Fy ngwlad:
Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Y Brifysgol

Wedi’i sefydlu yn 1884, mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o ragoriaeth academaidd ac mae’n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau o ran profiad myfyrwyr.

Ein Cenhadaeth 

Sefydliad cryf, hyderus a gydnabyddir yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ar sail ei bortffolio amrywiol o addysgu ac ymchwil, ac am y profiad unigryw, amlddiwylliannol a chynhwysol y mae’n ei roi i’w staff a’i fyfyrwyr.

Enw da am ragoriaeth

Wedi’i sefydlu yn 1884, mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o ragoriaeth academaidd ac mae’n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau o ran profiad myfyrwyr. Mae tua 10,000 o fyfyrwyr yn astudio yn y Brifysgol, gyda staff dysgu wedi eu lleoli o fewn 14 o ysgolion academaidd.

Mae ymchwil Prifysgol Bangor wedi ei gosod mewn safle uchel yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf y Llywodraeth (REF2021), gyda 85% gyda’r gorau yn y byd (4*) neu’n rhagorol yn rhyngwladol (3*).

Adroddiad Disglair gan yr Asiantaeth Sicrhau AnsawddQAA logo

Mae Adolygiad Sefydliadol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) wedi canmol y ffordd y mae’r Brifysgol yn rheoli ansawdd academaidd.

Cawsom ganmoliaeth arbennig am sawl gweithgaredd, gan gynnwys y ffordd rydym yn defnyddio dull sy’n cael ei yrru gan ddata i hysbysu a gwella profiad y myfyrwyr.

Ymhlith y meysydd eraill a gafodd ganmoliaeth arbennig oedd y bartneriaeth ddofn sydd gan y Brifysgol gyda’i myfyrwyr, a’r ffaith bod dwyieithrwydd wedi’i ymgorffori oddi mewn i brofiad y myfyriwr ac yn effeithio’n gadarnhaol ar bob agwedd ohono.

Rydym wedi ymateb i’r adroddiad QAA gyda’n cynllun gweithredu.

Ystod eang o arbenigedd

O fewn y Brifysgol mae tri Choleg sy’n cynnwys 9 o ysgolion academaidd, ynghyd a dros 50 o ganolfannau ymchwil arbenigol, sy’n galluogi darpariaeth o gyrsiau o fewn y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau.

Amrywiaeth o gyrsiau

Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau. Rydym yn ymfalchïo yn safon ein haddysgu a chafodd ein cyrsiau a’n darlithwyr eu henwi’r ail orau ym Mhrydain yng ngwobrau myfyrwyr WhatUni 2018.

Arwain ar y Gymraeg

Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg ac mae mwy o fyfyrwyr yn dewis astubcuio trwy’r Gymraeg yma nac yn unrhyw brifysgol arall.

Prifysgol wedi ymrwymo i gynaliadwyedd

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang. Ein nod yw hyrwyddo cynaliadwyedd mewn gweithgareddau ymchwil, busnes a menter. Yn wir, mae llawer o’r hyn yr ydym yn ei wneud yn deillio o’n dymuniad i ddod â chynaliadwyedd yn fyw, boed drwy ein haddysgu, ymchwil neu ymgysylltu cyhoeddus. Mae gennym achrediad ISO14001:2015 am reolaeth amgylcheddol, ac ystod o fesurau cynaliadwyedd ar waith, gan gynnwys safleoedd uchel yn nhablau Cynghrair Cynaliadwyedd y byd. Am fwy o wybodaeth ar yr agenda cynaliadwyedd ehangach ym Mhrifysgol Bangor, ewch i dudalennau gwe Cynaliadwyedd.

Lleoliad heb ei ail

Mae lleoliad Bangor – rhwng y mynyddoedd a’r môr – wedi cael ei ddisgrifio fel y lleoliad prifysgol orau ym Mhrydain. Cafodd Gogledd Cymru ei henwi’r 4ydd lle gorau i ymweld ar draws y byd yn ôl y Lonely Planet, yn sgil ei harddwch naturiol a’r cyfleoedd antur newydd sbon sydd ar gael yn yr ardal.

Buddsoddiad mewn adnoddau

Mae datblygiadau newydd y Brifysgol yn cynnwys Pontio, sef canolfan y celfyddydau ac arloesi sy’n gartref i Undeb y Myfyrwyr, adnoddau dysgu, theatr, sinema, bar, caffis a gofod arloesi. Datblygiad diweddar arall yn cynnwys ailddatblygiad cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol yng Nghanolfan Brailsford.

Profiad myfyrwyr Bangor

Mae bywyd ym Mhrifysgol Bangor yn fywiog ac yn amrywiol. Mae gennym dros 150 o glybiau a chymdeithasau’n perthyn i Undeb y Myfyrwyr, sy’n cwmpasu ystod eang o ddiddordebau, gweithgareddau a chwaraeon – sy’n golygu fod yna rhywbeth i bawb. Mae aelodaeth am ddim felly mae cyfle i’n holl fyfyrwyr fanteisio ar y cyfleoedd allgyrsiol sydd ar gael. Enillodd Prifysgol Bangor y wobr am y clybiau a chymdeithasau gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2019.

Caiff myfyrwyr ym Mangor gymorth a chefnogaeth o’r eiliad maent yn cyrraedd. Mae ein canolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig cyngor ac arweiniad ar faterion fel arian a chyllid, anabledd, cwnsela, dyslecsia a chyngor ar rentu tai preifat. Pob blwyddyn mae cannoedd o fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn yn cael eu hyfforddi i weithio fel Arweinwyr Cyfoed sy’n croesawu myfyrwyr newydd i Fangor ac yn cynnig cymorth ymarferol er mwyn helpu iddynt ymgartrefu.

Llety o safon

Cafodd llety Prifysgol Bangor y drydydd wobr yng ngwobrau WhatUni 2019. 

Rydym yn sicrhau ystafell yn ein neuaddau preswyl i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy’n nodi Bangor fel ei Dewis Cadarn ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau.

Cysylltiadau a phartneriaethau

Mae gennym gysylltiadau agos gyda busnes a’r GIG yng Nghymru drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r Brifysgol yn un o’r prif ddarparwyr hyfforddiant ac addysg ar gyfer y GIG ac mae hefyd yn un o’r prif bartneriaid yn Ysgol Glinigol Gogledd Cymru.

*heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion oedd yn cyflwyno mewn un Uned Asesu yn unig