Ar gael i Fyfyrwyr Rhyngwladol? Na
Os ydych yn gweithio ym maes TG, gweithrediadau neu ddadansoddi ac eisiau meithrin sgiliau data arbenigol.
Mae'r cwrs yn cyfuno astudiaeth academaidd gyda chymhwysiad ymarferol, gan gwmpasu ehangder llawn gwyddor data. Byddwch yn datblygu sgiliau rhaglennu a dadansoddi gan ddefnyddio Python a SQL, yn archwilio dylunio cronfeydd data, ac yn cael cipolwg ar sut mae busnesau'n rheoli ac yn dadansoddi data.
Mae pynciau ategol yn cynnwys mathemateg ar gyfer cyfrifiadura, moeseg data, a fframweithiau cyfreithiol ar gyfer casglu data. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn astudio dysgu peirianyddol, delweddu data a rheoli data uwch, ac yn cwblhau project mawr mewn deallusrwydd artiffisial ac un mewn delweddu.
Mae cwblhau'r ddwy flynedd gyntaf yn cynnig cymhwyster ymadael FdSc dewisol, sydd wedi'i achredu o dan y Fframwaith Prentisiaeth Uwch trwy Tech Partnership.
Mae hon yn radd flaengar sydd wedi'i chynllunio i roi mantais gystadleuol i chi a'ch sefydliad mewn byd sy'n cael ei yrru fwyfwy gan ddata.
Opsiynau
- Gwyddor Data Gymhwysol (BSC/ASDSC) - Coleg Cambria
- Gwyddor Data Gymhwysol (BSC/ASDSC) - Grŵp Llandrillo Menai
Pam dewis Prifysgol Bangor?
- Enillwch radd prifysgol wrth barhau i weithio
- Dysgwch gan ddarlithwyr arbenigol a gweithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant
- Dim ffioedd dysgu – wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer dysgwyr cymwys yng Nghymru
- Cymhwyswch wybodaeth a sgiliau newydd yn uniongyrchol i'ch swydd
- Manteisiwch ar gyfleusterau, cefnogaeth ac amgylchedd academaidd prifysgol flaenllaw
Ffeithiau allweddol
- Fel rheol, bydd myfyrwyr yn astudio’n academaidd am un diwrnod ac un noson yr wythnos dros dair blynedd.
- Yn ystod y cyfnod hwn, mae myfyrwyr yn parhau i weithio pedwar diwrnod yr wythnos gyda'u cyflogwr presennol, a chael profiad ymarferol yn y gwaith.
- Byddwch yn astudio am ddiwrnod a noson yr wythnos mewn coleg partner am y ddwy flynedd gyntaf, ac yna ym Mhrifysgol Bangor am y flwyddyn olaf.
- Mae'r ddwy flynedd gyntaf o astudio yn digwydd yn naill ai Grŵp Llandrillo Menai neu Coleg Cambria, yn dibynnu ar eich lleoliad a’ch maes pwnc.
- Yn y flwyddyn olaf, mae pob myfyriwr yn cwblhau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.
- Byddwch yn graddio gyda gradd BSc neu BEng lawn o Brifysgol Bangor.
- Nid yw'r rhaglenni hyn yn agored i fyfyrwyr rhyngwladol; rhaid i ymgeiswyr fod yn byw a gweithio yng Nghymru a chael cefnogaeth eu cyflogwr.