Mynediad i'r Gwaith
Mae Mynediad i Waith yn rhaglen sy'n cael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i gynorthwyo pobl anabl a rhai â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir i gael 'addasiadau rhesymol' fel nad ydynt dan anfantais wrth wneud eu gwaith.
Y rhaglen
Rydych yn gymwys ar gyfer y rhaglen os yw eich anabledd, cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol yn debygol o bara am 12 mis neu fwy.
Bwriad Mynediad i Waith yw darparu cyllid tuag at addasiadau fel hyfforddiant, costau teithio ychwanegol, gwasanaethau, cefnogaeth neu offer a fyddai y tu hwnt i'r hyn sy'n rhesymol i gyflogwr ei ddarparu. Prifysgol Bangor yn parhau i fod yn gyfrifol am wneud addasiadau rhesymol i staff o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Addasiadau rhesymol i weithwyr ag anableddau neu gyflyrau iechyd - GOV.UK (www.gov.uk)Mae Mynediad i Waith yn diweddaru'n rheolaidd pa gefnogaeth y gellir ei hystyried yn 'safonol a rhesymol' ac felly gall cyngor newid dros amser i adlewyrchu arferion gwaith sy'n newid, datblygiadau TG a safonau derbyniol y diwydiant.
Mae Mynediad i Waith yn berthnasol i unrhyw swydd â thâl: rhan-amser neu lawn amser, parhaol neu dros dro.
Mae'r gwasanaeth cefnogi iechyd meddwl ar gyfer y rhai y mae eu cyflwr iechyd meddwl yn effeithio ar eu gallu i wneud eu gwaith ac mae angen cefnogaeth arnynt i leihau absenoldeb o'r gwaith ac aros yn y gwaith.
Dim ond y gweithwyr eu hunain all wneud ceisiadau am Fynediad i Waith.
Grant/costau mynediad i waith
Bydd lefelau cyllid yn dibynnu ar ba mor hir y mae staff wedi cael eu cyflogi a pha gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
I ymgeiswyr am swyddi a recriwtiaid newydd mewn swydd ers llai na chwe wythnos: telir hyd at 100% o'r costau sydd wedi eu cymeradwyo.
I’r rhai sy'n defnyddio’r Gwasanaeth Cefnogi Iechyd Meddwl Mynediad i Waith: telir hyd at 100% o'r costau sydd wedi eu cymeradwyo.
I’r rhai sydd yn y swydd ers chwe wythnos neu fwy: fel rheol bydd costau yn cael eu rhannu gan Fynediad i Waith a Phrifysgol Bangor.
Band Cost | Ffynhonnell gyllido |
---|---|
Hyd at £1,000 | 100% Prifysgol Bangor |
Rhwng £1,000 a £10,000 | 20% Prifysgol Bangor + 80% Mynediad i Waith |
Mwy na £10,000 | Mynediad i Waith yn talu fel rheol |
Cysylltiadau Defnyddiol
- Llinell Gymorth Mynediad i Waith a gellir cael gwybodaeth am yr amseroedd agor trwy’r ffôn, ffôn testun, gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
- Remploy
Os hoffech gael cefnogaeth neu wybodaeth bellach gan Brifysgol Bangor ar wneud cais i Fynediad i Waith, cysylltwch â Michele Lake, Ymarferydd Iechyd Galwedigaethol m.lake@bangor.ac.uk
Gwneud cais i Fynediad i Waith
Pan fyddwch yn cysylltu â Mynediad i Waith efallai y byddwch angen:- cyfeiriad eich gweithle a'r cod post
- enw cyswllt yn y gweithle a all awdurdodi'ch taliadau Mynediad i Waith (rhowch fanylion eich rheolwr llinell, ond bydd angen i'ch swyddog cyllid lleol brosesu taliadau)
- cyfeiriad e-bost neu rif ffôn gwaith eich cyswllt yn y gweithle (eich rheolwr llinell)
- eich cyfeirnod treth unigryw (os ydych yn hunangyflogedig)
- sut mae'ch cyflwr yn effeithio arnoch yn y gwaith neu i gyrraedd y gwaith
- pa help rydych yn ei gael eisoes
- beth arall allai eich helpu