangen, a bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu hyder, profiad a gwybodaeth.
Mae'r amserlen Asesu yn cynnwys datganiad 20 munud (80%) ynghyd â Chyflwyniad Llafar yn para 10 munud (20%).
Bydd cynnwys y modiwl yn canolbwyntio ar dechneg perfformio, pedagogaeth, dadansoddi, astudiaethau dehongli, astudiaethau perfformio, rhaglenni, ysgrifennu nodiadau rhaglen, a pharatoi ar gyfer perfformio. Bydd y gweithdai hefyd yn ystyried cyflwyniad ar lwyfan a swyddogaeth cyfathrebu wrth berfformio.
Bydd pwysoliad y pynciau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gan ymateb i arbenigeddau perfformwyr a diddordebau'r myfyrwyr.
Mae'r amserlen Asesu yn cynnwys datganiad 20 munud (80%) ynghyd â Chyflwyniad Llafar yn para 10 munud (20%).
Assessment Strategy
Pasio: C – i C+ (50% i 59%) Mae'r perfformiad yn dangos techneg cyson ar y cyfan a pheth ymwybyddiaeth arddull sy'n briodol i'r repertoire a ddewiswyd. Cyfyngir y marc i'r lefel hon gan faterion megis anghywirdeb technegol, gwendidau mewn cyfathrebu a brawddegu, methiannau wrth gyfleu manylion bwriadau'r cyfansoddwr, dynwared penderfyniadau deongliadol a wnaed gan berfformwyr eraill yn lle dangos bwriad gwreiddiol, a thystiolaeth o ymchwil cefndir sylfaenol i mewn i'r repertoire a berfformiwyd. Mae'r cyflwyniad llafar/gwaith testun yn dangos gwybodaeth brin o'r pwnc, gyda gallu cyfyngedig i feddwl yn gysyniadol, ond mae rhywfaint o dystiolaeth o ymagwedd ddeallusol gyffredinol, gyda mynegiant teg.
Teilyngdod: B– i B+ (60%-69%) Mae'r perfformiad yn eitha cadarn ac yn ddeniadol, gan arddangos techneg gyson gyda defnydd effeithiol a dychmygus o reolaeth rythmig a deinamig ar gyfer cyfathrebu’n greadigol. Bydd tystiolaeth o rywfaint o feddwl annibynnol a pharatoi cefndirol gan gynnwys ymchwil academaidd a gwybodaeth am y materion hanesyddol a’r pryderon ymarfer perfformio yn y repertoire a astudiwyd. Mae'r cyflwyniad llafar/gwaith testun yn dangos gafael dda ar y pwnc, lefel foddhaol o feddwl cysyniadol, ymwybyddiaeth o'r prif faterion, gyda thystiolaeth o graffter deallusol a mynegiant da.
Rhagoriaeth: A– ac A (70%-83%) Bydd y perfformiad o safon dechnegol uchel a bydd yn dangos tystiolaeth o feddwl annibynnol a pharatoi cefndir trylwyr gan gynnwys ymchwil academaidd a gwybodaeth fanwl o'r materion hanesyddol a'r pryderon ymarfer perfformio yn y repertoire a astudiwyd. Bydd y perfformiad yn dangos defnydd awdurdodol o ddyfeisiadau mynegiannol a'r gallu i wneud penderfyniadau dehongliadol gwreiddiol ac argyhoeddiadol mewn perfformiad cymhellol a chreadigol. Mae'r cyflwyniad llafar/gwaith yn seiliedig ar destun yn dangos gafael drylwyr ar y pwnc, gyda thystiolaeth o astudiaeth gyd-destunol eang, meddwl dwfn, ymagwedd wreiddiol a sgiliau ysgrifennu da iawn.
Rhagoriaeth: A+ i A** (84%-100%) Bydd perfformiad yn y categori hwn yn dangos holl nodweddion y categori A– i A, yn ogystal ag arddangos gallu technegol rhagorol a gweledigaeth ddeongliadol sy’n bodloni safonau artist perfformio proffesiynol ar ddechrau ei yrfa. Mae’r cyflwyniad llafar/gwaith seiliedig ar destun yn dangos gafael gynhwysfawr ar y pwnc, gyda thystiolaeth o astudiaeth gyd-destunol ehangach, meddwl dyfnach, ymagwedd wreiddiol a sgiliau ysgrifennu rhagorol.
Learning Outcomes
- Dangos arweinyddiaeth wrth weithio gyda chyfeilydd, neu, pan nad yw'n cyfeilydd, perfformio'r gwaith(au) gan ddangos rheolaeth lawn ar ofynion testunol/melodig a deongliadol perthnasol.
- Rhaglennu a pherfformio repertoire/datganiad eang arbenigol sy'n cyfleu annibyniaeth meddwl a myfyrio beirniadol a gefnogir gan hyfedredd technegol perthnasol (gan gynnwys tonyddiaeth, fel y bo'n briodol).
- Yn gallu cyfleu mewn geiriau resymeg, dadansoddiad a gwerthusiad o repertoire eu datganiad.
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Datganiad o gerddoriaeth offerynnol neu leisiol unigol yn para 20 munud. Asesu Deilliannau Dysgu 1 a 2. I’w gyflwyno yn ystod Cyfnod Asesu Semester 2
Weighting
80%
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad llafar ar gynnwys y Datganiad Terfynol yn para 10 munud. Yn profi Deilliannau Dysgu 1 a 3. I gymryd lle yn ystod Cyfnod Asesu Semester 1 (Ionawr 2023).
Weighting
20%