Main Arts open window drone

Clirio 2024

Mae lleoedd ar gael ar gyrsiau drwy Clirio.

Gallwch wneud cais am gwrs trwy UCAS hyd at 18:00, dydd Sul, 30 Mehefin 2024. 

Mynegi diddordeb ymgeisio drwy’r drefn Glirio

Mynegi diddordeb ymgeisio drwy’r drefn Glirio 2024

Pryd mae Clirio? 

Mae Clirio yn cychwyn ar ddydd Mercher, 5 Gorffennaf 2024.

Beth yw Clirio? 

Mae Clirio yn rhoi cyfle i ymgeiswyr sydd heb gael lle mewn prifysgol wneud cais am le ar gwrs sydd heb lenwi. Mae Clirio ar gael i unrhyw un sydd wedi gwneud cais am gwrs israddedig trwy UCAS ond sydd ddim eto yn dal unrhyw gynnig. Mae Clirio hefyd ar gael i’r sawl sydd heb wneud cais o gwbl i brifysgol ar gyfer mis Medi. Pob blwyddyn, mae miloedd o ymgeiswyr yn cael lle ar gwrs prifysgol trwy’r broses Clirio.

Pwy all wneud cais drwy Clirio?

Mae Clirio yn cychwyn ar ddydd Mercher, 5 Gorffennaf 2024 ac yn agored i:

  • rai sydd wedi gwneud cais am gwrs israddedig trwy UCAS sydd ddim yn dal unrhyw gynnig
  • rai sydd heb wneud unrhyw gais i brifysgol ar gyfer mis Medi yma.

Efallai byddwch yn cael eich ystyried fel rhywun sydd yn rhan o’r broses Clirio oherwydd un o’r rhesymau canlynol:

  • ar ddiwrnod canlyniadau Lefel-A, nid ydych wedi cyflawni gofynion mynediad eich prifysgol sy’n ddewis cadarn gennych na’r brifysgol sy’n ddewis wrth gefn.
  • ar ddiwrnod canlyniadau, rydych wedi cyflawni gofynion eich prifysgol sy’n ddewis cadarn gennych neu’r brifysgol sy’n ddewis wrth gefn ond rydych wedi newid eich meddwl ac eisiau mynd i brifysgol arall. Yn yr achos yma, byddwch angen ‘rhyddhau eich hun' fel eich bod yn gallu dod yn rhan o’r broses Clirio.
  • nid ydych wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol ar gyfer mis Medi yma ac rydych yn dymuno gwneud cais trwy Clirio am gwrs sy'n cychwyn yn yr hydref. 
Grŵp o fyfyrwyr yn gweithio mewn labordy

Dod o hyd i'r cwrs i chi drwy Clirio Lleoedd Clirio ar gyfer mis Medi yma

Nid yw'n rhy gynnar i edrych drwy ein cyrsiau israddedig am wybodaeth fanwl ar gyrsiau unigol fel eich bod yn barod os byddwch yn ffeindio eich hun yn y system Glirio ar ddiwrnod canlyniadau. Noder os gwelwch yn dda, bydd y cyrsiau sydd ar gael trwy Clirio wedi cael eu marcio fel cyrsiau Clirio ar ein gwefan o fis Gorffennaf.

Pam dewis Prifysgol Bangor trwy Clirio?

Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Sicrwydd o Lety i Ymgeiswyr Clirio

Os ydych ym ymgeisio drwy Clirio am gwrs sydd wedi ei lleoli ar ein campws ym Mangor, rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled a'ch bod chi'n dewis Prifysgol Bangor ar UCAS erbyn Dydd Iau, 29 Awst ac yn archebu eich ystafell erbyn Dydd Llun, 2 Medi 2024.

Myfyriwr ar Fwrdd Padlo ar Llyn Padarn yn Llanberis

Lleoliad ysbrydoledig i fyw a dysgu

Mae'r Brifysgol yn cynnig amgylchedd hamddenol i fyfyrwyr gymdeithasu, dysgu a gwneud ffrindiau oes. Mae ein lleoliad, y golygfeydd a'r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis dod i Fangor.

 

Myfyrwyr yn eistedd yn y caffi pontio yn yfed coffi ac yn chwerthin gyda'i gilydd

Gofalu a chefnogi ein myfyrwyr

Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi. O'r munud y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag sydd eu hangen arnoch chi.

Student playing basketball

Aelodaeth am ddim o Glybiau a Chymdeithasau

Rydym yn cynnig aelodaeth am ddim i'n myfyrwyr o Glybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr. Felly, p'un a yw'n rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo erioed neu'n chwaraeon neu weithgareddau rydych wedi bod eisiau rhoi cynnig arnynt erioed, mae yna ddigoni'ch cadw chi'n brysur yn eich amser hamdden.

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?