Fy ngwlad:
Main arts quad

SAFLE UCHEL I YMCHWIL PRIFYSGOL BANGOR YNG NGHYMRU A’R DEYRNAS UNEDIG

Ymchwil Bangor yn y 30 Uchaf trwy’r Deyrnas Unedig am effaith gymdeithasol

Ymchwil Bangor yn y 30 Uchaf trwy’r Deyrnas Unedig am effaith gymdeithasol

Mae ymchwil Prifysgol Bangor wedi ei gosod mewn safle uchel yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf y Llywodraeth (REF2021), gyda 85% gyda’r gorau yn y byd (4*) neu’n rhagorol yn rhyngwladol (3*).

Yn gyffredinol, mae Prifysgol Bangor wedi'i rhestru yn 2il yng Nghymru ac yn y 50 uchaf yn y Deyrnas Unedig yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil sy’n mesur ansawdd ymchwil ar draws holl brifysgolion y Deyrnas Unedig.

Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn darparu buddion cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol, o ddatblygiadau mewn gofal iechyd i brwydro newid ar yr amgylcheddol byd-eang, a dod o hyd i atebion ynni'r dyfodol.

Mae Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor yn cael ei restru ymhlith y 5 Uchaf yn y Deyrnas Unedig. Gyda sgôr rhagorol o ran effaith gymdeithasol yr ymchwil, sydd gyda’r gorau yn y byd a rhagorol yn rhyngwladol, mae ein gwyddonwyr chwaraeon blaenllaw yn gwneud ymchwil i wytnwch meddwl, perfformiad elît, ymddygiad deietegol a metabolaeth, ac ymarfer corff ac iechyd fasgwlar.

Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn newid y byd ym meysydd Systemau Daear a Gwyddorau’r Amgylchedd ac mae wedi ei restru yn 1af yn y Deyrnas Unedig am effaith yr ymchwil. Gydag un o'r grwpiau mwyaf o wyddonwyr amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig, mae ein hymchwil wedi'i restru yn chweched yn y Deyrnas Unedig ac yn 1af yng Nghymru am bŵer ymchwil.

Mae ein gwyddonwyr yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn rhoi sylw i rai o faterion amgylcheddol pennaf y blaned, ar y tir ac ar y môr, megis gorddefnyddio plastigion untro, a diogelu amrywiaeth rhywogaethau ac ecosystemau trwy ymchwil i gadwraeth bioamrywiaeth.

Mae ein hymchwil sy’n ymwneud â’r Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth yn y 15ed safle yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r gwaith yma'n cefnogi cynlluniau blaenllaw'r brifysgol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ar gyfer sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor o 2024 a fydd yn adeiladu ar ein cryfderau ymchwil yn y Gwyddorau Dynol ac yn helpu i ddatblygu iechyd a gofal cymdeithasol i’r dyfodol a fydd yn gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn atgyfnerthu twf y sector gwyddorau bywyd y rhanbarth.

Cafodd mwy na 150 o brifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill yn y Deyrnas Unedig eu hasesu fel rhan o’r ymarfer.

 Mae’r canlyniadau hyn yn rhoi Prifysgol Bangor ar flaen y gad o ran datblygu ymatebion arwyddocaol i heriau’r byd yr ydym yn byw ynddo, sef cynaliadwyedd, carbon isel, iechyd ataliol, hybu technoleg ac arloesedd, a diwylliant a’r celfyddydau.  Ar gyrion disgyblaethau y mae ymchwilwyr yn arloesi go iawn ac mae ymchwil rhyngddisgyblaethol Bangor o bwys byd-eang yn dangos effaith yn y byd go iawn.  Mae ein safle yn ail yn gyffredinol yng Nghymru yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi ymchwil, arbenigedd diwydiant ac ymgysylltu dinesig er budd yr economi a chymdeithas yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.

 

Yr Athro Edmund Burke,  Is-ganghellor Prifysgol Bangor

Canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 - Prifysgol Bangor

Percentage of the submission meeting the standard for:
Main panel Unit of assessment number Unit of assessment name Quality Profile FTE of submitted staff % of eligible staff submitted 4* 3* 2* 1* Unclassified
A 3 Allied Health Professions, Dentistry, Nursing and Pharmacy Overall 22.16 100 48 47 2 3 0
Outputs     44 47 4 6  
Impact     33 67      
Environment     88 13      
A 4 Psychology, Psychiatry and Neuroscience Overall 28.76 100 34 52 12 1 1
Outputs     22 57 18 1 1
Impact     67 33      
Environment     25 63 13    
B 7 Earth Systems and Environmental Sciences Overall 75.30 100 58 38 4 0 0
Outputs     43 52 6    
Impact     92 8      
Environment     63 38      
B 12 Engineering Overall 25.55 100 27 53 15 5 0
Outputs     20 67 11 2  
Impact     50 17 17 17  
Environment     13 63 25    
C 17 Business and Management Studies Overall 21.70 100 17 61 20 1 1
Outputs     22 57 17 2 2
Impact     17 67 17    
Environment       63 38    
C 21 Sociology Overall 28.70 100 23 41 31 4 1
Outputs     18 43 31 7 1
Impact     50 50      
Environment       13 88    
C 24 Sport and Exercise Sciences, Leisure and Tourism Overall 16.80 100 65 35 0 0 0
Outputs     55 45      
Impact     75 25      
Environment     88 13      
D 26 Modern Languages and Linguistics Overall 32.80 100 29 52 17 2 0
Outputs     23 49 24 4  
Impact     33 67      
Environment     48 40 13    
D 27 English Language and Literature Overall 18.80 100 35 37 28 0 0
Outputs     55 32 13    
Impact       25 75    
Environment     10 78 13    
Stethosgop yn gorwedd ar lyfr sydd wedi ei agor

UoA 3

Allied Health Professions, Dentistry, Nursing and Pharmacy 

Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth

Mae ymchwil integredig sy’n gysylltiedig a meddygaeth ac iechyd yn rhan o’r hyn a wna Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol blaenllaw Prifysgol Bangor. Mae'r sefydliad yn blaenoriaethu ymchwil i wella canlyniadau cleifion. Mae ein portffolio yn cyfrannu at y rhaglen fyd-eang o ymchwil i bandemig COVID-19. Ac mae ein hymchwilwyr yn ymwneud â phartneriaid o’r llywodraeth, o gyrff rheoleiddio, o’r GIG ac o’r trydydd sector i wella ymchwil polisi.

Mae ein hymchwil yn defnyddio pum prif fethodoleg: Ffarmacoeconomeg ac economeg iechyd cyhoeddus; cynllunio treialon clinigol a gwerthuso ymyriadau meddygol cymhleth; ymchwil eilaidd newydd; gwyddor gweithredu gydag ymchwil gyfranogol; a bioleg gellog.

Mae'r rhain i gyd yn galluogi ymchwil cydgysylltiedig i ymdrin ag ymyriadau seicogymdeithasol ar gyfer dementia, iechyd y geg, ymchwil gofal cychwynnol a lliniarol a mecanweithiau cellog canser.

Astudiaethau achos a gyflwynwyd

Mae dementia yn flaenoriaeth fyd-eang o ran iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd does dim iachâd iddo ac mae'r driniaeth feddygol sydd ar gael yn gyfyngedig. Mae Prifysgol Bangor yn arwain ymchwil ryngddisgyblaethol i ofal dementia sy’n canolbwyntio ar ymyriadau celfyddydau gweledol.

Trwy gyfuniad o hyfforddiant proffesiynol, digwyddiadau cyhoeddus a llwyddiant y canllaw ymarferwyr ar-lein a gynhyrchwyd ar y cyd, ‘Dementia & Imagination’, ar gyfer darparu gwasanaethau celfyddydau ac iechyd, mae llawer o bobl â dementia wedi gwella eu llesiant a’u hansawdd bywyd. Dangosodd gweithwyr gofal proffesiynol well sgiliau a hyder.

Arweiniodd hefyd at well darpariaeth gwasanaeth gofal dementia, gwell canfyddiadau cyhoeddus a dylanwad polisi cyhoeddus gan gynnwys newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth dementia cenedlaethol lle sicrhaodd Age Cymru arian ychwanegol i ymestyn ymyriadau celfyddydol mewn gwasanaeth gofal dementia am ddwy flynedd. Cyflwynodd y gwasanaeth 864 o sesiynau celfyddydol ychwanegol ar draws cartrefi gofal yng Nghymru ac mae cyfanswm o 1840 o sesiynau celf wedi’u darparu i 25% o gartrefi gofal ledled Cymru.

An older couple walking in countryside
Professor Gill Windle, School of Medical and Health Sciences

Dangosodd ein hymchwil sut y gwnaeth ymyriadau celfyddydol wella ansawdd bywyd pobl yr effeithir arnynt gan ddementia, gyda £5 o werth cymdeithasol yn cael ei gynhyrchu am bob £1 a fuddsoddwyd. Mae gennym dystiolaeth o welliannau i ofal a darpariaeth gwasanaethau, canfyddiadau’r cyhoedd a dylanwad ar bolisi cyhoeddus. Yn bwysicaf oll, fe wnaeth ein hymchwil alluogi hybu iechyd ac ansawdd bywyd pobl â dementia.

Gill Windle, Athro mewn Ymchwil i Heneiddio a Dementia

 

Ymchwilwyr

Unedau Academaidd Perthnasol

Mae ymchwil a gafodd ei arwain gan Brifysgol Bangor wedi llywio cynllun gwasanaethau deintyddol y GIG yng Ngogledd Iwerddon a Chymru. Roedd hyn yn cynnwys rhaglenni cenedlaethol i ddiwygio contractau a defnyddio cyllid seilwaith i hyrwyddo 'cymysgedd sgiliau' yng Nghymru.

Gyda 50.2% o oedolion Gogledd Iwerddon a 54.8% o oedolion Cymru yn defnyddio gwasanaeth deintyddol y GIG, amcanion polisi’r ddwy wlad yw cynyddu mynediad at wasanaethau, deintyddiaeth ataliol ac ansawdd y gofal a ddarperir. Mae cymysgedd sgiliau hefyd yn faes polisi allweddol yng Nghymru.

Arweiniodd Prifysgol Bangor asesiad o ddylanwad cymhellion ariannol ar ddarpariaeth ddeintyddol y GIG. Llywiodd y canlyniadau’n uniongyrchol benderfyniadau a wnaed yn y ddwy wlad ynghylch diwygio contractau, a’u helpu i lywio pandemig COVID-19 a chanlyniadau dramatig hynny o ran y gostyngiad mewn gweithgarwch clinigol.

Roedd yr ymchwil yn awgrymu fod Therapyddion Deintyddol yn debyg i ymarferwyr deintyddol cyffredinol o ran eu gallu i gynnal archwiliadau mewn cleifion risg isel; cafodd canlyniadau gwerthusiad y broses eu bwydo'n ôl yn gynnar i Lywodraeth Cymru a helpodd hynny i lywio'r gwaith o ddiwygio contractau'r GIG.

O ganlyniad i’r gwaith hwn, cafodd Prifysgol Bangor ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i sefydlu Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol, er mwyn gwella ansawdd yr hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol ledled y wlad.

Mae’r Gyfadran, drwy fanteisio ar ymchwil Prifysgol Bangor, yn datblygu cymwysterau ar gyfer Hylenwyr Deintyddol a Nyrsys Deintyddol ac mae cysylltiadau â’r broses barhaus o ddiwygio contractau'r GIG ledled Cymru. Dechreuwyd y cyfleuster ôl-radd hwn i’r GIG ym mis Ionawr 2020 i “godi gwastad iechyd ataliol a defnyddio sgiliau ataliol y tîm deintyddol cyfan i ddiwallu anghenion cleifion” ledled Cymru. Bellach mae gan y Gyfadran ddau gymhwyster a ddilyswyd gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol a chan Sgiliau Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes yn Llywodraeth Cymru.

Dentist
Paul Brocklehurst, Professor of Health Services Research at Bangor University

Mae ein hymchwil wedi arwain at newidiadau polisi ac at fuddsoddiad strategol yng Nghymru ac wedi llywio polisi diwygio contractau deintyddol yng Ngogledd Iwerddon a Chymru ac wedi helpu i ddarparu newid sylweddol mewn hyfforddiant deintyddol yng Nghymru.”

Yr Athro Paul Brocklehurst

Ymchwilwyr

  • Professor Paul Brocklehurst
  • Dr Lynne Williams
  • Dr Zoe Hoare
 Other Programmes at Bangor University

UoA 4

Psychology, Psychiatry and Neuroscience

Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth

Mae ymchwil yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn adlewyrchu dau ddull gweithredu y mae iddynt hanes hirsefydlog: datblygu a chymhwyso ymyriadau i hybu iechyd a lles o blentyndod cynnar hyd at oedran hŷn; a niwrowyddoniaeth wybyddol, lle mae'r Ysgol wedi buddsoddi mewn arbenigedd ymchwilwyr a chyfleusterau arbenigol.

Mae ymchwil yr Ysgol yn canolbwyntio ar: :

  • Ymyriadau er Llesiant – ymchwilio i lesiant, gwytnwch, iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae ein gwaith yn cynnwys ymyriadau ar gyfer plant, rhieni ac athrawon i wella lles plant.
  • Canfyddiad a Gweithredu - Ymchwil i niwrowyddoniaeth wybyddol yn mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn lle mae meysydd seicoleg, peirianneg, bioleg a meddygaeth yn cwrdd â’i gilydd.
  • Niwrowyddoniaeth Gymdeithasol a Gwybyddiaeth - mae ymchwilwyr yn ymchwilio i ganfyddiad pobl a rhyngweithiadau cymdeithasol gyda'r nod o ddeall y mecanweithiau niwral ac ymddygiadol sy'n sail i swyddogaeth gymdeithasol normal ac anhrefnus.
  • Iaith a Datblygiad - Mae dros hanner poblogaeth Gwynedd ac Ynys Môn yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, y gyfran fwyaf o drigolion dwyieithog yn y Deyrnas Unedig. Mae cyd-destun ieithyddol a diwylliannol Gogledd Cymru felly yn ysgogydd unigryw ar gyfer ein hymchwil.

Astudiaethau achos a gyflwynwyd

Mae cyrhaeddiad llythrennedd isel yn effeithio ar un o bob pump o bobl ifanc 15 oed yn Ewrop, gyda chanlyniadau i ystod o ragolygon tymor hir, ond gellir ei osgoi gyda diagnosis cynnar o risg ac ymyriadau amserol.

Mae grŵp rhyngwladol o ymchwilwyr dan arweiniad Bangor wedi datblygu Cyfres o Asesiadau Amlieithog o Lythrennedd Cynnar (MABEL) - yr adnodd cyntaf i fod ar gael ar y we, sy'n cynnig cyfres o brofion mewn pum iaith i asesu iaith uniaith, dwyieithog ac ail iaith. Mae 750 o ymarferwyr mewn 22 o wledydd a oedd yn flaenorol heb asesiadau gwrthrychol o ansawdd uchel yn seiliedig ar dystiolaeth i ganfod risg cynnar o fethiant llythrennedd plant wedi cael budd o MABEL ers mis Medi 2019. 

Mabel

MABEL yw'r unig gyfres amlieithog i asesu dysgwyr uniaith, dwyieithog ac ail iaith o unrhyw gyfuniad o'r ieithoedd MABEL. Yn ogystal, MABEL yw'r unig gyfres ddiagnostig gyda sgorau sy’n seiliedig ar normau sydd ar gael sy'n canolbwyntio'n benodol ar lythrennedd cynnar a sgiliau cysylltiedig mewn Tsiec, Slofac a Chymraeg ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan amrywiaeth eang o ymarferwyr. 

Ymchwilydd

Grwp Ymchwil Gysylltiedig

Ysgol Academaidd Gysylltiedig

Coleg Cysylltiedig

Mae Prifysgol Bangor yn enwog yn rhyngwladol am ei dylanwad prif ffrwd ar ansawdd cyflwyno rhaglenni sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar ac mae wedi bod ar flaen y gad yn y gwaith o drosi ymchwil i ymarfer. 

Gall rhaglenni sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar gynorthwyo pobl i reoli cyflyrau iechyd meddwl tymor hir fel iselder a phryder. Rebecca Crane o Brifysgol Bangor oedd yn arwain datblygiad yr ymyriadau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar: Meini Prawf Asesu Addysgu (MBI: TAC) - yr unig adnodd sy'n diffinio ac yn asesu elfennau cymhwysedd a chywirdeb addysgu rhaglenni seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar ar sail tystiolaeth - Therapi Gwybyddol Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) a Lleihau Straen yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR).

mindfulness

Gall rhaglenni sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar gynorthwyo pobl i reoli cyflyrau iechyd meddwl tymor hir fel iselder a phryder. Rebecca Crane o Brifysgol Bangor oedd yn arwain datblygiad yr ymyriadau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar: Meini Prawf Asesu Addysgu (MBI: TAC) - yr unig adnodd sy'n diffinio ac yn asesu elfennau cymhwysedd a chywirdeb addysgu rhaglenni seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar ar sail tystiolaeth - Therapi Gwybyddol Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) a Lleihau Straen yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR).

Ymchwilwyr

Grwp Ymchwil Gysylltiedig

Ysgol Academaidd Gysylltiedig

Coleg Cysylltiedig

Mae miliynau o blant mewn gwledydd incwm isel a chanolig yn cael addysg annigonol a chosbau llym gan y rhai sy’n gofalu amdanynt. Mae'r rhain yn ffactorau sy’n risg arwyddocaol o ran datblygiad gwael plant.

Mae lleoliadau gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn hybu buddion tymor hir megis cyflawniad addysgol, iechyd meddwl a chorfforol, a ffyniant economaidd cenedlaethau'r dyfodol mewn gwledydd incwm isel a chanolig.

Mae ymchwil ym Mangor wedi arwain at ddwy raglen ymyrraeth hynod effeithiol i wella datblygiad yn ystod plentyndod cynnar mewn gwledydd incwm isel a chanolig.

Y rhaglen gyntaf yw The Irie Classroom Toolbox, rhaglen atal trais plentyndod cynnar sy'n hyfforddi athrawon. Mae Pecyn Irie wedi bod yn fanteisiol i blant, athrawon ac amgylchedd y dosbarth. Mae hyn yn cynnwys gostyngiadau mawr (>65%) mewn trais yn erbyn plant gan athrawon plentyndod cynnar a gostyngiadau mewn problemau ymddygiad plant, a chynnydd yn ansawdd amgylchedd yr ystafell ddosbarth, llesiant athrawon a sgiliau cymdeithasol plant a rheolaeth ataliol. Mae’r Pecyn Irie ar gyfer yr Ystafell Ddosbarth a ddatblygwyd ym Mangor bellach wedi’i fabwysiadu gan Gomisiwn Plentyndod Cynnar llywodraeth Jamaica fel y rhaglen hyfforddi genedlaethol i hyfforddi holl ymarferwyr plentyndod cynnar. Mae hefyd wedi’i gynnwys fel enghraifft o raglen hyfforddi athrawon effeithiol mewn disgyblaeth gadarnhaol gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae’r ail rhaglen - Grŵp Ymestyn a Dysgu rhaglen magu plant - yn hyrwyddo rhianta ymatebol ac ysgogiad yn y catref. Mae’r rhaglen yma wedi’i haddasu i’w defnyddio mewn saith gwlad ar draws De Asia, y Dwyrain Canol a De America. Er enghraifft mabwysiadwyd y cwricwlwm rhianta grŵp i'w ddefnyddio ym Mangladesh i'w integreiddio i'r rhwydwaith clinigau cymunedol mae o hefyd wedi'i fabwysiadu gan Faer Bogota i'w ddefnyddio gyda theuluoedd bregus gyda phlant o dan ddwy flwydd oed ledled y ddinas. Mae hefyd wedi'i addasu i'w ddefnyddio gyda'r boblogaeth ffoaduriaid yn yr Iorddonen, Libanus a Syria gan y Pwyllgor Achub Rhyngwladol.

Mae ymchwil Bangor i raglenni i ofalwyr plant sy’n seiliedig ar dystiolaeth bellach wedi cyrraedd dros 5,500 o athrawon, dros 7,000 o famau ac wedi bod o fudd i dros 500,000 o blant yn fyd-eang.

A teacher helping two children with building blocks
Professor Helen Baker-Henningham, Professor in Psychology at Bangor University

Mae’r rhaglen waith hon yn ymwneud â datblygu, gweithredu, gwerthuso a chynyddu ymyriadau plentyndod cynnar i hybu datblygiad plant ifanc mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Mae'r gwaith yn rhoi boddhad mawr ac rwy'n teimlo'n freintiedig iawn gweithio mewn partneriaeth â chymaint o gydweithwyr ymroddedig ar draws gwahanol wledydd.

Helen Baker-Henningham, Athro mewn Seicoleg
Parc Cenedlaethol Eryri

UoA 7

Earth Systems and Environmental Sciences

Systemau Daear a Gwyddorau'r Amgylchedd

Mae gan Brifysgol Bangor un o'r grwpiau mwyaf o wyddonwyr amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig.

Caiff yr Ysgol Gwyddorau Eigion, a gydnabyddir yn rhyngwladol, ynghyd â'r Ysgol Gwyddorau Naturiol, eu cefnogi gan ganolfannau rhagoriaeth rhyngddisgyblaethol gan gynnwys y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol, a'r Ganolfan Biogyfansoddion sydd ar flaen y gad o ran ymchwil, datblygu, a chymwysiadau masnachol o ddewisiadau amgen bio-seiliedig yn lle deunyddiau synthetig gan arwain at effaith sylweddol ar y diwydiant gweithgynhyrchu.

Mae ein gwyddonwyr yn elwa ar bartneriaeth gyda Chanolfan yr Amgylchedd Cymru, a ariennir gan NERC (Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol), a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas UnedigMae ein hymchwil yn amrywio o newid amgylcheddol byd-eang i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy.

Mae gan Brifysgol Bangor bortffolio integredig o ymchwil sy'n cysylltu ecoleg sylfaenol systemau naturiol â'u cadwraeth a'r defnydd cynaliadwy a wneir ohonynt, yr holl ffordd trwy'r gadwyn gwerth nes cyrraedd bwyd - o’r môr a’r tir - a chynhyrchion coedwigoedd.

Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar bedair thema:

  • Gwyddor Systemau Daear ac Eigioneg Ffisegol - Dealltwriaeth sylfaenol o'r amgylchedd ffisegol a'i berthynas â phrosesau biolegol sylfaenol. Mae gan grŵp Eigioneg Ffisegol Prifysgol Bangor fwy na phum degawd o brofiad yn gwneud ymchwil o'r radd flaenaf, gan ganolbwyntio'n bennaf ar foroedd ysgafell a phrosesau cymysgu cefnforol.
  • Gwyddor Systemau Daear ac Eigioneg Ffisegol - Dealltwriaeth sylfaenol o'r amgylchedd ffisegol a'i berthynas â phrosesau biolegol sylfaenol. Mae gan grŵp Eigioneg Ffisegol Prifysgol Bangor fwy na phum degawd o brofiad yn gwneud ymchwil o'r radd flaenaf, gan ganolbwyntio'n bennaf ar foroedd ysgafell a phrosesau cymysgu cefnforol.
  • Esblygiad, Ffisioleg ac Ymddygiad - Mae archwilio bioleg organebau yn bwydo i ymchwil helaeth i feysydd rheoli adnoddau, cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy ac i’r modd y mae’r meysydd hynny’n ymwneud â gwyddorau cymdeithas. Rydym yn defnyddio dulliau moleciwlaidd a biowybodeg blaengar ar draws cynefinoedd amrywiol i fynd i’r afael â materion arwyddocaol ac amserol ym meysydd bioleg esblygiadol ac ecoleg foleciwlaidd.
  • Defnydd Cynaliadwy, Cadwraeth ac Ecoleg Adnoddau Naturiol - Mae'r themâu hyn yn mynd i'r afael â chwestiynau sylfaenol a chymhwysol sy'n cael effaith sy’n rhagorol yn ryngwladol, gan ein galluogi i ymateb i anghenion diwydiant, llunwyr polisi a chymdeithas.

Astudiaethau achos a gyflwynwyd

Mae pysgota symudol gwaelod y môr yn darparu 35% o ddalfeydd byd-eang sy'n werth dros £27 biliwn, ond gall achosi difrod ecolegol mawr.

Mae effaith pysgota gwaelod y môr yn aml yn cael ei ystyried yn risg amgylcheddol. Mae ymchwil Bangor wedi darparu offer meintiol ar sail tystiolaeth i asesu effeithiau pysgota gwaelod ar ecosystemau ar lefel ranbarthol a byd-eang.

TMae ymchwil Bangor yn darparu’r offer i amcangyfrif effeithiau pysgota gwaelod ledled y byd, sy’n hanfodol i’r diwydiant pysgota, cyrff cadwraeth, cyrff rheoli a chyrff ardystio i arwain y dewis o fesurau rheoli sydd eu hangen i gyflawni amcanion cynaliadwyedd. Oherwydd yr amcangyfrif hwn o’r gwerthoedd paramedr sy'n berthnasol yn fyd-eang, gellir defnyddio model Bangor ar gyfer pysgodfeydd sy'n brin o ddata, e.e. mwyafrif hemisffer y de.

Mae’r Cyngor Stiwardiaeth Forol yn argymell defnyddio hwn fel y prif ddull o sicrhau gwelyau môr bioamrywiol a gwydn yn eu pysgodfeydd ardystiedig. Mae’r dull wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr i'w ddefnyddio yng Nghyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol yr UE i gyflawni gofynion polisi allweddol, a chafodd ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i danategu ymgynghoriad a phenderfyniad ar dreillio am gregyn bylchog mewn ardal forol warchodedig.

Research being conducted at sea with vessel in the background
Jan Geert Hiddink, Professor at the School of Ocean Sciences

Fe wnaethom goladu’r holl waith ymchwil presennol a astudiodd effaith treillio ar gynefinoedd gwely’r môr, a chyfosod y corff mawr hwn o ymchwil mewn meta-ddadansoddiad i ddarparu’r amcangyfrifon gorau sydd ar gael o ddisbyddu ffawna gwely’r môr gan dreillio ar y gwaelod a’u cyfraddau adfer. Trwy ddefnyddio’r amcangyfrifon hyn mewn model ecolegol, gallwn ddarparu rhagfynegiadau o effaith rhanbarthol gweithgaredd treillio gwaelod y mae rhanddeiliaid fel MSC eu hangen.

Jan Geert Heddink, Athro mewn Bioleg Môr

Gwella rhestr allyriadau nwyon tŷ gwydr amaethyddol y Deyrnas Unedig

Mae ymchwil nwyon tŷ gwydr wedi effeithio ar bolisi a diwydiant trwy gynhyrchu ffactorau allyriadau ocsid nitraidd gwlad-benodol newydd.

Mae amaethyddiaeth yn cyfrannu at gynhyrchu nwyon tŷ gwydr trwy allyriadau ocsid nitraidd yn dilyn mewnbynnau nitrogen i bridd, trwy allyriadau methan o anifeiliad a rheoli eu tail, a thrwy garbon deuocsid yn dilyn newid defnydd tir a defnyddio peiriannau sy'n rhedeg ar danwydd ffosil. Fodd bynnag, mae tir amaethyddol hefyd yn cynnig y cyfle i dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer trwy atafaeliad carbon – yn enwedig mawn a gwlyptiroedd.

Arweiniodd Dave Chadwick brosiect consortiwm a ariannwyd >£6.5M gan Defra a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i wella’r gydran ocsid nitraidd o restr allyriadau nwyon tŷ gwydr amaethyddol y DU. Nod y prosiect oedd cynhyrchu data allyriadau ocsid nitraidd newydd o’r ystod o fewnbynnau nitrogen i’r pridd (gwrtaith, tail a thail ac wrin a ddyddodwyd gan dda byw sy’n pori) i gyfrannu at ddeilliant data ocsid nitraidd sy’n benodol i wlad i’w ddefnyddio yn y DU. rhestr nwyon tŷ gwydr. Cyflawnwyd hyn trwy fesur fflwcsau ocsid nitraidd o 37 o arbrofion ar raddfa lleiniau maes ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fe wnaeth tystiolaeth Bangor ostwng cyfraniadau ocsid nitraidd cyfrifedig yn sylweddol ar restr nwyon tŷ gwydr amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig ac mae wedi cyfrannu at newidiadau i ganllawiau ar lefel ryngwladol. Dangosodd yr ymchwil hefyd bod methan enterig rŵan yn cynrychioli y cyfran fwyaf o gyfanswm rhestr nwyon tŷ gwydr amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig. Mae Bangor hefyd wedi gweithio gyda sectorau cig coch/ a llaeth yng Nghymru i geisio nodi dulliau ymarferol o liniaru allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Cows grazing
Dave Chadwick, Professor of Sustainable Land Use Systems at the School of Natural Sciences

Mae’r rhestr newudd o allyriadau nwyon tŷ gwydr Amaethyddiaeth bellach yn adlewyrchu’n amrywiaeth y DU o reoli hinsoddau, priddoedd a nitrogen, yn ogystal â bridiau anifeiliad y DU a’u diet. Er nad yw’r gostyngiad yng nghyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd wedi deillio o’r dull cyfrifyddu newydd yn cynrychioli lliniaru fel y cyfryw, mae’n golygu bod angen llai o atafaelu carbon i wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr y sector. Mae hyn yn golygu bod mwy o botensial i ddwysáu’n gynaliadwy ar rai tir, gan arbed tir arall sy’n fwy addas ar gyfer darparu gwasanaethau ecosystem eraill, gan gynnwys rheoleiddio hinsawdd drwy atafaelu carbon

Dave Chadwick, Athro Systemau Defnydd Tir Cynaliadwy

Mae ymchwil a ariannwyd gan yr Adran Datblygu Rhyngwladol wedi dangos bod defnyddio strategaeth groesi well, lle mae bridwyr reis yn cymryd mwy o ofal wrth ddewis llinachau cyn eu croesi, yn gwella effeithlonrwydd wrth fridio reis.

Roedd rhaglenni bridio reis yr Adran Datblygu Rhyngwladol yn argymell strategaeth groesi ddwys, yn seiliedig ar y dybiaeth bod gan bob croesiad yr un siawns o lwyddiant, felly mae'r tebygolrwydd o ddod o hyd i groesiad buddiol yn cynyddu gyda phob croesiad.

Gwrthodwyd y dybiaeth hon gan ymchwilwyr Bangor oherwydd ei bod yn seiliedig ar y rhagdybiaeth ryfeddol nad oes gan y bridiwr reis y gallu i ddewis croesiadau sy'n fwy tebygol o lwyddo.

Dangosodd yr ymchwil fod y strategaeth groesi well yn fwy tebygol o lwyddo wrth fridio math amrywogaethol, persawrus ei rawn ac anodd ei fridio, lle na chafwyd rhyw lawer o lwyddiant gyda bridio confensiynol blaenorol yn fyd-eang, a dim llwyddiant o gwbl yn Nepal.

Mae wedi arwain at well math o reis (Sunaulo-Sugandha), sy'n darparu diogelwch bwyd ac incwm i ffermwyr bach Nepal gwerth dros £1 miliwn y flwyddyn. Mae llwyddiant ymchwil Bangor hefyd wedi arwain at newid paradeim yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, a roddodd strategaeth croesi Bangor ar waith yn 2014 mewn project allweddol o’r enw 'Transforming Rice Breeding'.

Mae’r cynnydd yn effeithlonrwydd y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol wedi gwella sefyllfa ffermwyr reis ar draws y byd, gydag amcangyfrif o enillion o £36,770,000 y flwyddyn yn 2020.

Rice Fields Impact Case Study REF 2021
Professor John Witcome, Emeritus Professor at the School of Natural Sciences

Yn fyd-eang, mae'r ymchwil a arweiniwyd gan Fangor wedi cael effaith sylweddol ar weithgarwch rhaglen fridio reis llesiant cyhoeddus y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol. Dangoswyd bod newid i'r strategaeth groesi well o fridio reis yn cynyddu effeithlonrwydd drwy leihau'r adnoddau sylweddol a ddefnyddir ar gyfer croesi, drwy haneru'r tir sydd ei angen ar gyfer tyfu epil croesiadau trwy leihau'r gwastraff a geir o groesiadau aflwyddiannus, a gwella ansawdd y croesiadau.'

Yr Athro John Whitcombe, Athro Emeritws

Mae partneriaeth ymchwil rhwng Prifysgol Bangor a’r World Agroforestry (ICRAF) wedi newid patrwm mewn agronomeg, gan gefnogi trawsnewidiadau amaeth-ecolegol ar dri chyfandir, sydd wedi ei wneud yn fwy brys fyth gan yr argyfwng ym mhrisiau bwyd a gwrtaith o ganlyniad i’r rhyfel yn Wcrain.

Nid oes gan lawer o ffermwyr bach, sydd gyda’i gilydd yn gyfrifol am gyfran fawr o ddiogelwch bwyd y byd, arferion amaethyddol sy’n addas i’w hardal leol ac sy'n adfywio yn hytrach na’n diraddio'r amgylchedd.

Mae defnyddio dull gweithredu Bangor a elwir yn opsiynau yn ôl cyd-destun wedi arwain at newid mawr ym mholisïau ac arferion y sector rhyngwladol, cenedlaethol a phreifat mewn 15 gwlad yn Affrica, Asia ac America Ladin.

Mae OxC yn cefnogi dulliau arloesol lleol gan ffermwyr trwy feithrin y trosglwyddiad i ddulliau ffermio mwy amaeth-ecolegol, gan gynnwys amaeth-goedwigaeth – sef y broses o integreiddio coed mewn caeau a thirluniau ffermio. Mae'r rhain yn gwneud y defnydd gorau o brosesau naturiol, megis sefydlogi nitrogen biolegol, yn hytrach na gorfodi systemau amaethyddol gyda mewnbynnau allanol.

Mae’r opsiynau amaeth-ecolegol amrywiol a chynhwysol ar gyfer cnydau pwysig o ŷd i goffi a coco, sy’n deillio o ganlyniad i’r dull yma eisoes yn diogelu’r cyflenwad bwyd, yn cynyddu incwm ffermydd a gwytnwch amgylcheddol i dros ddwy filiwn o bobl, yn adfer dros 2.5 miliwn ha o dir, trwy fuddsoddiad o dros £101 miliwn mewn projectau sy'n defnyddio’r dull opsiynau yn ôl cyd-destun. 

Rainforest

Bydd angen cyflymu arloesi mewn agronomeg ymhlith nifer fawr o rai sy’n ffermio ar raddfa fach er mwyn cyflawni ymrwymiadau byd-eang i roi terfyn ar newyn yn wyneb newid mawr yn yr hinsawdd a newid byd-eang arall a achosir gan amaethyddiaeth ac sy’n effeithio ar hynny. Mae ymdrechion i roi dulliau opsiynau yn ôl cyd-destun ar waith wedi sefydlu bod newid patrwm mewn arloesi agronomeg wedi hen ddechrau. Bydd p'un a fydd yn cael ei gynnal yn dibynnu i raddau helaeth ar y graddau amlwg y mae'n llwyddo i gyflymu effaith y datblygiad.

Dr Fergus Sinclair, Cyfarwyddwr partneriaeth ymchwil Bangor-ICRAF

Ymchwilwyr

Related Research Group

Unedau academaidd perthnasol

Fel y gwelwyd yn ystod y pandemig SARS-CoV-2, mae firysau pathogenig yn fygythiad mawr byd-eang i iechyd a lles pobl. Dros y degawd diwethaf, mae ymchwil ym Mangor wedi datblygu amrywiaeth o offer, technolegau a modelau dadansoddol i gadw golwg effeithiol ar firysau niweidiol yn yr amgylchedd ehangach, gan arwain at safonau diwydiant sy'n seiliedig ar risg.

Gan gydweithio â llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig, mae ein hoffer monitro dŵr gwastraff wedi cael eu mabwysiadu, eu treialu a'u cyflwyno ar raddfa genedlaethol i fonitro achosion o COVID-19 mewn cymunedau cyfan ac i ddarparu system rhybuddio cynnar i amddiffyn isadeiledd cenedlaethol hollbwysig rhag achosion o SARS-CoV-2. Defnyddir yr offer hefyd i gefnogi penderfyniadau i ddangos pa ddinasoedd y dylid eu targedu ar gyfer profion torfol ac maent yn caniatáu gwerthuso llwyddiant mesurau lliniaru COVID-19.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, bu ein hymchwilwyr yn cadw golwg ar sut mae’r pandemig yn esblygu yng Nghymru, yn cefnogi ac yn llywio penderfyniadau polisi iechyd cyhoeddus, ac yn meithrin gallu cenedlaethol i fod yn barod ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol. Sylweddolwyd swyddogaeth bwysig y diwydiant dŵr gwastraff ym maes iechyd cyhoeddus cenedlaethol.

Rhagoriaeth wyddonol: Mae Cymru wedi arloesi yn y defnydd o ddŵr gwastraff ar gyfer gwyliadwriaeth COVID-19 ar lefel genedlaethol. Mabwysiadwyd hyn gan Loegr a'i gyflwyno wedyn gan y Cyd-ganolfan Bioddiogelwch mewn 44 o safleoedd, gan godi i 250 erbyn 2021.

Mynychder afiechyd: Y Brifysgol oedd yn gyfrifol am sefydlu rhaglen monitro dŵr gwastraff cenedlaethol ar gyfer COVID-19 a oedd yn cynnwys 20 o safleoedd allweddol ac yn agos at 70% o boblogaeth Cymru. Mae’r rhaglen bellach yn rhan o ddangosfwrdd Armakuni sy'n adrodd ar amlder yr achosion o glefydau cenedlaethol i helpu asiantaethau iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Yn ogystal, mae'r gwaith wedi cefnogi profion torfol wedi'u targedu yng Nghymru a Lloegr.

Rhagoriaeth ac effaith ymchwil: Mae ymchwil dŵr gwastraff yn faes newydd iawn a chynhyrchwyd wyth papur ar gyfer cyfnodolion y seilir y rhaglen wyddoniaeth genedlaethol arnynt. Mae'r Brifysgol wedi cyfrannu arbenigedd at ymdrechion cydweithredol rhyngwladol i ddatblygu arfer gorau mewn epidemioleg dŵr gwastraff ledled Ewrop a thu hwnt. Mae'r cyllid hefyd wedi rhoi cyfle i adeiladu ar gryfderau ymchwil yng Nghymru mewn gwyddorau amgylcheddol, gwyliadwriaeth afiechyd a genomeg pathogenau.

Prof Davey Jones stands in front of grey background

Rhagoriaeth ac effaith ymchwil: Mae ymchwil dŵr gwastraff yn faes newydd iawn a chynhyrchwyd wyth papur ar gyfer cyfnodolion y seilir y rhaglen wyddoniaeth genedlaethol arnynt. Mae'r Brifysgol wedi cyfrannu arbenigedd at ymdrechion cydweithredol rhyngwladol i ddatblygu arfer gorau mewn epidemioleg dŵr gwastraff ledled Ewrop a thu hwnt. Mae'r cyllid hefyd wedi rhoi cyfle i adeiladu ar gryfderau ymchwil yng Nghymru mewn gwyddorau amgylcheddol, gwyliadwriaeth afiechyd a genomeg pathogenau.

Davey Jones, Athro Gwyddor yr Amgylchedd a Phridd ym Mhrifysgol Bangor

Mae ymchwil dan arweiniad Bangor wedi dangos effeithiau cymdeithasol negyddol cadwraeth ar rai o'r bobl dlotaf yn y byd.

Mae wedi newid yn sylweddol sut mae llywodraethau, diwydiant a chyllidwyr yn rhoi cadwraeth ar waith: mae un o mwyngloddiau nicel mwyaf y byd (Ambatovy, Madagascar) wedi newid sut mae'n ceisio gwrthbwyso bioamrywiaeth, mae llywodraeth Uganda wedi ymgorffori argymhellion yn ei strategaeth wrthbwyso genedlaethol, ac mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi defnyddio canfyddiadau ymchwil mewn penderfyniadau am gyllido pwll glo ym Myanmar. .

Ym Madagascar, mae ymchwil dan arweiniad Bangor wedi dylanwadu ar sut mae'r llywodraeth a chyllidwyr yn gweithredu mesurau diogelwch i leihau effeithiau negyddol ardaloedd gwarchodedig ar y tlawd.

Fel rhan o brosiect Forest4Climate&People, mae ymchwilwyr yn gweithio gyda chydweithwyr Malagasi ym Mhrifysgol Antananarivo, i bontio’r bwlch rhwng llunwyr polisi a chymunedau lleol mewn trafodaethau am gadwraeth ac adfer coedwigoedd. Mae coedwigoedd trofannol, fel y rhai ym Madagascar, yn storio carbon sy'n helpu i sefydlogi'r hinsawdd fyd-eang. Mae yna sylw rhyngwladol enfawr felly i'r coedwigoedd hyn a'r cyfraddau uchel o ddatgoedwigo. Yn anffodus, yn aml nid oes gan bobl leol, y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan bolisïau cadwraeth, lais gwirioneddol yn y trafodaethau hyn. Gwnaeth y tîm ffilm sy'n rhoi llais i gymunedau ar gyrion coedwigoedd a'u pryderon a'u hawgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella ymdrechion cadwraeth coedwigoedd. Dangoswyd rhan o’r ffilm honno (Voices from the Forest) yn COP26 gan weinidog yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy Madagascar.

Mae Gweinyddiaeth yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Madagascar wedi bod yn cynnal diwygiadau mawr i’w pholisïau cadwraeth ac rydym ni, ynghyd â’n partneriaid Malagasy, wedi bod yn cydweithio’n agos iawn gyda nhw, i sicrhau bod ein hymchwil yn llywio eu gwaith llunio polisi mewn modd cyfredol. Dyma’r ffordd orau o sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith gadarnhaol, nid yn unig ar bolisi, ond yn y pen draw ar filoedd o bobl sy’n byw o amgylch ardaloedd gwarchodedig Madagascar.

Dr Neal Hockley, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg a Pholisi, Ysgol Gwyddorau Naturiol
darlithydd peirianneg cyfrifiadureg gyda myfyriwr

UoA 12

Engineering

Peirianneg

Mae ymchwil peirianneg ym Mhrifysgol Bangor yn canolbwyntio ar dair thema sy’n cyd-fynd â sectorau diwydiannol o bwys rhyngwladol:

  • Ffotoneg a Chyfathrebu - Mae gennym hanes o ymchwil sylfaenol mewn ffotoneg ac electromagneteg, yn benodol ffynonellau golau nanoraddfa, ffotoneg integredig, a delweddu cydraniad uwch, yn ogystal ag ymchwil gymhwysol i dechnolegau cyfathrebu optegol a GPS. Mae Canolfan Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor, a gyllidir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn canolbwyntio ar ymchwil arbenigol iawn i systemau cyfathrebu digidol megis rhwydweithiau ac ecosystemau 5G.
  • Ynni, Amgylcheddol a Bio-synhwyro - Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn defnyddio dull 'systemau' cyfannol, gyda ffocws arbennig ar ystod o weithgareddau Ynni Carbon Isel gan gynnwys systemau ynni niwclear a morol a thechnolegau synwyryddion. Mae ein gwaith yn canolbwyntio'n helaeth ar wella parodrwydd technolegau newydd, wedi'u cryfhau trwy bartneriaethau academaidd a diwydiannol arwyddocaol.
    Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys: 
    • Datblygu cyfres o gyfleusterau profi plwm tawdd i gefnogi ymchwil y Labordy Niwclear Cenedlaethol i'w hadweithydd cyflym plwm fel rhan o gystadleuaeth Uwch-Adweithydd Modiwlaidd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Rhaglen Arloesedd Niwclear.
    • Ym maes Gwyddorau Eigion rydym yn monitro ac yn modelu systemau newydd ynni solar ac ynni môr adnewyddadwy a charbon isel i arwain yr arferion gorau wrth fesur potensial cynhyrchu ynni.
    • Mae Sefydliad Dyfodol Niwclear Bangor yn fawr ei fri ac cynnwys cyfleusterau eithriadol a ddefnyddir gan ymchwilwyr a rhanddeiliaid yn y diwydiant i gynorthwyo datblygiad technoleg niwclear.
    • Mae’r Ganolfan Ynni Effeithlon Craff yn gweithio ar draws y sectorau ynni carbon isel i ddatblygu peirianneg, cyfrifiadureg a modelu i gynyddu cynaliadwyedd y cyflenwad a defnydd ynni, tra'n lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol.
  • Delweddu, Modelu Data a Graffeg - Mae ymchwil Prifysgol Bangor wedi adeiladu ar ei chryfderau hirsefydlog mewn dysgu peirianyddol ac adnabod patrymau ac wedi ehangu ei heffaith i feysydd Dadansoddeg a Rhithrealiti.

Astudiaethau achos a gyflwynwyd

Mae datblygiad Prifysgol Bangor o’r cymhwysiad rhithrealiti Ocean Rift, un o'r apiau rhithrealiti cyntaf a mwyaf poblogaidd yn y byd, wedi helpu i arwain y diwydiant rhithrealiti byd-eang sydd bellach yn ffynnu, mewn partneriaeth â Samsung, Facebook a Google.

Llyr ap Cenydd
Llyr ap Cenydd

Profiad Realiti Rhithwir (VR) yw Ocean Rift lle mae'r defnyddiwr yn ei gael ei hun mewn byd tanddwr llachar. Mae'n rhoi'r profiad i'r defnyddiwr o nofio gyda chreaduriaid dyfrol amrywiol gan gynnwys dolffiniaid, crwbanod, nadroedd môr, cathod môr, siarcod, morfilod, a hyd yn oed ymlusgiaid cynhanesyddol diflanedig. Mae'r ap yn galluogi defnyddwyr i ddewis o gyfres o gynefinoedd - gall hyn fod yn greigres gwrel neu'n llongddrylliad, neu'n lagŵn, y cefnfor a hyd yn oed Atlantis. Yna gallant ryngweithio â chreaduriaid sydd wedi eu hanimeiddio gan system deallusrwydd artiffisial flaengar iawn a ddatblygwyd yn unswydd ar gyfer y project, lle mae'r creaduriaid wedi eu hanimeiddio yn ymddwyn mewn ffordd sy'n gwneud i chi gredu eu bod yn greaduriaid go iawn.

Mae Ocean Rift wedi bod yn deitl lansio trwy wahoddiad yn unig ar gyfer mwyafrif y prif glustffonau rhithrealiti rhwng 2014 a 2019, gan gynnwys y Samsung Gear VR, Oculus Rift, HTC Vive, Google Daydream, Xiaomi Mi, Oculus Go ac Oculus Quest. Amcangyfrifir ei fod wedi cael ei lawrlwytho tua 1,800,000 o weithiau ac mae’n destun adolygiadau cadarnhaol cyson gan ddefnyddwyr a datblygwyr. Mae’r ap yn seiliedig ar ymchwil sylfaenol i arferion gorau rhithrealiti ac animeiddio gweithdrefnol, gan gynnwys graffeg gyfrifiadurol newydd a thechnegau deallusrwydd artiffisial i gynhyrchu animeiddiad ac ymddygiad naturiol. Mae’r cyd-destun addysg a gofal iechyd rhyngwladol wedi cael budd o’i ddefnyddio.

Mae rhithrealiti wedi tyfu'n gyflym o fod yn dechnoleg newydd i hobïwyr i fod yn ddiwydiant gwerth miliynau o ddoleri.

Mae’r ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Bangor wedi bod ar flaen y gad yn y broses hon.

Ocean Rift

Dechreuodd Ocean Rift fel arbrawf i weld pa mor bell y gallwn fynd â thechnoleg rhithrealiti newydd i wneud i rywun deimlo fel eu bod o dan y dŵr. Rydych chi'n cael gwir ymdeimlad o faint a mawredd Morfil Glas pan fyddwch chi'n nofio ochr yn ochr ag ef yn Ocean Rift, sy'n rhywbeth na allwch chi ei brofi mewn unrhyw gyfrwng arall. Mae'r nodwedd addysg yn gwella hyn hyd yn oed ymhellach, gan ganiatáu i chi ddysgu am fywyd yng nghefnforoedd y ddaear wrth gael eich trochi ynddynt. Rwyf hefyd yn falch o fod wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu'r naratif yn y Gymraeg, gan alluogi plant ac oedolion Cymraeg eu hiaith i ddysgu am fywyd dyfrol yn y ffordd newydd a chyffrous hon'

Llyr ap Cenydd, Darlithydd Cyfrifiadureg:

Yn ystod 2009-2020, datblygodd Grŵp Ymchwil Ynni Cefnfor Prifysgol Bangor ddealltwriaeth arloesol o'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant ynni llanw rhyngwladol wrth drosi ynni o safleoedd ynni llanw 'ail genhedlaeth' llai egnïol.

Mae ymchwilwyr wedi nodi set unigryw o heriau a chyfleoedd yn ymwneud â safleoedd ynni llanw llai egnïol. Mae'r llwythi ar dyrbinau yn y safleoedd hyn yn caniatáu defnyddio dyfeisiau cost is. Hefyd mae mwy o ofod môr ar gael ar gyfer safleoedd ynni is o gymharu â “chanolfannau” ynni uchel, a mwy o gyfleoedd ar gyfer cysylltedd grid. Ond mae safleoedd llai egnïol yn gyffredinol mewn amgylcheddau dyfnach, mwy agored, ac felly caiff yr adnodd ei ddylanwadu gan brosesau tonnau.

O ganlyniad uniongyrchol i’r ymchwil hwn, mae’r diwydiant ynni llanw wedi esblygu drwy ddatblygu dyfeisiau llanw “ail genhedlaeth” llai (100-200kW) sydd bellach yn gystadleuol yn y Deyrnas Unedig, ac wedi creu llwybr ar gyfer datblygiad rhyngwladol drwy ailasesu adnodd ynni llanw gwledydd a ystyrid cyn hyn islaw’r trothwy hyfywedd ariannol.

Mae ymchwil dan arweiniad Prifysgol Bangor i anghymesuredd llanw a chamaliniad tonnau a llanw (sy’n gwneud yr ynni’n fwy heriol i’w ecsbloetio ac yn rhoi strwythurau tyrbinau llanw dan straen) wedi arwain at ddatblygu modelau peirianneg newydd o ran y rhyngweithio rhwng tonnau a’r llanw ac wedi llywio’r gwaith o ddylunio cyfleusterau labordy o'r radd flaenaf i feintioli/modelu'n uniongyrchol y grymoedd sy'n gweithredu ar fodelau graddfa o strwythurau tyrbinau llanw pan fydd llanw a thonnau heb eu halinio â’i gilydd.

Simon Neill, Athro Eigioneg Ffisegol

Mae'r system leoli fyd-eang (GPS) a systemau llywio â lloeren byd-eang eraill (GNSS) wedi eu hymgorffori yn isadeiledd hollbwysig y byd, yn cynnwys awyrennau, llongau, telathrebu a ffonau clyfar. Er gwaethaf dibyniaeth economaidd, cymdeithasol a llywodraethol ar lywio â lloeren ac amseru manwl gywir, mae GNSS yn agored i fethiant a bygythiadau i ddiogelwch. Mae'r Athro David Last, ac aelodau eraill o Grŵp Llywio Radio Prifysgol Bangor, wedi gweithio gyda llywodraethau'r Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd, y Deyrnas Unedig a De Corea i ddatblygu a gweithredu ‘Enhanced Loran (eLoran)’ i fod wrth gefn pe bai GNSS yn methu.

Mae Last a'i dîm wedi bod yn rhan sylfaenol o ddatblygiad rhyngwladol Enhanced Loran (eLoran), a hwy oedd y cyntaf i weithredu prototeip gweithredol ar raddfa fawr yn y Deyrnas Unedig yn 2015. Mae’r system eLoran yn gwasanaethu uwch lywio morwrol a darparu amseru manwl gywir i ddefnyddwyr telathrebu ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

 

Ship at Sea

Mae llywodraethau'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a De Corea wedi buddsoddi'n uniongyrchol yn natblygiad technoleg a ddatblygwyd ar y cyd gan Fangor, sydd wedi bod yn rhwyd diogelwch economaidd hanfodol i forwyr a defnyddwyr traws-sector mewn perthynas â masnach ac amddiffyn.

Ymchwilwyr

  • Yr Athro David Last
  • Dr Paul Williams

Ymchwil Gysylltiedig 

Ysgol Academaidd Gysylltiedig

Coleg Cysylltiedig

Cadw llygaid ar stociau ar y farchnad stoc

UoA 17

Business and Management Studies

Astudiaethau Busnes a Rheolaeth

Mae Ysgol Busnes Bangor ar flaen y gad o ran ymchwil a hyfforddiant ym meysydd cyfrifeg, bancio a chyllid yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi ei rhestru ymhlith y 50 sefydliad gorau yn y byd am ymchwil Bancio.

Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar dair thema:

  • Cynnydd ac Arloesedd Methodolegol - Trwy ddatblygu offer a datblygu modelau dadansoddol, mae ein datblygiadau’n cael eu hymgorffori mewn diwydiant. Mae ymchwil i ragolygon wedi cael effaith ar brosesau mewn corfforaethau rhyngwladol gan gynnwys Bosch, Siemens ac Amazon.
  • Cyfathrebu - Mae ein hymchwil yn ymgorffori cyfathrebiadau ariannol yn ogystal ag ymatebion defnyddwyr i gyfathrebu ynghylch marchnata a pholisi cyhoeddus.
  • Rheoliadau a Llywodraethu - Mae Prifysgol Bangor yn cefnogi llywodraethau, rheoleiddwyr, llunwyr polisi, a phwyllgorau gwarchod gydag ymchwil sy'n gwerthuso polisïau megis gwerthu am gyfnod byr, cyfreithiau gwarantau, graddio credyd, mecanweithiau dyfynbrisiau, cyfundrefnau targedu chwyddiant, a threthiant. Mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â rheoliadau ariannol, cystadleuaeth a llywodraethu corfforaethol ym maes bancio.

Astudiaethau achos a gyflwynwyd

Summary

Mae marchnadoedd gwasanaethau ariannol manwerthu wedi bod yn ganolbwynt cryn sylw rheoleiddio ers amser maith.  Wrth i'r gwasanaethau hyn ddod yn hollbresennol, mae goblygiadau cymdeithasol sylweddol i'r ffordd y mae'r cynhyrchion hyn yn cael eu prisio a'u defnyddio.  /p>

Darparodd yr Athro Ashton yr asesiad cyntaf o'r gosb am deyrngarwch, sef sut mae cwsmeriaid ffyddlon yn talu mwy na chwsmeriaid newydd; a chostau cymhlethdod, sef sut mae darparwyr yn codi prisiau cynhyrchion cymhleth, ym marchnadoedd gwasanaethau ariannol manwerthu'r Deyrnas Unedig. Mae'r canfyddiadau hyn wedi dylanwadu ar reoliadau'r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Rhoddodd Ashton gyngor ar waith yn ymwneud â chymhlethdod i Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Iechyd a Diogelu Defnyddwyr y Comisiwn Ewropeaidd.

Darparodd yr Athro Ashton yr asesiad cyntaf o'r gosb am deyrngarwch, sef sut mae cwsmeriaid ffyddlon yn talu mwy na chwsmeriaid newydd; a chostau cymhlethdod, sef sut mae darparwyr yn codi prisiau cynhyrchion cymhleth, ym marchnadoedd gwasanaethau ariannol manwerthu'r Deyrnas Unedig. Mae'r canfyddiadau hyn wedi dylanwadu ar reoliadau'r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Rhoddodd Ashton gyngor ar waith yn ymwneud â chymhlethdod i Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Iechyd a Diogelu Defnyddwyr y Comisiwn Ewropeaidd. .

REF 2021 Case Study - Constraining the loyalty penalty and complexity costs in retail financial service markets

Ymchwilwyr

Ymchwil Gysylltiedig

Ysgol Academaidd Gysylltiedig

Coleg Academaidd Cysylltiedig

 

  •  

 

Mae ymchwil Nikolopoulos yn canolbwyntio ar ddadansoddi rhagfynegol gan ddefnyddio'r dull rhagfynegi Theta a ddatblygwyd ganddo. Mae ei ymchwil empirig ym Mhrifysgol Bangor wedi arwain at arbedion effeithlonrwydd sylweddol a gwell penderfyniadau i gwmnïau rhyngwladol trwy wella rhagolygon. Mae modelau rhagfynegi Nikolopoulos wedi cael eu dangos i fod yn gywir ac maent yn cynyddu cyflymder cyfrifiadurol mewn cystadlaethau rhyngwladol. Mae Uber wedi defnyddio modelau Theta Nikolopoulos ledled y byd ers 2017 ar gyfer eu rhagolygon ariannol gydag arbediad effeithlonrwydd o oddeutu USD750,000,000 (04-2020) y flwyddyn. Mae BOSCH ac Amazon Web Services yn defnyddio Theta i ragfynegi gofynion a gwerthiannau cynnyrch. Mae dull Theta Nikolopoulos yn y pecyn rhadwedd R wedi cael ei lawrlwytho dros 6,500,000 o weithiau, sy’n dangos yn amlwg y defnydd ehangach y gwneir ohono. /p>

REF 2021 Case Study - Enabling effective and fast decision-making in organisations: forecasting with the Theta Method

Ymchwilwyr

  • Yr Athro Konstantinos Nikolopoulos

Ysgol Academaidd Cysylltiedig

Coleg Cysylltiedig

Ymchwil Cysylltiedig

 

 

Bu i ymchwil ym Mhrifysgol Bangor gefnogi newid rheoliadol sylweddol mewn ffioedd cyfnewid a ffioedd masnachwyr cardiau talu yn yr Undeb Ewropeaidd rhwng 2013 a 2016. Roedd derbyn llwyfannau talu cardiau gan ddeiliaid cardiau a masnachwyr yn hanfodol i gynyddu defnydd o daliadau electronig yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn integreiddio systemau talu ar gyfer gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. Trwy ddangos y byddai gostwng ffioedd cyfnewid a disgownt masnachwyr yn fuddiol i bawb a thrwy ddarparu tystiolaeth sy'n hanfodol i benderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd sy'n ymwneud â newidiadau rheoliadol, arweiniodd ymchwil Carbo-Valverde at ffioedd yn cael eu gostwng o fis Mehefin 2015. Roedd y newidiadau hyn o fudd i'r holl fasnachwyr sy'n defnyddio taliadau electronig, a phob deiliad cerdyn a sefydliad ariannol ledled Ewrop, gydag arbedion blynyddol rhwng 2015 a 2017 o EUR1,200,000,000 (03-2020) i fasnachwyr yn yr Undeb Ewropeaidd ac EUR587,000,000 (03-2020) i ddefnyddwyr yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r canfyddiadau hefyd o fudd uniongyrchol i awdurdodaethau eraill y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

REF 2021 Case Study - Interchange payment card fees and two-sided markets

Ymchwilwyr

  • Santiago Carbo-Valverde

Ysgol Academaidd Gysylltiedig

Coleg Cysylltiedig

Ymchwil Gysylltiedig

 

 

 

LLun o stryd siopa brysur.

UoA 21

Sociology

Cymdeithaseg;

Mae cymdeithasegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn cynhyrchu ymchwil blaenllaw sy'n berthnasol i ddeinameg newydd ein byd cyfnewidiol. Mae ein ffocws ar astudiaethau empirig, beirniadol a damcaniaethol o strwythurau cymdeithasol, pŵer, gwerthoedd ac arferion beunyddiol, gan gynnwys theori gymdeithasol ac astudiaethau hanesyddol a chymharol.

Defnyddir amrywiaeth fawr o ddulliau damcaniaethol ac empirig i archwilio gwahanol gymdeithasau, gydag arbenigedd yng Nghymru a Lloegr, yr Almaen, Gogledd America, Tsieina a Gwlad Groeg.

Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar bum thema:

  • Mudiadau Cymdeithasol, Cymdeithas Sifil a'r Sffêr Gyhoeddus - Rydym yn astudio sut y caiff materion yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol, gwrthdaro, mudiadau gwleidyddol a chymdeithasol, deialog a thrafodaeth gyhoeddus oll eu mynegi.
  • Grym Gwleidyddol, Cyfreithlondeb, a'r Wladwriaeth - Mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â chyrhaeddiad esblygol a'r anghydbwysedd yng ngrym y wladwriaeth.
  • Cenhedloedd, Cymunedau a Diwylliant - Mae ymchwilwyr yn canolbwyntio ar hunaniaeth genedlaethol, cenedlaetholdeb, ethnigrwydd, dosbarth, a gwleidyddiaeth datganoli, cymunedau a chysylltiadau cymdeithasol lleol.
  • Hunaniaeth, yr Hunan a Diwylliant Materol - Mae cymdeithasegwyr yn ymchwilio i sut y caiff hunaniaeth a’r ymdeimlad o berthyn eu ffurfio, gan gynnwys sut mae hynny’n berthnasol i'r dechnoleg, y bensaernïaeth a'r byd naturiol sy'n amgylchynu pobl.
  • Hawliau, Cyfiawnder a Rheoleiddio – Rydym yn archwilio Cymdeithaseg y gyfraith, cwestiynau am hawliau dynol, cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd, gyda phwyslais ar lywodraethu a rheoleiddio.

Mae pedair canolfan ymchwil yn allweddol i’n cydweithrediadau a’r effaith a gawn ar gymdeithas: Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru; Canolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts; y Labordy Deallusrwydd Artiffisial Emosiynol; a'r Rhwydwaith Astudio'r Cyfryngau a Chyfathrebu er Perswâd.

Astudiaethau achos a gyflwynwyd

Mae ymchwil i wyliadwriaeth (‘veillance’ term ysgolheigaidd ar gyfer cydwylio) wedi tynnu sylw at y niwed i ddinasyddion sy'n deillio o broffilio digidol gan gyrff gwladol a masnachol gan gynnwys torri preifatrwydd a chael eu targedu gyda gwybodaeth anwir.

Yn dilyn datgeliadau gan Edward Snowden, chwythwr chwiban Asiantaeth Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, o wyliadwriaeth dorfol arferol o gyfathrebiadau digidol pobl gan asiantaethau cudd-wybodaeth i nodi bygythiadau diogelwch, daeth y mater hwn yn bryder cyhoeddus ehangach.

Mae’r ymchwil hon yn galluogi cymdeithas sifil i ddatblygu gwell dealltwriaeth o sut i wneud cyrff gwladol a masnachol cyfrinachgar yn atebol yn gyhoeddus.

O dan y term ymbarél gwyliadwriaeth (veillance), fe nododd yr ymchwil dair proses glir o gyd wylio, a dealltwriaeth o'i ddynameg grym sy’n cynnwys:

  • gwylio o safleoedd o bŵer (gwyliadwriaeth),
  • gwylio o safleoedd o ddiffyg grym, gan gynnwys cyfoedion yn gwylio’i gilydd a gwylio'r gwylwyr i'w dal yn atebol (iswyliadwriaeth), a
  • rhwystro rhag gwylio (gwrthwyliadwriaeth).

Mae'r ymchwil wedi dylanwadu ar amrywiaeth o randdeiliaid a llunwyr polisi cenedlaethol a rhyngwladol yn uniongyrchol, gan gynnwys senedd y Deyrnas Unedig; yr Undeb Ewropeaidd; Goruchaf Lys India a Goruchaf Lys Jamaica; Uchel Lys De Affrica; arferion newyddiadurwyr proffesiynol o Brydain ac Iwerddon; sefydliadau anllywodraethol; a'r cyhoedd yn ehangach trwy sylw yn y cyfryngau yn fyd-eang.

REF 2021 - ‘Veillance’: Digital Power & Accountability in an Era of Mutual Watching
Vian Bakir, Professor in Journalism at Bangor University

Mae gwyliadwriaeth y wladwriaeth a masnachol o gyfathrebiadau digidol yn gymhleth ac yn haniaethol, nid oedd llunwyr polisïau, llunwyr deddfau, cymdeithas sifil a’r cyhoedd yn ymwybodol o sut mae eu ymddygiad ar-lein yn bwydo’r arferion hyn. Roeddent hefyd yn aneglur sut i wrthsefyll a/neu ddal sefydliadau a oedd yn ymgymryd â gwyliadwriaeth yn atebol yn gyhoeddus. Cafodd ymchwil Prifysgol Bangor effaith ar gyrff cenedlaethol a rhyngwladol drwy dynnu sylw at yr hyn sy'n achosi’r cyfryw ‘wyliadwraeth’, a phroblemau gyda ‘gwyliadwraeth’ o’r fath, gan gynnwys yr anghydbwysedd pŵer a thrwy hynny arwain a galluogi atebion mwy gwybodus

Vian Bakir, Athro mewn Newyddiaduraeth

Mae ymchwil o Brifysgol Bangor ar 'Ddeallusrwydd Artiffisial Emosiynol' (Emosiynol AI) wedi datgelu angen dybryd a byd-eang i ystyried agweddau moesegol datblygiad technolegau sy'n mesur ac yn rhyngweithio â chyflyrau affeithiol ac emosiynol.

Mae'r ymchwil wedi dylanwadu ar lywodraethu, polisïau, modelau busnes ac arteffactau creadigol wrth ddylunio a chymhwyso technolegau newydd byd-eang.

Dyma rai o’r effeithiau: cyd-greu meincnodau moesegol cyntaf y byd ar gyfer deallusrwydd artiffisial emosiynol gyda rhanddeiliaid yn yr Unol Daleithiau; dylanwadu ar safonau a phrotocolau dylunio byd-eang ar gyfer emosiynau a thechnolegau sy'n seiliedig ar effaith; egluro hawliau preifatrwydd digidol i Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol; distyllu safbwyntiau aml-randdeiliad i ddylanwadu ar benderfyniadau am foeseg deallusrwydd artiffisial emosiynol i adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rheoleiddwyr a chwmnïau yn yr Unol Daleithiau/y Deyrnas Unedig; a llunio rhaglen gŵyl ryngwladol, ysbrydoli artistiaid a hysbysu dinasyddion.

REF 2021 Case Study - Emotional Artificial Intelligence
Andrew McStay, Professor in Media at Bangor University

Wrth i ni ddechrau rhyngweithio â thechnolegau trwy gyfrwng y corff a dimensiynau personol bywyd dynol, mae'r ymchwil hwn yn helpu i ddatrys sut y gellir siapio'r technolegau hyn i wasanaethu, gwella a difyrru, yn hytrach na manteisio’.

Dywedodd Andrew McSta
Myfyrwyr yn gweithio mewn labordy Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

UoA 24

Sport and Exercise Sciences, Leisure and Tourism

Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer, Hamdden a Thwristiaeth

Mae Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor yn fawr ei bri ac yn cynnal ymchwil i wytnwch meddwl, perfformiad elît, perfformiad dynol ac iechyd mewn amgylcheddau eithafol, ymddygiad deietegol a metabolaeth, ac ymarfer corff ac iechyd fasgwlar.

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio gyda dau sefydliad:

  • Mae’r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît yn datblygu a chymhwyso egwyddorion seicolegol yng nghyd-destunau galw uchel chwaraeon, y lluoedd arfog a busnes. Ymhlith y cyllidwyr mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn a sefydliadau chwaraeon cenedlaethol megis Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Manchester City FC, a'r Undeb Rygbi. Defnyddiwyd rhaglenni hyfforddi gwytnwch Prifysgol Bangor gan dimau criced Lloegr i baratoi ar gyfer eu hymgyrch fuddugol yng Nghwpan y Byd 2019.
  • Mae’r Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol yn canolbwyntio ar bedair thema ymchwil: Meddygaeth Ataliol ac Adsefydlu; Pobl a’r Amgylchedd; Chwaraeon a Pherfformiad Dynol; a Ffisioleg a Thechnoleg. Rydym yn ymchwilio i’r themâu hyn gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i astudio ymatebion ymddygiadol a newidiadau integreiddiol mewn ffisioleg niwral, endocrinaidd, metabolaidd, arennol, cardiofasgwlaidd a resbiradol i ymarfer corff, afiechyd a'r amgylchedd. Mae ein cyllidwyr yn cynnwys y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal a Chronfa Iach ac Egnïol Llywodraeth Cymru. Mae ein gwaith ar faethiad wedi cael effaith arbennig, yn cael ei ddefnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i wella iechyd a lles personél milwrol.

Astudiaethau achos a gyflwynwyd

Research into the diets of soldiers has demonstrated that illness, injury and underperformance are significantly influenced by deficits in the soldiers’ diet. This has led to a change in Army policy, implementing additional dietary energy and vitamin D intake.

Mae ymchwil i ddiet milwyr wedi dangos bod salwch, anafiadau a thanberfformiad yn cael eu dylanwadu'n sylweddol gan ddiffygion yn neiet milwyr. Mae hyn wedi arwain at newid ym mholisi'r Fyddin, gyda milwyr yn cael egni dietegol a fitamin D ychwanegol. Dangosodd tîm Bangor fod hyfforddiant milwrol caled yn gwanhau'r system imiwnedd ac yn cynyddu achosion o heintiau ymysg recriwtiaid y Fyddin o gymharu â grwpiau rheolydd sy'n cyfateb o ran oedran. Dangoswyd bod 7% o recriwtiaid wedi dioddef o leiaf un haint a gafodd ddiagnosis gan glinigwyr yn ystod hyfforddiant cychwynnol y Fyddin, gyda phob haint yn arwain at golli tri diwrnod o hyfforddiant ar gyfartaledd. Dangosodd hefyd fod gofynion corfforol caled hyfforddiant y Fyddin yn cynyddu'r risg o anaf cyhyrysgerbydol gan arwain at golli rhagor o ddiwrnodau hyfforddi ac athreuliad meddygol, ar gost ariannol sylweddol. Dangosodd astudiaethau labordy a maes dilynol fod maethiad annigonol wedi'i nodi fel cyfrannwr pwysig ac arwyddocaol at gynyddu achosion o heintiau ac anafiadau cyhyrysgerbydol yn ystod hyfforddiant milwrol caled. Canfu ymchwil pellach nad oedd milwyr a oedd yn cael ychwanegion hyfforddi llawn egni bob nos fel 'pedwerydd pryd' yn dioddef effeithiau andwyol hyfforddiant ar gyfansoddiad y corff, perfformiad corfforol, imiwnedd ac iechyd esgyrn fel oedd yn digwydd gyda diffyg egni. Gwelodd ymchwil ar statws haearn a fitamin D recriwtiaid gwrywaidd a benywaidd hefyd fod recriwtiaid â lefelau annigonol o fitamin D yn perfformio’n waeth yn gorfforol, fod ganddynt imiwnedd is a'u bod yn fwy tebygol o ddioddef heintiau resbiradol ac anafiadau na'r rhai oedd â lefelau uchel o fitamin D. O ganlyniad comisiynwyd y tîm i ddatblygu ac ymchwilio i effeithiolrwydd ychwanegu fitamin D yn ystod y gaeaf. Dangosodd yr ymchwil hwn fod ychwanegu fitamin D yn effeithiol o ran lleihau heintiau a thrwy sicrhau lefelau digonol o fitamin D mewn bron pob recriwt [mwy na neu'n hafal i 95%] roedd hyn yn sail wybodaeth i roi’r dosau cywir o ychwanegion i’r Fyddin at y dyfodol.

 

Dr Sam Oliver, Reader in Sport & Exercise Science at Bangor University

Mae gan y Fyddin Brydeinig ddyletswydd gofal tuag at ei holl filwyr, sy'n cynnwys darparu maeth digonol a phriodol. Gwnaeth ein hymchwil ar ran y Fyddin Brydeinig ddangos fod diffygion yn neiet y recriwtiaid yn rhannol gyfrifol am salwch, anafiadau a thanberfformiad yn ystod hyfforddiant milwrol. Nodwedd gyson yn yr holl waith hwn yw bod yr effeithiau buddiol wedi digwydd adeg yr ymchwil, a bod polisi maeth wedi newid er budd y Fyddin a’i phersonél.

Dr Sam Oliver

Mae ymchwil i broffil datblygu athletwyr mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig wedi arwain at newidiadau yn null UK Sport o ymdrin â rhaglenni datblygu talent.

Mae ymchwil i broffil datblygu athletwyr mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig wedi arwain at newidiadau yn null UK Sport o ymdrin â rhaglenni datblygu talent. Cymharodd ymchwil a arweiniwyd gan Fangor fywydau athletwyr uwch elitaidd sy’n ennill medalau’n rheolaidd â bywydau athletwyr cyfatebol, nad ydynt yn ennill medalau. Y cyfranogwyr oedd 32 o gyn-Olympiaid Prydain Fawr. Roedd un ar bymtheg o'r rhain yn athletwyr uwch elitaidd a oedd wedi ennill sawl medal aur mewn mwy nag un bencampwriaeth fawr, megis y Gemau Olympaidd neu Bencampwriaethau'r Byd. Roedd yr un ar bymtheg athletwr elitaidd arall yn athletwyr rhyngwladol a oedd yn cael eu cyllido a oedd wedi ennill medalau pencampwriaeth ond nid mewn pencampwriaethau mawr.

Datgelodd y canlyniadau wahaniaethau pwysig rhwng y ddau grŵp o ran newidynnau demograffig, ymarfer, hyfforddiant a hanes cystadleuaeth, a phrofiadau seicogymdeithasol, datblygiad a phersonoliaeth.

Roedd athletwyr uwch elitaidd yn fwy tebygol nag athletwyr elitaidd o fod wedi dioddef digwyddiad bywyd negyddol sylweddol yn ystod eu datblygiad; o fod yn ddidostur ac yn hunanol, ac yn obsesiynol ac yn berffeithydd, yn canolbwyntio ar feistrolaeth a chanlyniad; yn defnyddio dulliau paratoi llwyr a/neu agwedd wrthffobig er mwyn cynnal lefelau uwch o berfformiad dan bwysau; dod yn ôl o anawsterau perfformiad difrifol fel oedolyn a chael 'trobwyntiau' gyrfa sylweddol a arweiniodd at fwy o benderfyniad i ragori; mwy o arallgyfeirio ynghyd ag ymarfer a chystadlaethau chwaraeon-benodol helaeth yn ystod eu hieuenctid; a gwelliant parhaus mewn perfformiad dros fwy o flynyddoedd fel oedolyn.

A student running
GB Medalist, Professor Tim Woodman from the School of Human and Behavioural Sciences

TDarparodd yr ymchwil hwn feincnod rhyngwladol ar gyfer ymchwil i adnabod talent a datblygu. Mae canfyddiadau Project Enillwyr Medalau Prydain Fawr wedi arwain at fwy o fuddsoddiad mewn gwybodaeth am chwaraeon a chasglu data ynglŷn ag athletwyr elitaidd posib. Mae’r newidiadau hyn wedi cael canlyniadau pellgyrhaeddol o ran gallu cyrff llywodraethu cenedlaethol i archwilio eu data am dalent, cynnal cynadleddau achos am eu hathletwyr elitaidd posib a chynllunio rhaglenni datblygu talent fwy priodol.

Meddai’r Athro Tim Woodman
A keyboard showing different languages

UoA 26

Modern Languages and Linguistics

Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth

Mae ysgolheigion o bob rhan o'r Celfyddydau a'r Dyniaethau yn galluogi portffolio o ymchwil cynaliadwy, sy’n seiliedig ar iaith ac yn ddiwylliannol amrywiol ac sy’n adlewyrchu cryfderau hanesyddol Prifysgol Bangor ac yn cael effaith ar ddiwylliant, cymdeithas a’r celfyddydau.

Caiff hyn ei gyfoethogi trwy gydweithio’n agos â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n chwarae rhan allweddol mewn creu sylfaen ymchwil cyfrwng Cymraeg cynaliadwy ar lefel leol a chenedlaethol.

Mae ein hymchwil yn ategu pedair colofn Gweledigaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd yng Nghymru – sef rhagoriaeth, lle, arloesedd, a chydweithredu.

Gyda ffocws ymchwil ar y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Diwylliannol Rhyngddisgyblaethol, Ysgrifennu Creadigol a Pherfformio, ac Ieithyddiaeth a Chynllunio Ieithyddol rydym yn manteisio ar ddiwylliant Cymreig yr ardal y mae Prifysgol Bangor wedi ei lleoli ac yn gosod hynny mewn cyd-destun rhyngwladol. Mae ein hymchwil arloesol yn mynd i’r afael â phryderon cyfoes ledled y byd gan rychwantu cyfnod amser o’r canol oesoedd hyd heddiw.

Astudiaethau achos a gyflwynwyd

Mae ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor mewn dau broject a ariannwyd gan yr AHRC ar 'Deithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010' yn cynnwys darganfod, astudio a dehongli bron i 500 o hanesion gan deithwyr o bob rhan o Ewrop.

Mae ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor mewn dau broject a ariannwyd gan yr AHRC ar 'Deithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010' yn cynnwys darganfod, astudio a dehongli bron i 500 o hanesion gan deithwyr o bob rhan o Ewrop.

Mae gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus helaeth gan gynnwys arddangosfa deithiol, creu deunyddiau addysgol sydd ar gael am ddim ac amrywiaeth o adnoddau ar-lein wedi helpu pobl i ddeall Cymru yn well. Drwy’r ymchwil darparwyd adnoddau hollol newydd ar gyfer astudio Cymru, gan ehangu ar weithiau teithio i gynnwys mwy na phortreadau Saesneg eu hiaith yn unig o Gymru. Gan weithio gyda phartneriaid treftadaeth ar y wefan ‘Taith i'r Gorffennol', llwyddwyd i greu adnoddau amlgyfrwng sy'n cynnwys llwybrau thematig a phrofiad rhithrealiti o Abaty Tyndyrn. Mae’r adnoddau hyn oll wedi'u defnyddio fel enghreifftiau o arfer da gyda sefydliadau treftadaeth eraill ledled y DU.

Roedd yr ymchwil a ddeilliodd o hyn hefyd yn cynnwys y llyfr cywaith 'Hidden Texts, Hidden Nation', sy'n gwneud cyfraniad gwreiddiol i astudiaethau ysgrifennu teithio, gan roi golwg newydd sbon ar Gymru. Mae creu cronfa ddata o destunau teithio anghofiedig neu anhysbys am Gymru mewn amrywiol ieithoedd Ewropeaidd o fudd i ymchwilwyr a oedd yn paratoi’r cais buddugol i gydnabod Diwydiant Llechi Gogledd Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae Govannon Consultancy, a gydlynodd y cais ynghyd â Chyngor Gwynedd, yn honni bod yr ymchwil hwn wedi cyfoethogi'r cais yn fawr.

Mae’r ymchwil wedi gwella’r ddealltwriaeth o Gymru fel cyrchfan deithio i dwristiaid a’r sector twristiaeth, gan ddarparu deunyddiau hyrwyddo newydd a ddosbarthwyd gan lawer o randdeiliaid gan gynnwys Croeso Cymru.

View over the rooftops of Caernarfon to the mountains

“Daethom o hyd i gyfrifon heb eu hastudio o’r blaen a oedd yn rhoi cipolwg ar sut mae pobl eraill wedi synio am Gymru. Mae peth o'r ysgrifennu mewn dyddiaduron neu lythyrau, ac nid oedd llawer wedi'u bwriadu i'w cyhoeddi. Mae ehangder y pynciau a drafodir yn dangos y diddordeb fu yng Nghymru ers amser maith. Nid oedd yr holl ymwelwyr yn dwristiaid yn yr ystyr fodern - roedd rhai yn ffoaduriaid neu ar deithiau busnes, ond mae pob argraff yn codi cwr y llen ar Gymru drwy lygaid ymwelwyr o genhedloedd eraill Ewrop.

“Mae’r deunydd yn cwmpasu cyfnod o newid mawr yn nhirwedd, diwylliant a threftadaeth Cymru a bydd ymwelwyr modern yn gallu ‘profi’ y newidiadau hynny trwy lygaid y rhai fu’n tramwyo’r wlad o’u blaenau. Rhydd hyn olygfa unigryw o Gymru i genhedlaeth newydd o deithwyr Ewropeaidd, ond gan daflu goleuni newydd hefyd ar sut mae ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig a rhannau eraill o’r byd wedi gweld Cymru ar hyd yr oesoedd

Dywedodd Yr Athro Carol Tully

 

Cynhaliwyd yr ymchwil hwn ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi datblygu’n sylweddol y ddealltwriaeth o’r defnydd a wneir o’r Gymraeg a throsglwyddiad iaith gan gael effaith ar bolisi iaith Llywodraeth Cymru mewn nifer o sectorau.

Fel rhan o ymchwil dan arweiniad Prifysgol Bangor dadansoddwyd y defnydd a wneir o’r Gymraeg mewn cymdeithas gyda phwyslais ar ddeall sut mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg a’r rhwystrau sy’n effeithio ar ddefnydd iaith mewn cymunedau. Mae dealltwriaeth o’r fath yn hanfodol er mwyn gweithredu strategaethau cynllunio ieithyddol effeithiol i greu cymunedau Cymraeg cynaliadwy a gweithredu mewn cymunedau lle mae angen cymryd camau penodol i adfywio’r iaith.

Bu ymchwilwyr hefyd yn edrych ar rôl dwyieithrwydd ac addysg oddi fewn i’r agenda adfywio ieithyddol yng Nghymru. Crëwyd e-adnoddau arloesol i uchafu dilyniant ieithyddol yn y maes addysgol.

Mae’r ymchwil hwn wedi dylanwadu’n sylweddol ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ym maes cynllunio ieithyddol ac wedi cyfrannu at y dystiolaeth sydd ar gael. Yn ogystal, deuir ar ofyn yr ymchwilwyr yn rheolaidd i roi mewnbwn arbenigol i adroddiadau a gwerthusiadau allweddol Llywodraeth Cymru, er enghraifft, Gwerthusiad Proses Cymraeg i Blant: Adroddiad Terfynol.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cyfeirio’n rheolaidd at yr ymchwil hwn i gefnogi penderfyniadau ac i hysbysu cyrff cyhoeddus y mae’n ofynnol yn gyfreithiol iddynt gadw at Safonau’r Gymraeg. Mae’r ymchwil hwn yn sail i adroddiad a luniwyd ar y cyd sy’n asesu’r defnydd o’r Gymraeg yn y sector gwirfoddol yng Nghymru y cyfeirir ato yn sesiynau hyfforddi Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector.

Un o’r datblygiadau allweddol sy’n deillio o’r ymchwil hwn yw pecyn hyfforddi a gynhyrchwyd ar y cyd sy’n cefnogi gwaith y Mentrau Iaith i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned. Mae’r pecyn yn cynnwys enghreifftiau gwerthfawr o raglenni arloesol y gellir eu haddasu i weithio mewn cymunedau amrywiol yng Nghymru.

Nododd yr ymchwil hwn hefyd yr angen am ragor o ddeunyddiau Cymraeg ar gyfer plant yn eu harddegau a phobl ifanc, gan arwain at ddatblygu deunyddiau Cymdeithaseg cyfrwng Cymraeg amlgyfrwng unigryw a therminoleg safonol newydd. Defnyddir y rhain i addysgu Lefel A, Bagloriaeth Cymru, a Chymdeithaseg ar lefel gradd ledled Cymru.

Iaith Gwaith badge
Dr Rhian Hodges, Senior Lecturer in Sociology and Social Policy

Mae ein hymchwil wedi cael effaith ar feysydd polisi iaith allweddol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys y defnydd o’r iaith yn y gymuned a throsglwyddiad iaith rhwng cenedlaethau lle mae canfyddiadau ymchwil wedi dylanwadu ar y modd y mae Llywodraeth Cymru a swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn mynd ati i adfywio'r Gymraeg yn barhaus fel yr amlinellir yn y strategaeth iaith gyfredol, Cymraeg 2050

Dr Rhian Hodges

Mae ymchwil wedi ei gynnal gan Brifysgol Bangor ym maes technoleg iaith ar gyfer y Gymraeg fel iaith lai ei hadnoddau wedi galluogi datblygiad adnoddau ar-lein, wedi trawsnewid y defnydd o’r Gymraeg mewn ystod eang o amgylcheddau digidol, wedi helpu cwmnïau i ddatblygu cynnyrch newydd, ac wedi dylanwadu ar bolisi yng Nghymru ac yn fyd-eang.

Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor oedd yn gyfrifol am ddatblygu Cysgliad – pecyn meddalwedd sy’n cynnwys gwirydd gramadeg a sillafu Cymraeg Cysill yn ogystal â chasgliad Cysgeir o eiriaduron. Soniodd Comisiynydd y Gymraeg fod Cysgliad wedi helpu pobl i fagu hyder wrth ysgrifennu Cymraeg yn ogystal â bod yn gymorth hanfodol ym myd addysg, i gyfieithwyr a gweinyddwyr proffesiynol. Caiff yr offer hyn eu defnyddio bob dydd yng Nghymru ac mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gorchymyn pob awdurdod cyhoeddus i osod Cysgliad ar eu cyfrifiaduron./p>

Yn 2020, noddodd Llywodraeth Cymru drwyddedau Cysgliad am ddim ar gyfer y cyhoedd, ysgolion a busnesau bach a chanolig i helpu yn ystod pandemig COVID-19. Yn ystod chwe mis cyntaf y cynnig, lawrlwythwyd 4,125 o drwyddedau ychwanegol am ddim. Ers mis Awst 2013, mae'r Ap Geiriaduron, gan gynnwys Geiriadur Termau'r Coleg Cymraeg, wedi'i lawrlwytho mwy na 274,260 o weithiau.

Gyda llawer o bobl yng Nghymru yn defnyddio dyfeisiau fel Alexa a Siri yn Saesneg, mae datblygiad y cynorthwyydd llais Macsen wedi creu posibiliadau newydd i ddefnyddio technoleg lleferydd yn y Gymraeg yn yr un modd. Gellir gofyn i Macsen wneud tasgau amrywiol neu ofyn am wybodaeth, er enghraifft, i roi’r golau ymlaen neu i ffwrdd, i gael y newyddion, y tywydd, chwarae cerddoriaeth bandiau Cymraeg, neu gyrchu gwybodaeth o fersiwn Gymraeg Wicipedia.

Mae ymchwil Yr Uned Technolegau Iaith mewn technoleg lleferydd Cymraeg wedi gwella bywydau Cymry Cymraeg sydd ar fin colli eu gallu i siarad o ganlyniad i afiechydon fel clefyd niwronau motor neu ganser y gwddf. Trwy bartneriaeth gyda’r GIG yng Nghymru, creodd yr Uned Technolegau Iaith lwyfan sy’n galluogi cleifion, gyda chymorth therapyddion lleferydd, i greu eu llais synthetig personol eu hunain yn Gymraeg ac yn Saesneg. Roedd y project yn destun rhaglen ddogfen 'Achub Llais John' a dyfarnwyd Gwobr Rhoi Llais iddo yn 2019 gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith.

Mae ymchwil Yr Uned Technolegau Iaith hefyd wedi arwain at weithio gyda chwmnïau lleol i wella cynhyrchion a gwasanaethau presennol a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Er enghraifft, cafodd cwmni cyfieithu yng Nghaernarfon fudd o ymchwil yr Uned Technolegau Iaith i greu eu meddalwedd cyfieithu peirianyddol eu hunain.

Mae ymchwilwyr yr Uned Technolegau Iaith wedi gwasanaethu fel cynghorwyr ar Fwrdd Technoleg Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, gan helpu i lywio’r dull o adfywio iaith drwy dechnolegau iaith. Buont hefyd yn cynghori menter LT4All UNESCO a Phenderfyniad Senedd yr UE ar Gydraddoldeb Iaith yn yr Oes Ddigidol, a basiwyd yn llwyddiannus.

Mae datblygu adnoddau dan arweiniad ymchwil wedi cynorthwyo i hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fodern sy'n edrych i'r dyfodol, ynghyd â gwella ymarfer mewn diwydiant a dylanwadu ar bolisïau'r llywodraeth. Mae'r effaith wedi ymestyn y tu hwnt i Gymru, gan ddylanwadu ar y strategaeth cydraddoldeb ieithoedd digidol yn rhyngwladol a dylanwadu ar ymarfer yn fyd-eang.

Dywedodd Delyth Prys:
Myfyrwyr yn gweithio yn y llyfrgell

UoA 27

English Language and Literature

Iaith a Llenyddiaeth Saesneg

Gan fanteisio ar ddiwylliant Cymreig yr ardal y mae Prifysgol Bangor wedi ei lleoli, mae ymchwilwyr ym meysydd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ffilm, Hanes, a Cherddoriaeth yn ymchwilio i effaith diwylliant, cymdeithas a’r celfyddydau mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar dri maes:

  • Testunau Materol a Diwylliant Materol - dwyn ynghyd arbenigedd mewn testunau a chyd-destunau llenyddol a hanesyddol ar draws y canrifoedd, gan ganolbwyntio ar fateroliaeth, mabwysiadu persbectif hanesyddol, gan gynnwys golygu testunau a cherddoriaeth cynnar.
  • Cysylltiadau Diwylliannol: Cymru, Ewrop a'r Byd - canolbwyntio ar negodi ffiniau diwylliannol, yn llenyddol a diwylliannol, yng Nghymru a thu hwnt.
  • Ysgrifennu Creadigol a Ffilm - cefnogir y meysydd hyn trwy waith ein pum canolfan ymchwil: Canolfan Stephen Colclough ar Hanes y Llyfr, y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd; Canolfan R.S. Thomas; ContemPo – y Ganolfan Barddoniaeth Gyfoes; a'r Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin

Astudiaethau achos a gyflwynwyd

Mae ymchwil arloesol i gyfieithu, ysgrifennu creadigol a beirniadu barddoniaeth Saesneg o Gymru wedi dylanwadu ar ymarfer creadigol ac wedi codi ymwybyddiaeth cynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol o lenyddiaeth ddwyieithog Cymru.

Daw’r cysylltiad rhwng cyfieithu, dealltwriaeth ryngddiwylliannol a chreadigrwydd llenyddol i’r amlwg yn nofelau Alys Conran, ym marddoniaeth Zoë Skoulding a’i hymchwil i gyfieithu barddoniaeth fel ymarfer creadigol, ac ym marddoniaeth a gweithiau beirniadol Carol Rumens.

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi cynyddu ymwybyddiaeth o sut mae cyfieithu, fel pwnc ac ymarfer, yn fodd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'u diwylliant. Mae cyfieithu hefyd yn ffordd o ddatblygu dealltwriaeth newydd o hunaniaeth, iaith a diwylliant deuol, a chyffredin, Cymru. Amlygodd y sylw yn y cyfryngau y ffaith fod cyhoeddi Pigeon, nofel gyntaf Alys Conran, yn ddwyieithog, ynghyd â’r derbyniad a gafodd y nofel, yn meithrin creadigrwydd trawsddiwylliannol, ac mae Llenyddiaeth Cymru bellach yn ei defnyddio fel enghraifft o sut mae gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 'cynyddu gwerth canfyddedig llenyddiaeth o Gymru ymhlith dinasyddion Cymru a gwledydd eraill'.

Mae dylanwadau trawsddiwylliannol a dealltwriaeth ddiwylliannol yn ganolog i gerddi Rumens. Mae casgliad Rumens o gerddi wedi ei gyhoeddi yn UDA ac mae ei blog wythnosol ar gyfer y Guardian Online yn cael dylanwad rhyngwladol. Mae’r blog yn cysylltu â rhwydweithiau barddonol byd-eang, ac yn cyflwyno barddoniaeth o ddiwylliannau eraill yn aml. Caiff ei drafod ar y cyfryngau cymdeithasol gan feirdd a darllenwyr barddoniaeth ar draws y byd Saesneg ei iaith. Mae’r hyn a ddewisa a’i thrafodaeth fanwl o gerddi unigol wedi eu llywio gan ei gwaith proffil uchel fel bardd a chyfieithydd. Mae’n amlygu gallu’r cyfryngau ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol i fynd y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol, gan ysgogi trafodaeth rhwng darllenwyr anacademaidd barddoniaeth a chyfieithiadau barddoniaeth ar sawl cyfandir. Mae hefyd yn archwilio gyda phlant ysgol trwy gyfrwng darlithoedd ac mae wedi'i chynnwys fel rhan o faes llafur TGAU Llenyddiaeth Saesneg yr AQA ers 2017.

Gan weithio yn Saesneg yng nghyd-destun dwyieithog Cymru, mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor wedi ymgysylltu â chynulleidfaoedd ledled y byd trwy lwyfannau o fri lleol, rhyngwladol a rhithiol. Mae eu hymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer yn adlewyrchu ac yn cryfhau cysylltiadau trawsddiwylliannol trwy ysgrifennu creadigol a beirniadaeth.

Roedd project Hidden Rivers Skoulding, a ffurfiai broject Cyfrif Cyflymydd Effaith yr ESRC, yn cynnwys bobl leol yn ail-fapio Bangor trwy gyfrwng teithiau cerdded barddonol ar hyd afon danddaearol Adda. Yn eu plith roedd grwpiau megis Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru a disgyblion Ysgol Glanadda. Cyfrannodd sylwadau gan bobl leol, yn Gymraeg a Saesneg, am eu canfyddiadau newydd at ddilyniant o gerddi cydweithredol yn ei chasgliad Footnotes to Water. Enillodd Wobr Barddoniaeth Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn 2020.Grym y gwaith, fel y nodwyd yn Poetry Wales gan Dai George, yw bod pobl leol, yn ganolog i’r broses greadigol wrth iddynt weld eu dinas o safbwynt newydd. ae'n dangos y newid yn eu hymateb i'r ddinas a daw’r llais hwn o’r testun ei hun, yn enwedig yn 'Walking the Adda: A Collaboration', sef cerdd ryddieithol a luniwyd yn gyfan gwbl o blith sylwadau dinasyddion Bangor Cafodd hyn ei adlewyrchu ymhellach mewn perfformiad cyhoeddus poblogaidd o'r gwaith a ddeilliodd o hynny.

REF 2021 Case Study - Creative Writing, Translation and Cross-Cultural Understanding: Placing Wales in the World. 
Zoë Skoulding - Professor in Poetry and Creative Writing at Bangor University

Roedd project Hidden Rivers Skoulding, a ffurfiai broject Cyfrif Cyflymydd Effaith yr ESRC, yn cynnwys bobl leol yn ail-fapio Bangor trwy gyfrwng teithiau cerdded barddonol ar hyd afon danddaearol Adda. Yn eu plith roedd grwpiau megis Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru a disgyblion Ysgol Glanadda. Cyfrannodd sylwadau gan bobl leol, yn Gymraeg a Saesneg, am eu canfyddiadau newydd at ddilyniant o gerddi cydweithredol yn ei chasgliad Footnotes to Water. Enillodd Wobr Barddoniaeth Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn 2020.Grym y gwaith, fel y nodwyd yn Poetry Wales gan Dai George, yw bod pobl leol, yn ganolog i’r broses greadigol wrth iddynt weld eu dinas o safbwynt newydd. ae'n dangos y newid yn eu hymateb i'r ddinas a daw’r llais hwn o’r testun ei hun, yn enwedig yn 'Walking the Adda: A Collaboration', sef cerdd ryddieithol a luniwyd yn gyfan gwbl o blith sylwadau dinasyddion Bangor Cafodd hyn ei adlewyrchu ymhellach mewn perfformiad cyhoeddus poblogaidd o'r gwaith a ddeilliodd o hynny.

Yr Athro Zoë Skoulding


Ymchwilwyr

Ysgol Academaidd Gysylltiedig

Ymchwil Gysylltiedig

Coleg Cysylltiedig

Mae ymchwil Prifysgol Bangor i lenyddiaeth diwedd yr oesoedd canol wedi bod yn mynd rhagddi ers ei sefydlu ym 1884

Yn fwy diweddar, mae ymchwil i lenyddiaeth Saesneg ganoloesol wedi dangos ei pherthnasedd yn y byd modern. Mae wedi ehangu mynediad byd-eang i destunau ac archifau canoloesol; mae wedi dylanwadu ar lenyddiaeth Saesneg yng nghwricwla ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru a Lloegr; mae wedi dylanwadu ar ymarfer sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol; ac mae wedi dangos, trwy gyfryngau amrywiol, berthnasedd parhaus rhan hanfodol o dreftadaeth lenyddol i bryderon modern ymhlith cynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae’r clwstwr ymchwil Testunau Materol yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth, sy’n cynnwys Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr, y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (CAS), a’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS), wedi meithrin ystod eang o ymchwil ym maes llenyddiaeth ganoloesol, gan ddatgelu perthnasedd parhaus y testunau hyn i gynulleidfaoedd cyfoes.

Mae ymchwil ym Mangor wedi cael effaith sylweddol a pharhaol ar fynediad byd-eang i'r copi hynaf o Canterbury Tales Chaucer, sy'n rhoi mynediad ar-lein am y tro cyntaf i ysgolheigion a'r cyhoedd (yn fyd-eang) i gopi Hengwrt o'r Canterbury Tales trwy gyfrwng Drych Digidol LlGC ac er 2014 mae wedi cael 23,345 o ymweliadau.

Mae ymchwil i astudiaethau llenyddol canoloesol wedi dylanwadu ar addysg ysgolion cynradd ac uwchradd gan gynnwys dysgu creadigol a llenyddiaeth Saesneg Safon Uwch ac mae ymchwil i astudiaethau Arthuraidd wedi llywio polisi addysgol llywodraeth Cymru wrth iddo gyflwyno rhaglen 'addysg barhaus'.

Raluca Radulescu, Professor of Medieval Literature at Bangor University

Roedd rhamant Arthuraidd a rhamant nad oedd yn Arthuraidd yn cael ei ddilorni gan athrawon ysgol y cyfnod ôl-ganoloesol gan nad oedd yn addas ar gyfer boneddigesau a merched (er enghraifft, ar sail godineb a dynladdiad yn frith yn y rhamant ganoloesol allweddol ‘The Death of Arthur’ gan Thomas Malory). Ac eto mae apêl y chwedlau dros amser, lleoliadau ieithyddol a daearyddol wedi, hyd heddiw, fel bod ailgyflwyno’r maes astudio hynod ddiddorol hwn i’r cwricwlwm yn hynod bwysig. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn ymgysylltiad disgyblion â llythrennedd, ac nid yw diddordeb y cyhoedd yn y chwedlau erioed wedi bod yn gryfach.’

Raluca Radulescu, Athro Llenyddiaeth Ganoloesol

Yr ymchwil diweddaraf