Fy ngwlad:

Clybiau a Chymdeithasau

Cannoedd o gyfleoedd ar gael - cymerwch ran! 

Clybiau Chwaraeon

Pa bynnag chwaraeon rydych yn ei fwynhau, mae clwb ar ei gyfer ym Mangor. O chwaraeon traddodiadol fel rygbi, pêl-rwyd, pêl-droed a thenis i weithgareddau awyr agored fel syrffio, padlfyrddio, canŵio a hwylfyrddio. Gallwch hefyd roi cynnig ar rywbeth gwahanol fel hoci tanddwr(octopush), ffitrwydd polyn a  ffrisbi eithafol.

Mae llawer o'n clybiau chwaraeon yn cystadlu mewn digwyddiadau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), gyda gemau rheolaidd yn erbyn prifysgolion eraill. Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yw Varsity, penwythnos o gystadlu rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth.

Cymdeithasau

Mae cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn dod â phobl o’r un anian ynghyd. Mae yna gymdeithasau sy'n cysylltiedig â chyrsiau, fel Langsoc, Zoosoc a Psych Soc; cymdeithasau sy'n dathlu diwylliannau a chymdeithasau i fyfyrwyr sydd â'r un diddordebau, megis drama, cerddoriaeth, ffilm, ffotograffiaeth.

Mae ein rhestr o gymdeithasau yn hynod o amrywiol, ond gallwch hefyd ddechrau cymdeithas newydd os dymunwch.

Gwirfoddoli

Yn ystod eich amser rhydd, gallwch ymuno â phrosiectau gwirfoddoli dan arweiniad myfyrwyr. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o roi yn ôl i'r gymuned, wrth ennill sgiliau gwerthfawr.