Mae bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail ym Mangor, ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) sy’n ganolbwynt i’r rhan helaeth o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau hamdden a chymdeithasol – yn amrywio o nosweithiau cymdeithasol, Eisteddfod a Dawns Ryng-golegol i gemau pêl-droed a rygbi, a theithiau blynyddol i’r Iwerddon neu’r Alban.
Sut beth ydi bywyd ym Mangor? Gadewch inni ddangos i chi!
Beth bynnag ydych chi yn astudio, mae'r amser a'r ymroddiad a ‘da chi’n cael gan eich darlithwyr yn anhygoel - dwi'n teimlo fel enw yn hytrach na rhif!
Mae’r rhan fwyaf o ‘nghwrs i yn cael ei ddysgu trwy ddarlithoedd a seminarau, mewn darlithfeydd modern fel hwn.
Dwi’n treulio lot o amser yn gweithio mewn labordai. Mae’r cyfleusterau’n anhygoel. Mae’n helpu fi i gael profiad ymarferol o bynciau bywyd go-iawn.
Dwi'n gwneud llawer o astudio annibynnol - dyma Shankland, y Llyfrgell Gymraeg, mae’n hyfryd yma.
Dwi wedi dewis i astudio rhan o fy ngradd trwy gyfrwng y Gymraeg, a fydd yn wych i ragolygon fy ngyrfa os byddaf yn dewis i aros yng Nghymru.
Mae digon o amser hefyd i fwynhau hefyd. Mae UMCB yn rhan o Undeb y Myfyrwyr sy'n cynrychioli myfyrwyr Cymraeg a dysgwyr.
Boed hynny’n chwaraeon - dwi'n chwarae pêl droed fel rhan o Chwaraeon y Cymric!
Ymuno ag un o’r cymdeithasau niferus - fel Aelwyd JMJ, lle cawn gyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau fel yr Eisteddfod Ryng-gol a’r Genedlaethol.
Neu i wneud gwahaniaeth i’r gymuned trwy brojectau gwirfoddol fel yr un yma!
Dwi'n byw yn JMJ, sef y neuadd i fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol a mae’r cymuned yn anhygoel yma.
Dwi’n byw adra, ond dwi’n dal yn rhan o Brofiad Bangor!
Boed yn mwynhau panad cyflym rhwng darlithoedd,
..neu yn astudio yn un o’r mannau dysgu cymdeithasol.
Mae’r Cymric yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg, ac mae digwyddiadau Campws Byw bob wsos.
Dwi’n cael profiad ymarferol ar leoliad gwaith gwych gyda’r Coleg Cymraeg yn trefnu digwyddiadau sy’n hyrwyddo’r iaith Cymraeg.
Ac fe gymerais i flwyddyn yn astudio dramor yn wlad Belg ag yn yr Eidal a chael golwg newydd ar fywyd.
Mae’r coedwigoedd yma yn anhygoel. Dwi wrth fy modd yn beicio mynydd yn fy amser sbâr.
Os ydych chi’n gweld hi’n anodd - mae’r gwasanaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr ar gael felly fydd rhywun yma yn barod i siarad efo chi. A mae o ar gael yn ddwyieithog.
Os ydych chi’n dymuno gweithio ochr yn ochr â’ch astudiaethau yma ym Mangor, mae yna lawer o gyfleoedd ar gael.
Dwi’n llysgennad myfyrwyr, sy’n golygu fy mod i’n cael fy nhalu i weithio mewn digwyddiadau fel y diwrnodau agored a hyd yn oed creu cynnwys digidol i’r Brifysgol.
Mae’r bywyd gyda’r nos yn wych - mae’r ddinas yn fach, ac mi fyddwch bob amser yn taro i mewn i ffrindiau mewn tafarndai a chlybiau ac mae’n teimlo’n ddiogel bob tro.
Dwi wrth fy modd yn mwynhau ffilm, cerddoriaeth, y celfyddydau a diwylliant mewn gymuned bywiog Cymraeg.
Beth fydd eich Profiad chi fel yma ym Mangor?
Myfyriwr yn cerdded ar draws y sgrin gyda murlun Pontio yn y cefndir.
Amrywiaeth o glipiau o fywyd ym Mangor, yn cynnwys lluniau o'r awyr o Brif Adeilad y Celfyddydau gyda'r Fenai y tu ôl iddo.
Mae beicwyr mynydd yn cyflymu lawr trac ym Mraichmelyn.
Mae tri myfyriwr yn cerdded i fyny grisiau Pontio, yn sgwrsio.
Mae dau fyfyriwr yn eistedd, yn chwerthin. Mae'r camera yn canolbwyntio ar un o'u hwynebau.
Mae pum myfyriwr yn sefyll ar draeth yn Ynys Môn. Mae un yn cymryd hunlun tra bod y lleill yn gwenu yn yr heulwen.
Tri myfyriwr yn sgwrsio ac yn pwyso yn erbyn y rheiliau ar y pier.
Mae dau fyfyriwr yn cofleidio wrth edrych yn syth i mewn i'r camera.
Myfyriwr yn cerdded trwy Lyfrgell Shankland wrth i olau'r haul daflu cysgodion aur.
Mae myfyriwr yn sefyll yn PL5, darlithfa fodern 450-sedd. Maen nhw'n siarad â'r camera, yna'n troi i ddatgelu'r gofod llawn.
Yn y labordy Gwyddorau Eigion, mae myfyriwr mewn cot labordy wen yn siarad â'r camera.
Llun agos o anifail morol.
Mae myfyriwr yn eistedd yn Llyfrgell Shankland, yn darllen. Maen nhw'n troi i siarad â'r camera.
Mae'r camera yn ffilmio'r myfyriwr o'r ochr wrth iddo barhau i ddarllen.
Myfyriwr yn sefyll ar ben y grisiau mewn adeilad Gwyddorau Eigion ym Mhorthaethwy.
Yn Y Lolfa, mae myfyriwr yn eistedd ar soffa, yn siarad â'r camera.
Ar y cae 3G, mae tîm pêl-droed merched yn chwarae. Mae chwaraewr yn derbyn y bêl, yn osgoi chwaraewr arall, ac yn saethu tuag at y gôl.
Llun agos o fyfyriwr yn chwarae'r piano.
Myfyrwyr yn canu wrth ddarllen o daflen gerddoriaeth.
Mae myfyriwr gwirfoddol yn sefyll yn ystafell synhwyraidd Undeb y Myfyrwyr. Mae plentyn a gwirfoddolwr arall yn gwylio'r goleuadau synhwyraidd.
Mewn cegin myfyrwyr, mae grŵp yn chwarae cardiau ac yn chwerthin. Mae un myfyriwr yn sefyll o'i flaen, gan edrych yn uniongyrchol ar y camera.
Mae myfyriwr yn cau drws car glas, yna'n cerdded tuag at y camera.
Myfyriwr yn eistedd yng nghaffi Pontio, yn dal cwpan.
Mewn bwth melyn mewn Gofod Dysgu Cymdeithasol, mae myfyriwr yn teipio ar liniadur.
Mae myfyriwr yn sefyll yn ystafell gyffredin JMJ, gyda myfyrwyr eraill y tu ôl iddynt yn chwarae dartiau a phŵl.
Y tu ôl i ddesg, mae myfyriwr yn gweithio ar ei leoliad.
Ffilm o'r awyr o ddinas yng Ngwlad Belg, gydag eglwys gadeiriol yn ganolbwynt.
Gondolas yn Fenis, gyda Sgwâr Sant Marc yn y cefndir.
Dau lun o fyfyriwr yn astudio dramor - un llun yng Ngwlad Belg a'r llall yn Fenis.
Beicwyr mynydd yn rasio i lawr llwybr.
Myfyriwr yn eistedd ar soffa lwyd, yn siarad â'r camera. Mae'r camera yn symud allan wrth iddynt wenu a dechrau sgwrsio â rhywun arall.
Mae myfyriwr yn sefyll yn Ystafell Ddarllen Richards, gyda golygfa o Gwad Prif Adeilad y Celfyddydau y tu ôl iddynt drwy'r ffenestr.
Dau Lysgennad Myfyrwyr mewn crysau-t coch yn codi bawd.
Mae myfyriwr yn recordio ei hun ar ei ffôn ac yn gwneud arwydd heddwch.
Mae myfyrwyr yn eistedd ar soffas yn Bar Uno, yn sgwrsio dros goffi.
Myfyriwr yn sefyll o flaen arwydd y sinema yn Pontio.
Myfyriwr yn eistedd ar wal teras, yn edrych yn syth i mewn i'r camera.
Logo Prifysgol Bangor.
I’ch diddanu
Beth sydd ym Mangor?
Mae yna ddigonedd o dafarndai, caffis a bwytai ym Mangor a'r cyffiniau, gyda llawer o leoedd ar gampws y Brifysgol. Mae Bar Uno ym Mhentref Ffriddoedd ar agor tan yn hwyr ac yn gweini bwyd, diod a choffi Starbucks. Ym Mhentref y Santes Fair, mae Barlows yn lle gwych i gwrdd â ffrindiau. Mae'n cynnig dewis o opsiynau bwyd a diod, gan gynnwys coffi Starbucks, ag ystod o eitemau bwyd hanfodol.
Clwb myfyrwyr Bangor yw Academi. Yn ogystal â'r clwb, mae gan Academi ddau far, caffi a siop.
Mae canolfan Pontio yn ganolbwynt i fyfyrwyr gymdeithasu. Y tu mewn fe welwch sinema a theatr yn ogystal â bar a chaffi. Mae Undeb y Myfyrwyr ar y trydydd llawr ac mae darlithfeydd a gofodau dysgu cymdeithasol drwyddi draw.
Digwyddiadau i fyfyrwyr
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, gan roi cyfleoedd i chi gwrdd â myfyrwyr eraill a chymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli. Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) sy’n ganolbwynt i’r rhan helaeth o ddigwyddiadau a’r gweithgareddau hamdden a chymdeithasol y Cymry – yn amrywio o nosweithiau cymdeithasol, Eisteddfod a Dawns Ryng-golegol i gemau pêl-droed a rygbi, a theithiau blynyddol i’r Iwerddon neu’r Alban.
Mae Aelwyd JMJ yn cwrdd yn wythnosol yn neuadd John Morris-Jones. Prif ffocws yr Aelwyd yw'r côr, ond maent hefyd yn cymdeithasu'n rheolaidd.
Mae Campws Byw yn rhaglen arbennig o weithgareddau ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yn neuaddau preswyl y Brifysgol. Cymerwch seibiant o'ch astudiaethau, cwrdd â phobl newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau rydych chi eisoes yn eu mwynhau, neu beth am roi cynnig ar rywbeth gwahanol?
Mae'r Swyddfa Gymorth Myfyrwyr Rhyngwladol yn cynnal rhaglen gymdeithasol sy'n cynnwys digwyddiadau am ddim yn ogystal â theithiau o amgylch yr ardal leol a thu hwnt. Er bod y rhaglen wedi'i chynllunio gyda myfyrwyr rhyngwladol mewn golwg, mae'n agored i bob myfyriwr. Hefyd cynhelir cyngerdd Gala Un Byd bob blwyddyn sy'n dathlu cenedligrwydd niferus ein myfyrwyr.
Clybiau a Chymdeithasau
Mae clybiau a chymdeithasau yn chwarae rhan enfawr ym mywyd cymdeithasol ein myfyrwyr. Mae gan Undeb y Myfyrwyr ystod eang o wahanol rai y gallwch chi ymuno â nhw. Mae yna amrywiaeth eang ar gael, o chwaraeon fel pêl-droed, pêl-rwyd, rygbi a thenis i weithgareddau mwy anarferol fel hoci tanddwr a quidditch.
Mae ein lleoliad, yn agos at draethau, mynyddoedd, llynnoedd ac afonydd yn golygu y gall myfyrwyr gymryd rhan mewn clybiau antur awyr agored fel syrffio, caiacio, cerdded mynyddoedd a hwylfyrddio.
Ond dydy Bangor ddim ond ar gyfer myfyrwyr sy'n hoffi chwaraeon, gallwch hefyd ymuno â chymdeithasau sy'n ymwneud â drama, ffotograffiaeth, cerddoriaeth a chrefftau.
Chwaraeon ac antur
Mae gan ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford, gampfa fawr, stiwdios ffitrwydd, neuaddau chwaraeon, cyrtiau, wal ddringo a llawer mwy. Mae ystafell ffitrwydd ac ardal gemau aml-ddefnydd ym Mhentref y Santes Fair a chaeau chwarae awyr agored yn Nhreborth. O fewn Bangor, mae pwll nofio yng nghanol y ddinas.
Gallwch hefyd gymryd rhan mewn ystod eang o chwaraeon awyr agored.