Dathlu llwyddiant cwrs Cymraeg arloesol
Cyflwynwyd tystysgrifau i griw o gynorthwywyr dosbarth sydd wedi cwblhau cwrs newydd sbon i roi hwb i sgiliau iaith. Daeth y pymtheg sy’n gweithio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn siroedd y Fflint a Wrecsam i seremoni yn Ysgol Croes Atti, Glannau Dyfrdwy. Dyma’r criw cyntaf erioed i gwblhau’r cwrs lefel Uwch hwn yn y Gogledd.
Cafodd y cwrs sy’n cael ei ddysgu gan diwtoriaid Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, ei gynnal am 18 diwrnod dros gyfnod o 11 wythnos. Ei nod oedd adeiladu ar sgiliau’r ymarferwyr a chynyddu eu hyder i ddefnyddio’r iaith ar lawr y dosbarth wrth iddyn nhw gynorthwyo disgyblion a chefnogi athrawon. Rhoddwyd pwyslais ar ddatblygu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth am yr iaith Gymraeg, fel eu bod yn gallu cyflwyno ac atgyfnerthu’r patrymau cywir ar lafar ac wrth ysgrifennu.Cafodd y cwrs sy’n cael ei ddysgu gan diwtoriaid Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, ei gynnal am 18 diwrnod dros gyfnod o 11 wythnos. Ei nod oedd adeiladu ar sgiliau’r ymarferwyr a chynyddu eu hyder i ddefnyddio’r iaith ar lawr y dosbarth wrth iddyn nhw gynorthwyo disgyblion a chefnogi athrawon. Rhoddwyd pwyslais ar ddatblygu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth am yr iaith Gymraeg, fel eu bod yn gallu cyflwyno ac atgyfnerthu’r patrymau cywir ar lafar ac wrth ysgrifennu.
Yn ôl un o’r ymarferwyr sef Michelle Taylor, Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug:
“Roedd y cwrs yn heriol pob wythnos, ond diddorol ac addas i fy ngwaith.”
Dywedodd Delyth Groves, Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon:
“Wnes i fwynhau y cwrs yn fawr iawn, mae o wedi ymestyn pob agwedd o fy iaith, rwyf yn llawer mwy hyderus rŵan.”
Ychwanegodd Faye Guest sy’n gweithio yn yr un ysgol,
“Dw i’n teimlo’n llawer mwy ymwybodol o reolau ac yn fwy hyderus wrth siarad ac ysgrifennu yn yr ysgol.”
Esboniodd dwy chwaer sy’n gweithio fel cynorthwywyr yn Ysgol Bryn Tabor, Coedpoeth eu bod wedi elwa’n fawr ar y profiad.
Nododd Angharad Robertson,
“Rwyf yn hynod o hapus hefo’r datblygiad yn fy ngwaith llafar. Rwy’n teimlo yn llawer mwy hyderus yn siarad Cymraeg ar ôl cwblhau’r cwrs.”
Ategodd ei chwaer Lowri Roberts hyn,
“Rydw i wedi mwynhau popeth, ac wedi dysgu llawer o bethau newydd.”
Yn ystod y seremoni, datgelodd Nia Heledd Williams un o diwtoriaid y cwrs o Ganolfan Bedwyr,
“ Yn dilyn llwyddiant y cwrs peilot hwn, rydym yn hynod falch o gyhoeddi y bydd dau gwrs Cynllun Sabothol arall i Gynorthwywyr yn cael eu cynnal yn y gogledd y flwyddyn nesaf. Y naill ym Môn rhwng Ionawr ac Ebrill, a’r llall yn Wrecsam rhwng Ebrill a Gorffennaf.”
Mae’r ddau gwrs yn cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn talu costau teithio i’r unigolion a chostau cyflenwi i’w hysgolion. Cysylltwch â Chanolfan Bedwyr ar 01248 383293 neu cynllunsabothol@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2016