Fy ngwlad:

5 Rheswm Da i Fyw Mewn Neuaddau

Mae ein Llety yn fodern ac yn gyfforddus ac mewn lleoliad cyfleus. Nid yw'n syndod felly ein bod wedi ein gosod yn rheolaidd ymysg y neuaddau prifysgol gorau yn y DU. Mwyaf diweddar, cafodd ein Neuaddau eu gosod yn y 10 uchaf yng Ngwobrau What Uni 2024.  

Mae ein Llety yn cydymffurfio gyda Chod Ymarfer Universities UK er mwyn Rheoli Llety Myfyrwyr. Mae hyn yn amddiffyn eich hawl i lety diogel o ansawdd da, lle bynnag yr ydych yn astudio.

Mae ein dau bentref myfyrwyr o fewn pellter cerdded i brif adeiladau’r Brifysgol, siopau, caffis, canolfannau ffitrwydd, golchfeydd, ac ystafelloedd cyffredin, felly mae popeth byddwch ei angen ar stepen eich drws.

 

Mae’r isod yn gynwysedig yn y gost:

  • Pob bil (dŵr, gwresogi, trydan)
  • Wi-Fi cyflym
  • Atgyweiriadau a chynnal a chadw amserol
  • Yswiriant cynnwys
  • Aelodaeth o'r gampfa
  • Glanhau ardaloedd a rennir yn wythnosol

Os rydych yn byw mewn Neuaddau, cewch aelodaeth awtomatig o’r Gampfa. Golyga hyn y byddwch yn gallu defnyddio’r brif Gampfa yng Nghanolfan Brailsford ym Mhentref Ffriddoedd a’r Ystafell Ffitrwydd ym Mhentref y Santes Fair lle bynnag rydych yn byw. Cewch hefyd cewch aelodaeth awtomatig o Campws Byw lle cewch ddewis bod yn rhan o bob math o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer y gymuned sy’n byw mewn neuaddau.

Logo Gwobrau What Uni 2024
 Logo Côd Ymarfer Llety

Sicrwydd o Lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig llawn-amser newydd. Cymrwch olwch ar y manylion isod.

Rydym yn rhoi sicrwydd o lety i ymgeiswyr israddedig newydd sydd: 

  • yn gwneud cais ar gyfer cwrs llawn-amser sy'n dechrau fis Medi
  • yn gwneud cais ar gyfer cwrs sydd wedi ei leoli yn ein campws ym Mangor
  • yn dewis Bangor fel eu dewis Cadarn
  • yn gwneud cais am le mewn neuadd erbyn 31 Gorffennaf.

Sylwch, mae ein llety i israddedigion yn bennaf yn ystafelloedd i un, yn rhai en-suite a chyda chyfleusterau hunanarlwyo. Os gwnewch gais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau, sef 31 Gorffennaf, byddwch yn gallu dewis pa ystafell fyddai orau gennych, yn amodol ar argaeledd ar adeg archebu.

Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd ein system archebu yn agor ar ddiwedd mis Ionawr, gan roi cyfle i chi ddewis eich ystafell o ddewis trwy ein system archebu ar-lein.

  • Rydym yn rhoi sicrwydd o lety i ymgeiswyr ôl-raddedig sydd:
  • yn gwneud cais ar gyfer cwrs llawn-amser sy'n dechrau fis Medi
  • yn gwneud cais ar gyfer cwrs sydd wedi ei leoli yn ein campws ym Mangor
  • yn llwyddo i ennill statws diamod cyn 7 Awst
  • yn gwneud cais am le mewn neuadd erbyn 7 Awst

Sylwch, mae ein llety i ôl-raddedigion yn bennaf yn ystafelloedd i un, yn rhai en-suite, fflatiau stiwdio a thai tref. Os gwnewch gais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau, sef 7 Awst, byddwch yn gallu dewis pa ystafell fyddai orau gennych, yn amodol ar argaeledd ar adeg archebu.

Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd ein system archebu yn agor ar ddiwedd mis Ionawr, gan roi cyfle i chi ddewis eich ystafell o ddewis trwy ein system archebu ar-lein.

Gwylio - Opsiynau Llety

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Golygfa o'r awyr o Fangor, gyda'r Fenai'n ymestyn yn urddasol yn y cefndir.

[TROSLAIS] Croeso i neuaddau preswyl myfyrwyr Prifysgol Bangor - lle diogel, fforddiadwy ac wedi ei gynllunio i'ch helpu i deimlo'n gyffyrddus o'r diwrnod cyntaf.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn cerdded trwy Bentref Ffriddoedd, wedi'u hamgylchynu gan goed toreithiog a gwyrddni bywiog gyda Bar Uno yn y cefndir. Myfyrwyr yn cerdded tuag at fynedfa fflat fodern, a cheir yn gyrru heibio ar y ffordd gyfagos. Dau fyfyriwr yn eistedd ar wely dwbl clyd ym mhentref y Santes Fair, yn sgwrsio'n gynnes tra bod un yn dal gwerslyfr.

[TROSLAIS] Os ydych chi'n dechrau ar eich taith fel myfyriwr israddedig neu'n fyfyriwr ôl-radd sy'n chwilio am lety, mae gennym ni rywbeth fyddyn addas i chi.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Pâr o fyfyrwyr yn mwynhau sgwrs ar bont fach swynol ym mhentref y Santes Fair. Grŵp o bedwar myfyriwr yn eistedd ar fainc ar deras Prif Adeilad y Celfyddydau, gyda'r camera'n chwyddo i mewn i gipio eu mynegiant bywiog. Ffilm o'r awyr o Bentref Ffriddoedd, yn dechrau ar y cae pob tywydd ac Adeilad Riechel, gan ymledu'n raddol i ddatgelu'r neuaddau newydd slic, Canolfan Brailsford, a'r neuaddau clasurol uwchben.

[TROSLAIS] Mae gan Fangor ychydig dros 2,400 o ystafelloedd, sy'n golygu ein bod yn gallu gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais mewn pryd.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Golygfa o'r awyr o neuaddau'r Santes Fair, wedi'u fframio gan yr archfarchnad a'r stryd fawr gerllaw. Myfyrwyr wedi ymgasglu mewn cegin ym mhentref y Santes Fair: mae dau yn ymlacio ar gadeiriau gwyrdd, tra bod un arall yn eistedd wrth y bwrdd bwyta gyda gliniadur, yn sgwrsio â ffrind oddi ar y sgrin. Llun agos o fyfyriwr yn eistedd wrth fwrdd bwyta, yn gwenu ar sgrin y gliniadur, tra bod eraill yn mwynhau sgyrsiau hamddenol yn y cefndir. Ffilm o'r awyr o Bentref Ffriddoedd o'r Fenai

[TROSLAIS] Mae ein neuaddau wedi eu lleoli ar ddau safle:

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Ffilm o'r awyr o Bentref Ffriddoedd o'r Fenai, ond yn arddangos ongl wahanol o'r gymuned hardd.

[TROSLAIS] Pentref Ffriddoedd a Phentref y Santes Fair

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Ffilm uchel o neuaddau'r Santes Fair, yn amlygu'r cyfuniad o bensaernïaeth draddodiadol a modern.

[TROSLAIS] Ond, pa bentref fydd orau i chi?

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Tri myfyriwr yn cerdded trwy Fangor Uchaf, gan basio bariau bywiog, siopau, a bwytai tecawê.

[TROSLAIS] Mae Ffriddoedd ym Mangor Uchaf, rhan brysur o Fangor sy'n llawn myfyrwyr.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn mwynhau pizza ac yn chwerthin yn Jones' Pizza, sef pizzeria clyd ym Mangor Uchaf, wedi'u gwasgaru ar draws tri bwrdd. Barista yn creu celf latte cywrain yn fedrus.

[TROSLAIS] Dim ond 10 munud o waith cerdded sydd o Bentref Ffriddoedd i Brif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg ac i orsaf drenau Bangor.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn eistedd yng nghaffi Reubens: un yn sipian diod werdd, a'r llall yn yfed latte gyda'i gefn at y camera. Dau fyfyriwr yn cerdded ar hyd Ffordd y Coleg o dan ganopi o goed. Ffilm o'r awyr o Fangor o bentref y Santes Fair, gyda golygfeydd ysgubol o ganol y ddinas, Bae Hirael, a chipolwg ar Ynys Môn.

[TROSLAIS] Mae pentref y Santes Fair yr ochr arall i Fangor, sy'n edrych dros ganol y ddinas,

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn cerdded heibio murlun lliwgar ar y stryd fawr. Ffrindiau'n ymlacio yn nhŷ bwyta Blue Sky: dau yn cofleidio tra bod eraill yn chwerthin yn iach.

[TROSLAIS] Tua 20 munud o waith cerdded o Brif Adeilad y Brifysgol a'r orsaf drenau.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Golygfa banoramig o Gwad Allanol Prif Adeilad y Celfyddydau, gyda llu o fyfyrwyr yn eistedd ar feinciau picnic, a thri myfyriwr y gyfraith yn croesi'r cwad yn eu gwisgoedd. Dau fyfyriwr yn gwisgo siwmperi coch trawiadol yn cerdded ar hyd llwybr ym mhentref Ffriddoedd, wedi'u fframio gan adeiladau cyfoes.

[TROSLAIS] Ffriddoedd yw'r mwyaf a'r prysuraf o'r ddau bentref - mae awyrgylch gwych yma bob amser, a llawer o bethau'n mynd ymlaen.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Tri myfyriwr yn sgwrsio'n fywiog o flaen sied feiciau.

[TROSLAIS] Gall myfyrwyr fynd i Far Uno am bryd o fwyd poeth a diodydd fforddiadwy, neu fynd i un o'r digwyddiadau myfyrwyr niferus a gynhelir yma!

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded heibio Bar Uno, gyda'i arwydd nodedig yn y cefndir. Myfyrwyr yn eistedd ar draws tri bwrdd y tu mewn i Far Uno, rhai'n brysur yn sgwrsio'n braf tra bod eraill yn canolbwyntio ar waith. Grŵp siriol o fyfyrwyr yn sgwrsio y tu allan i Far Uno, gyda'r arwydd eiconig wedi'i arddangos yn amlwg.

[TROSLAIS] Mae Canolfan Brailsford ar y safle hefyd, sef campfa a chanolfan chwaraeon y Brifysgol, ac mae amrywiaeth eang o weithgareddau ffitrwydd ar gael yno.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Person yn rhoi llwch sialc ar ei ddwylo yn yr ystafell ffitrwydd, yn paratoi i godi pwysau. Myfyriwr penderfynol yn codi pwysau ar Platfform 81. Myfyrwyr yn mwynhau gêm bêl-rwyd fywiog yng nghromen chwaraeon Canolfan Brailsford. Chwaraewr tenis yn taro'r bêl yn gryf.

[TROSLAIS] Mae pentref y Santes Fair yn llai na phentref Ffriddoedd, ac mae awyrgylch hamddenol yno.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded trwy bentref y Santes Fair, gyda gwahanol onglau camera'n cyfleu eu taith. Llun agos o arwydd Barlows. Gall myfyrwyr fynd am goffi yng nghaffi Barlows; mwynhau gweithgareddau hwyliog yng ngofod adloniant Acapela, neu bicio i'r ystafell ffitrwydd ar y safle i wneud ymarfer corff. Golygfa glyd yn ystafell gyffredin Barlows: dau fyfyriwr yn sgwrsio ar seddi cyfforddus. Dau aelod o Griw'r Campws yn cael hwyl gyda gêm o denis bwrdd yn Acapela. Athletwr yn codi dymbel. Golygfeydd ysgubol o'r awyr o Bentrefi Ffriddoedd a'r Santes Fair, gan gipio eu cynlluniau unigryw. Rhedwr yn mynd amdani ar felin draed.

[TROSLAIS] Mae gan y ddau bentref bopeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys siop, golchdy, siop goffi, ystafell gyffredin ac ystafell gyfrifiaduron.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Cwsmer yn rhyngweithio ag aelod o staff yn siop Barlows, wrth brynu rhywbeth. Cipolwg trwy ffenestr o fyfyrwyr yn cymdeithasu mewn ystafell gyffredin ym mhentref y Santes Fair. Myfyriwr yn agor peiriant sychu dillad yng ngolchdy Ffriddoedd, yn paratoi i ddadlwytho eu golch. Bysedd yn teipio'n ddiwyd ar fysellfwrdd gliniadur.

[TROSLAIS] Felly, beth am yr ystafelloedd eu hunain?

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn sgwrsio wrth gerdded i lawr coridor mewn fflat ym mhentref y Santes Fair.

[TROSLAIS] Mae ystafell safonol yn Ffriddoedd yn cynnwys ystafell ymolchi breifat, ac mae cegin i hyd at 8 o bobl ei rhannu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn astudio ar ei gwely mewn ystafell safonol Ffriddoedd, wedi ei hamgylchynu gan nodiadau a gwerslyfr. Myfyriwr yn rhoi persawr o flaen drych yn ei en-suite. Pum ffrind wedi ymgasglu o amgylch bwrdd bwyta mewn cegin safonol yn Ffriddoedd, gydag un yn coginio yn y cefndir.

[TROSLAIS] Mae nifer cyfyngedig o ystafelloedd rhatach ar gael ym mhentref Ffriddoedd ac maen nhw ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Ffilm o'r awyr o Bentref Ffriddoedd yn canolbwyntio ar y llety rhad, a rhai mannau parcio.

[TROSLAIS] Mae'r rhain yn ystafelloedd hŷn, ond maen nhw'n dal i gynnwys cyfleusterau en-suite preifat a cheginau sy'n cael eu rhannu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr llawen yn arddangos ystafell rad yn Ffriddoedd, ei breichiau'n ymestyn allan mewn hyfrydwch. Dau fyfyriwr yn cael cyfarfod clyd mewn fflat rhad yn Ffriddoedd, yn rhannu diodydd poeth a sgwrs fywiog.

[TROSLAIS] Mae gan Bentref y Santes Fair amrywiaeth ehangach o ystafelloedd at ddant pawb.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Arwyddion pentref y Santes Fair, wedi'u fframio gan y fflatiau yn y cefndir.

[TROSLAIS] Mae ystafell safonol ym mhentref y Santes Fair yn cynnwys ystafell ymolchi breifat, a chegin mae 5-8 o bobl yn ei rhannu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn eistedd ar wely dwbl clyd ym mhentref y Santes Fair, yn sgwrsio'n gynnes tra bod un yn dal gwerslyfr.  Mae'r un ddau fyfyriwr nawr yn y gegin yn edrych ar ffôn symudol wrth wenu a sgwrsio.

[TROSLAIS] Mae rhai ystafelloedd rhatach ar gael ym mhentref y Santes Fair hefyd, gydag ystafelloedd ymolchi sy'n rhaid eu rhannu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn eistedd ar y gwely mewn ystafell wely ym Mryn Eithin, opsiynau rhad y Santes Fair, wrth edrych a sgrolio ar eu ffôn. Ongl wahanol, yn agosach at y myfyriwr yn sgrolio ar eu ffôn. Myfyrwyr yn eistedd ar soffa mewn fflat stiwdio.

[TROSLAIS] Gall myfyrwyr ddewis cael mwy o breifatrwydd pan fyddent yn dewis un o bedwar math gwahanol o fflatiau stiwdio ym Mhentref y Santes Fair. 

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Stiwdio fflat arferol. Cegin a'i holl offer, soffa gyfforddus, dau fyfyriwr yn eistedd ar y soffa a gwely dwbl bach.

[TROSLAIS] Mae gan y fflatiau stiwdio en-suite a chegin fach breifat. Mae yna hefyd dai tref, sy'n rhoi'r teimlad o fyw mewn tŷ myfyrwyr.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Golwg o'r tu allan i dŷ tref ym mhentref y Santes Fair, gyda'i gynllun modern yn dal sylw. Myfyriwr yn paratoi pryd cyflym mewn cegin tŷ tref ym mhentref y Santes Fair, gan osod rhywbeth yn y microdon.

[TROSLAIS] Caiff ceginau eu rhannu rhwng hyd at 12 o bobl.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Y camera'n chwyddo i mewn i'r microdon.

[TROSLAIS] Gall darpar fyfyrwyr radiograffeg wneud cais i fyw yn Neuadd Snowdon yn Wrecsam.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Y tu allan i Neuadd Snowdon yn Wrecsam.

[TROSLAIS] Mae'r ystafelloedd en-suite wedi'u trefnu mewn fflatiau o 6 ystafell, gyda chegin sy'n cael ei rhannu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr wedi ymgolli mewn sgwrs mewn cegin safonol ym mhentref y Santes Fair.

[TROSLAIS] Felly, pam ddylech ddewis byw mewn neuadd?

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Ystafell safonol daclus yn Neuadd Snowdon, gyda gwely, desg, cadair, a golygfa o'r ffenestr.  Myfyrwyr wedi ymgasglu mewn cegin ym mhentref y Santes Fair: Myfyriwr yn eistedd wrth y bwrdd bwyta gyda gliniadur, yn sgwrsio â ffrind oddi ar y sgrin, tra bod dau arall yn ymlacio ar gadeiriau gwyrdd.

[TROSLAIS] Un o'r prif fanteision yw bod popeth wedi ei gynnwys yn y pris Mae hynny'n cynnwys: Wi-fi cyflym; yr holl filiau fel dŵr, gwres a thrydan,

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Llun agos o fyfyriwr yn eistedd wrth fwrdd bwyta, yn gwenu ar sgrin y gliniadur, tra bod eraill yn mwynhau sgyrsiau hamddenol yn y cefndir. Dŵr yn llifo o dap wrth i ddwylo gael eu golchi'n drylwyr oddi tano.

[TROSLAIS] ynghyd ag aelodaeth am ddim i'r brif ganolfan chwaraeon, Canolfan Brailsford, yn ogystal ag aelodaeth Campws Byw –

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr wedi ymgolli mewn gêm fideo mewn ystafell wely safonol yn Ffriddoedd, yn chwerthin ac yn canolbwyntio. Myfyriwr o'r clwb trampolîn yn neidio'n osgeiddig ar drampolîn yng Nghanolfan Brailsford. Criw'r Campws wedi ymgasglu ym mhentref y Santes Fair, yn gwisgo hwdis oren llachar ac yn bloeddio'n egnïol wrth ddal bagiau o nwyddau rhad ac am ddim. [TROSLAIS]

[TROSLAIS] calendr fawr o ddigwyddiadau cymdeithasol rhad ac am ddim, sy'n dod â myfyrwyr at ei gilydd.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau aelod o Griw’r Campws yn mwynhau gêm ysgafn o denis bwrdd yn Acapela.

[TROSLAIS] Byddwch hefyd yn teimlo'n ddiogel gan fod gan holl neuaddau Bangor swyddogion diogelwch ar gael 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cael sgwrs gyfeillgar ag aelod o'r tîm diogelwch y tu allan i Swyddfa Ddiogelwch Ffriddoedd. Saethiad agos o'r gair 'diogelwch/security' wedi'i frodio ar siaced y staff diogelwch.Ongl arall yn dangos dau fyfyriwr yn sgwrsio ag aelod o'r tîm diogelwch y tu allan i Swyddfa Ddiogelwch Ffriddoedd.

[TROSLAIS] Rydym yn deall bod gan bob myfyriwr anghenion a chyllidebau gwahanol,

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Moment glyd gyda myfyriwr yn sgwrsio ar soffa werdd gyfforddus mewn cegin ym mhentref y Santes Fair. Myfyriwr arall yn eistedd ar yr un soffa, yn mwynhau'r awyrgylch hamddenol.

[TROSLAIS] ac mae gennym ystod o ystafelloedd fforddiadwy sy'n addas i chi. Mae amryw o opsiynau hygyrch ar gael, gyda ystafelloedd, ceginau ystafelloedd ymolchi wedi eu haddasu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL]Dau fyfyriwr yn cael sgwrs fywiog mewn ystafell hygyrch yn Ffriddoedd, wedi'i haddurno â theganau meddal a lluniau personol wedi'u pinio ar yr hysbysfwrdd. Myfyriwr yn troi bwyd mewn padell wrth eistedd mewn cegin wedi'i haddasu. Myfyriwr n canolbwyntio ar ei liniadur, yn teipio ac yn gweithio'n astud.

[TROSLAIS] Mae gennym hefyd neuaddau wedi eu neilltuo’n arbennig i siaradwyr Cymraeg, myfyrwyr gofal iechyd, neuaddau tawel, fflatiau i ferched yn unig, a fflatiau di-alcohol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn mwynhau gêm o bŵl yn ystafell gyffredin JMJ, wedi'u hamgylchynu gan naws hamddenol. Grŵp siriol o fyfyrwyr gofal iechyd yn sefyll gyda'i gilydd yn eu sgrybs, yn chwerthin ac yn rhannu eiliad ysgafn. Dau fyfyriwr mewn ystafell wely safonol ym mhentref y Santes Fair: un yn gorwedd ar y gwely yn chwerthin, a'r llall yn canolbwyntio’n astud ar liniadur. Mae'r olygfa’n cael ei gipio’n glyfar trwy ddrych yr ystafell.

[TROSLAIS] Os cewch unrhyw broblem tra byddwch yn byw yn un o neuaddau’r brifysgol,

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded i mewn i swyddfa'r neuaddau, yn gwenu ac yn sgwrsio wrth ddynesu at y drysau ffrynt.

[TROSLAIS] gall ein staff yn y Swyddfa Neuaddau eich helpu.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Person yn canu'r gloch yn swyddfa'r neuaddau, yn dangos bod angen cymorth arnynt. Myfyriwr yn rhyngweithio'n gynnes ag aelod o staff yn swyddfa'r neuaddau, sydd ag awyrgylch cyfeillgar.

[TROSLAIS] Mae gan bob un o’n lleoliadau preswyl dîm cymorth preswyl sy’n gyfrifol am eich lles, sy’n cynnwys mentoriaid myfyrwyr sy’n byw yn y neuaddau, ynghyd ag uwch wardeniaid.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn ymlacio mewn cegin safonol ym mhentref y Santes Fair, gyda chefndir llachar o waliau gwyn.

[TROSLAIS] Wrth ddewis byw yn un o neuaddau Prifysgol Bangor,

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn eistedd ger y ffens ger cwrt chwaraeon awyr agored pentref y Santes Fair, yn cael sgwrs hamddenol.

[TROSLAIS] gallwch fod yn sicr o lety cyfforddus, fforddiadwy a diogel yng nghanol Bangor, gyda chefnogaeth bob cam o'r ffordd.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Tri myfyriwr mewn caffi bar lleol, yn codi eu diodydd meddal mewn llwncdestun hwyliog. Myfyriwr yn eistedd ar wely mewn cegin safonol ym mhentref y Santes Fair. Mae'r olygfa’n symud i ddatgelu ail berson yn yr ystafell wely, yn gweithio ar liniadur tra bod y llall ar y gwely Dau ffrind yn rhannu cofleidiad, eu hapusrwydd a'u cysylltiad yn amlwg.

[TROSLAIS] Ewch i’n gwefan i gael mwy o wybodaeth.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Chwech o fyfyrwyr yn eistedd ar risiau Pontio, gan wenu'n uniongyrchol ar y camera, sy’n rhoi ymdeimlad o undod a balchder. Logo Prifysgol Bangor

Pedwar myfyriwr mewn cegin a rennir yn neuaddau'r Santes Fair. Mae dwy yn eistedd wrth y bwrdd a dwy yn sgwrsio yn y cefndir.

Opsiynnau Byw Wedi eu Teilwra Mannau Penodedig

Rydym yn deall bod pob myfyriwr yn wahanol ac â gwahanol ddewisiadau o ran eu hamgylchedd byw. Mae gennych y rhyddid i ddewis llety sy'n cyd-fynd â'ch dewisiadau personol ac yn gwneud i chi deimlo'n gyfforddus, beth bynnag sydd yn gwneud i chi deimlo’n fwy cartrefol. Pwyswch y saeth i'r dde am fwy o wybodaeth am ein mannau penodedig: 

  • Neuaddau Tawel
  • Fflatiau Di-alcohol
  • Fflatiau Merched yn Unig 
Myfyrwyr ar liniaduron yn ardal y gegin yn neuaddau preswyl y Santes Fair

Llety Tawel

Byddwn yn hysbysu pob preswylydd yn y neuaddau hyn y disgwylir amgylchedd tawelach. Fodd bynnag, mae'n bwysig deall nad yw unrhyw fath o fyw cymunedol yn gwbl dawel, ac efallai na fydd yn bosibl rheoli sŵn o ardaloedd eraill y neuadd neu y tu allan. Mae nifer cyfynedig o neuaddau tawel ar gael ac ni allwn warantu y byddant ar gael ar adeg eich cais. Mae'r neuaddau hyn wedi'u lleoli yn adeiladau Borth ac Elidir ym Mhentref Ffirddoedd. Er nad oes Neuaddau Tawel Mhentref y Santes Fair, mae'r amgylchedd tawel a'r opsiynau fflat llai yn ei gwneud yn opsiwn delfrydol ar gyfer astudio ac ymlacio.

Grŵp o fyfyrwyr yn sgwrsio

Fflatiau Di-alcohol

Gallwch ddewis fflat di-alcohol pan rydych yn archebu eich ystafell yn y system archebu. Os byddwch yn derbyn eich cynnig o lety di-alcohol, rydych yn cytuno i beidio ag yfed na storio alcohol o fewn y fflat, sy'n cynnwys eich ystafell wely. Ni fyddwch yn cael eich gosod mewn fflat di-alcohol heb hysbysiad ymlaen llaw. Mae cyfyngiad ar argaeledd y fflatiau hyn - ni allwn warantu eu bod ar gael ar adeg eich cais.

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Fflatiau Merched yn Unig

Mewn rhai neuaddau rydym yn cynnig llety ar gyfer merched yn unig. Dylai preswylwyr ddeall eu bod yn cael derbyn ymwelwyr gwrywaidd, er y byddem yn disgwyl eu bod yn rhoi gwybod i weddill y fflat fel mater o gwrteisi os yw ymwelydd gwrywaidd yn aros dros nos. Bydd hefyd ymweliadau i'r fflatiau gan aelodau gwrywaidd o'r Tîm Neuaddau, Tîm Mentoriaid, Tîm Campws Byw, staff Cynnal a Chadw a staff Gwaith Tŷ. Os yw amgylchedd un-rhyw yn arbennig o bwysig i chi am resymau diwylliannol, mae'n annhebygol y gallwn ddarparu hyn mewn amgylchedd Neuaddau.

Pentrefi Llety Myfyrwyr

Mae gennym ddau bentref llety, Ffriddoedd a Santes Fair. Mae'r ddau o fewn pellter cerdded o brif adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas.

Myfyrwyr yn cerdded ger Neuaddau Preswyl Ffriddoedd

Pentref Ffriddoedd

Wedi'i leoli ym Mangor Uchaf, tua 10 munud o gerdded o Brif Adeilad y Brifysgol, mae gan Bentref Ffriddoedd oddeutu 1,960 o ystafelloedd.

Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan ym mhentref y Santes Fair

Pentref Santes Fair

Wedi'i leoli yn agos at ganol y ddinas, mewn safle uchel, mae oddeutu 650 o ystafelloedd ar y safle ac mae yma gymysgedd o fathau o lety.

Grŵp o fyfyrwyr yn cymdeithasu mewn ardal olygfaol

Cefnogaeth o'r eiliad y byddwch yn cyrraedd

  • Cefnogaeth bwrpasol: Bydd ein tîm ar y safle o fentoriaid myfyrwyr ac Uwch Wardeiniaid yn eich helpu i ymgartrefu a delio ag unrhyw heriau.
  • Teimlo'n ddiogel: Er mwyn tawelwch meddwl ychwanegol mae gan ein neuaddau staff diogelwch 24/7.
  • Cymuned fywiog: Mwynhewch ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog wedi'u trefnu gan y tîm Campws Byw, gan greu cyfeillgarwch parhaol o'r diwrnod cyntaf.
     
Woman in Red Sweater Wearing Black Framed Eyeglasses Sitting on Wheelchair
Credit:Marcus Aurelius @ Pexels

Hygyrchedd yn ein Neuaddau

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cyfforddus a chynhwysol ar gyfer pob myfyriwr. Mae ein neuaddau'n cynnig y nodweddion hygyrch hyn:

  • Ystafelloedd llawr gwaelod gyda mynediad heb risiau
  • Ystafelloedd hygyrch i gadeiriau olwyn gyda drysau awtomatig
  • Ystafelloedd gwlyb gyda rheiliau cydio a chadeiriau cawod
  • Rhai ystafelloedd gwlyb wedi'u cyfarparu â thoiledau Closomat
  • Oergelloedd meddyginiaeth ar gael ar gais
  • Cymhorthion clyw: clustogau dirgrynol a larymau fflachiol

Cysylltwch â ni gydag unrhyw ymholiad.

Myfyriwr yn gweithio wrth ddesg mewn ystafell ym mhentref Ffriddoedd

llety Arhosiad Byr

Mae gennym ystafelloedd tymor byr sengl ar gael ym Mhentref Ffriddoedd i fyfyrwyr llawn-amser sydd wedi cofrestru gyda Phrifysgol Bangor.

Ffriddoedd Village

Cysylltu â'r Swyddfa Neuaddau

Oriau agor: Dydd Llun - Dydd Gwener: 09.00 - 17.00 (yn eithrio gŵyl y banc, gwyliau cyhoeddus a Dyddiau Coleg).

Swyddfa Neuaddau, Prifysgol Bangor, Neuadd Idwal, Pentref Ffriddoedd, Bangor, LL57 2GP