Ydych chi’n awyddus i ennill cymhwyster tra’n cydbwyso gwaith, bywyd teulu neu ymrwymiadau eraill? Mae ein darpariaeth rhan-amser, dysgu cyfunol a dysgu ar-lein yn cynnig yr hyblygrwydd sydd ei angen arnoch chi.
Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn cynnig:
- Cyrsiau israddedig ac ôl-radd rhan-amser – Astudiwch ar eich cyflymder eich hun, gyda’r opsiwn i gwblhau eich gradd dros gyfnod estynedig (hyd at 7 mlynedd).
- Dysgu cyfunol ac ar-lein – Mynediad i addysg o ansawdd uchel o unrhyw le, gyda rhai cyrsiau ar gael yn gyfan gwbl ar-lein neu fel cyfuniad o astudio wyneb yn wyneb ac o bell.
- Cyrsiau byr a hyfforddiant DPP – Rhowch hwb i’ch sgiliau ar gyfer datblygiad proffesiynol neu bersonol.
Pam Dewis Astudio’n Rhan-amser?
- Parhau i Ennill Incwm – Ennill cymwysterau tra’n cadw eich swydd.
- Dysgu Hyblyg – Astudio o amgylch eich ymrwymiadau bywyd.
- Gwella Eich Gyrfa – Datblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder ar gyfer cyfleoedd newydd.
Camau Nesaf
- Angen Cyngor? Mae ein Tîm Derbyniadau yma i’ch helpu. Cysylltwch â ni
- Barod i Wneud Cais? Gwnewch gais i astudio’n rhan-amser trwy ein porth ar-lein (Rhaid gwneud ceisiadau ar gyfer cyrsiau israddedig llawn-amser trwy UCAS)
Darganfod Mwy:
- Cyrsiau Byr a Hyfforddiant DPP
- Cyrsiau sy’n dechrau ym mis Ionawr
- Ehangu Mynediad a Chymorth
- Cefnogaeth i Fusnesau a Chyflogwyr