Fy ngwlad:
Myfyriwr mewn caiac ar Lyn Padarn yn Llanberis

Bangor a'r ardal

Wedi ei lleoli rhwng y mynyddoedd a'r môr, mae ein campws wedi'i amgylchynu gan dirwedd naturiol syfrdanol. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig - cafodd Gogledd Cymru ei enwi'n un o'r llefydd gorau yn y byd i ymweld â nhw gan Lonely Planet.

Ein Lleoliad

Darganfyddwch brifysgol mewn amgylchedd anhygoel.

Beth sydd i'w wneud ym Mangor ac yn yr ardal gyfagos?

Ym Mangor

Yng nghanol Bangor fe welwch ystod eang o archfarchnadoedd, siopau bwyd, siopau cadwyn, caffis, thafarndai a bwytai. Mae ein neuaddau preswyl a'r rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol o fewn pellter cerdded i ganol y ddinas.

Mae Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, sydd wedi cael eu gwobrwyo ymysg y gorau yn y DU tros y blynyddoedd, yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill. Felly, p'un a yw'n rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo erioed neu'n chwaraeon neu weithgareddau rydych wedi bod eisiau rhoi cynnig arnynt erioed, mae yna ddigon i'ch cadw'n brysur yn eich amser hamdden.

Canolfan Chwaraeon

Canolfan Brailsford yw prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol. Wedi ei lleoli ym Mhentref Ffriddoedd,  mae'n cynnwys campfa ddeulawr, campfa berfformio, offer ffitrwydd o'r radd flaenaf, neuaddau chwaraeon, wal ddringo, cyrtiau sboncen a dôm chwaraeon sy'n gartref i gyrtiau pêl-rwyd a thenis dan do. 

Canolfan Pontio

Mae canolfan Pontio yn ganolbwynt cymdeithasol yn ogystal â chanolfan ddysgu, arloesi a'r celfyddydau.  Yma mae Undeb Myfyrwyr ac mae hefyd yn cynnwys sinema, theatr, darlithfeydd, mannau arddangos, bar a chaffi.

Dau bentref llety - Ffriddoedd a Santes Fair

Mae ein llety wedi'i leoli mewn dau bentref myfyrwyr, Ffriddoedd a'r Santes Fair, sydd o fewn pellter cerdded i brif adeiladau'r Brifysgol, canol y ddinas a'r orsaf dren.

Mae yna hefyd lety i fyfyrwyr Radiograffeg sy'n astudio yn ein campws yn Wrecsam.

O amgylch Bangor

Mae lleoliad Bangor yn wych ar gyfer rhai sy'n hoffi bod allan yn yr awyr agored, ac mae llu o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau antur awyr agored. Ond, mae digon i'w wneud yma hefyd i'r rhai ohonoch sy'n mwynhau cwrdd â ffrindiau, crwydro, mynd am dro ag archwilio'r ardal leol. 

Gallwch ymweld â threfi cyfagos cyfagos fel Biwmares, Caernarfon a Conwy, sydd â chestyll trawiadol, neu mae Betws y Coed a Llanberis yn drefi hynod o ddeiniadol. 

Myfyrwyr yn eistedd ar draeth cyfagos, Llanddwyn

Ynys Môn

Ynys Môn yw un o'r llefydd mwyaf poblogaidd yng Ngogledd Cymru. Pan fydd yr haul yn tywynnu, dewch â'ch ffrindiau ynghyd ac ewch i'r traeth neu i gerdded ar hyd y llwybr arfordirol.

Mae tref Porthaethwy, lle mae ein hysgol Gwyddorau Eigion wedi'i lleoli, tua 20 munud o daith cerdded o Fangor Uchaf. Mae gan Porthaethwy nifer o gaffis, bwyty a bariau ac mae llawer o siopau anibynnol yma. 

Gallwch deithio'n hawdd o borthladd Caergybi'n Ynys Môn drosodd i Ddulun yn Iwerddon ac mae llongau fferi rheolaidd yn rhedeg, gyda'r daith yn cymryd tua dwy awr. Gallwch deithio i Gaergybi ar drên uniongyrchol o Fangor.

Eryri

Mae'r milltiroedd o fynyddoedd, llynnoedd ac afonydd Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig digon o gyfleoedd i chi fwynhau'r awyr agored.

Mae cerdded, dringo, caiacio a chanŵio yn ddim ond rhai o'r chwaraeon y gellir eu mwynhau yn yr ardal, sydd hefyd yn gartref i forlyn syrffio Snowdonia Adventure, gwifrau sip hiraf a chyflymaf Ewrop yn Zip World Velocity a Zip World Titan, a Bounce Below, ogof o drampolinau tanddaearol!

Mae llawer o glybiau chwaraeon y Brifysgol yn trefnu teithiau rheolaidd i Eryri.

Antur Newydd o'ch Blaen

Beth am wnued y mwyaf o'r cyfoeth o gyfleoedd ar garreg eich drws wrth astudio ym Mangor? Mae rhai o'r gweithgareddau yn yr ardal yn cynnwys syrffio, profi'r llinell sip hiraf yn Ewrop yn Zip World a bownsio ar drampolinau tanddaearol anferth yn Bounce Below!

P'un a ydych chi mewn i chwaraeon awyr agored neu yn hoffi bod mewn amgylchedd hardd, mae rhywbeth at ddant pawb.