Fy ngwlad:

Am ein Hymchwil

Mae ymchwil arloesol Prifysgol Bangor, sy'n cael ei sbarduno gan effaith, yn mynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau mwyaf sy'n wynebu'r byd heddiw.

Mae Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, a gyhoeddir yn 2022, yn cydnabod bod mwy na 85% o ymchwil Prifysgol Bangor naill ai gyda’r gorau yn y byd neu'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Rydym hefyd yn y 30 Uchaf yn y DU am ddangos effaith ein hymchwil ar y byd go iawn.

Ein gweledigaeth o ran ymchwil ac effaith yw bod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang mewn cynaliadwyedd, ac mae’r brifysgol yn ymdrin â chynaliadwyedd mewn modd unigryw a chyfannol sy'n cyd-daro â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Fel sefydliad sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil rydym yn blaenoriaethu buddsoddi mewn ymchwil rhyngddisgyblaethol a wneir eisoes ar raddfa fawr neu a fydd felly yn y dyfodol, sy’n cyd-fynd â chynaliadwyedd, ac sy’n ymdrin â chwestiynau byd-eang heriol. Mae hyn yn ei dro yn arwain at addysgu ysbrydoledig dan arweiniad ymchwil sy’n adlewyrchu cyfraniad prifysgolion at greu gwybodaeth newydd.

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar dair thema allweddol: Ynni a'r amgylchedd; Iechyd, lles ac ymddygiad; ac Iaith, diwylliant a chymdeithas.

Dysgwch fwy

Yn y 30 uchaf

am effaith ar ymchwil yn y Deyrnas Unedig

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2021)

2il

yng Nhymru am ansawddd ymchwil

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2021)

85%

o ymchwil Bangor yn orau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2021)

Themâu Ymchwil

Mae ein hymchwil yn seiliedig ar glystyrau o feysydd pwnc eang wedi eu rhannu rhwng tri choleg y Brifysgol.

Themâu Ymchwil

Mae ein hymchwil yn seiliedig ar glystyrau o feysydd pwnc eang wedi eu rhannu rhwng tri choleg y Brifysgol.

Beth yw'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil?

Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 yn mesur ansawdd ymchwil ar draws prifysgolion y Deyrnas Unedig.

Caiff ymchwil Prifysgol Bangor ei ategu gan ffocws ar gynaliadwyedd, ac mae’n darparu buddion cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol, iechyd a lles, gan weithio gydag ystod o bartneriaid i sicrhau effaith ac arloesedd.

Mae Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, a gyhoeddir yn 2022, yn cydnabod bod mwy na 85% o ymchwil Prifysgol Bangor naill ai gyda’r gorau yn y byd neu yn rhagorol yn rhyngwladol.

Caiff y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ei gynnal ar y cyd gan bedwar corff cyllido addysg uwch y Deyrnas Unedig: Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), Research England, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon. Maent yn defnyddio’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil i lywio sut mae dyrannu £2 biliwn o gyllid ymchwil bob blwyddyn.

Gellir gweld astudiaethau achos effaith Prifysgol Bangor yma:

Astudiaethau Achos REF 2021

delwedd a gynhyrchir gan gyfrifiadur o'r pen mewn lliwiau glas a phinc

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 Deallusrwydd Artiffisial Emosiynol: Llywodraethu, Moeseg a Chymdeithas

Mae ein hymchwil ar 'Ddeallusrwydd Artiffisial Emosiynol' (eAI) wedi datgelu angen dybryd a byd-eang i ystyried agweddau moesegol datblygiad technolegau sy'n mesur ac yn rhyngweithio â chyflyrau affeithiol ac emosiynol. 

Cadwraeth

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 Lleihau Costau Cadwraeth Mewn Gwledydd Incwm Isel a Chanolig

Mae ymchwil dan arweiniad Bangor wedi dangos effeithiau cymdeithasol negyddol cadwraeth ar rai o'r bobl dlotaf yn y byd. 

Arlunio yn hamddenol

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 EFFAITH GADARNHAOL YMYRIADAU CELFYDDYDAU GWELEDOL MEWN GOFAL DEMENTIA

Mae dementia yn flaenoriaeth fyd-eang o ran iechyd y cyhoedd. Rydym yn arwain ymchwil ryngddisgyblaethol i ofal dementia sy’n canolbwyntio ar ymyriadau celfyddydau gweledol. 

Cewch weld ein holl Astudiaethau Achos Effaith REF 2021 ar ein tudalennau Themâu Ymchwil:

Ynglŷn â'n Hymchwil

Mae ymchwil yn ganolog i Brifysgol Bangor; mae’n rhan annatod o’n haddysgu ac yn ennyn brwdfrydedd mawr yn ein staff academaidd. Cafodd y llwyddiant hwn ei adlewyrchu yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. Cydnabu bod dros dri chwarter o ymchwil Bangor naill ai gyda’r orau yn y byd neu yn rhagori’n rhyngwladol. Daw ein hymchwilwyr o dros 30 o wledydd ar draws y byd, ac maent yn gweithio â chydweithwyr o dros 120 o wledydd.

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Ymchwil, Arloesi ac Effaith

Darganfyddwch mwy am sut mae'r Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith yn  darparu ystod eang o wasanaethau cefnogi i staff, ôl-raddedigion a busnesau.

Hwb cydweithredu

Gweithio gyda Ni

Y Ganolfan Gyfweithio yw porth y Brifysgol i fusnesau a chyrff allanol eraill sydd eisiau manteisio ar yr arbenigedd, y cyfleusterau a’r sgiliau sydd ar gael yn y Brifysgol.