Fy ngwlad:

Ynglŷn â'n Ymchwil

Tair thema ymchwil allweddol

Ynni a'r Amgylchedd

Caiff gwaith Prifysgol Bangor yn y maes hwn ei ategu gan ymchwil sylfaenol i wyddorau biolegol, cemegol a ffisegol systemau naturiol, ac mae wedi'i gysylltu'n strategol â pheirianneg systemau, modelu a dyfeisiau cymhleth, yn enwedig ym maes ynni, a gyda gwyddorau cymdeithas, yn arbennig ym maes cadwraeth. Rydym yn mynd i'r afael â chwestiynau fel: sut allwn ni ymateb yn gyflym i asesu lledaeniad COVID-19 yn ninasoedd y Deyrnas Unedig? Sut allwn ni gynaeafu ynni llanw’r môr yn effeithiol? Beth yw’r ffordd fwyaf effeithlon o adnabod mathau gwydn a chynhyrchiol o gnydau bwyd? 

Iechyd, Lles ac Ymddygiad

Gyda ffocws ar ddatblygu ymyriadau cadarn, ar sail empirig, sy’n addas i’w cyd-destun ac sydd wedi’u seilio ar ddealltwriaeth sylfaenol o ymddygiad dynol, mae’r ymchwil hwn yn cefnogi iechyd a llesiant trwy’r effaith a gaiff ar unigolion, llunwyr polisi ac ymarferwyr neu drwy newid diwylliannol ehangach. Rydym yn mynd i'r afael â chwestiynau fel: sut allwn ni wella amodau yn yr ystafell ddosbarth i gyfoethogi’r dysgu? Sut allwn ni ddefnyddio mewnwelediadau o’r celfyddydau i gynorthwyo pobl â dementia? Sut allwn ni nodi a chefnogi'r pobl sydd â potensial i gael llwyddiant Olympaidd? 

Iaith, Diwylliant, a Chymdeithas

Mae'r ymchwil hwn yn rhoi sylw i ymwneud hunaniaeth a chymuned o safbwyntiau disgyblaethol amrywiol, mae’r ymchwil hwn yn edrych ar y rhyngwyneb rhwng unigolyn a chymdeithas, a sut caiff ymdeimlad o berthyn ei gronni trwy ddiwylliant, y cyfryngau, iaith a hanes, a’i effeithio gan natur newidiol cymunedau a chenhedloedd, gan gynnwys strwythurau llywodraethu, cyllid a chyfiawnder gweinyddol. Rydym yn rhoi sylw i gwestiynau megis beth yw'r profiad o ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd pob dydd a sut allwn gefnogi’r defnydd hwnnw gyda thechnolegau ar gyfer cydraddoldeb iaith ddigidol? Beth yw'r ffordd orau i'r cyhoedd wneud endidau gwyliadwriaeth cyfrinachol a gwladwriaethol yn atebol yn gyhoeddus? Sut mae allbwn llenyddol a chreadigol yn gwella ein synnwyr o le yn ogystal â'i hyrwyddo i'r byd?