Graddau Meistr Seicoleg Fyfyriol: diwrnod agored ar-lein
Ymunwch â ni mewn diwrnod agored ar-lein awr o hyd am ddim i ddysgu am ein rhaglenni Meistr Seicoleg Fyfyriol. Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am y ddwy radd ar-lein: Seicoleg Fyfyriol a Dulliau Myfyriol Cymhwysol. Byddwn yn siarad am strwythur y cyrsiau, y dull addysgu, a beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr. Cewch hefyd gyfle i gymryd rhan mewn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar byr dan arweiniad a bydd gennych ddigon o amser i ofyn cwestiynau a sgwrsio gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Gemma Griffith. P'un a ydych eisiau gwybod mwy neu’n ystyried gwneud cais, byddem yn falch iawn o’ch croesawu.
Dyddiadau
- Dydd Gwener 26 Mehefin 12:00-13:00
- Dydd Iau 16 Gorffennaf 12:00-13:00
- Dydd Gwener 7 Awst 12:00-13:00
- Dydd Gwener 21 Awst 12:00-13:00
Beth Yw Ymwybyddiaeth Ofalgar?
Trawsgrifiad fideo
Ystyr ymwybyddiaeth ofalgar ydi dwyn ein sylw yn fwriadol at y foment bresennol, fel y mae, heb geisio ei newid na'i farnu. Mae'n sylwi ar feddyliau, emosiynau, teimladau'r corff, a'r amgylchoedd gyda chwilfrydedd a charedigrwydd. Yn hytrach na chael ein dal mewn pryderon am yfory neu edifeirwch am ddoe, mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ein helpu i aros yn gysylltiedig efo'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Dydi hyn ddim yn golygu gwagio'r meddwl na chyflawni rhyw gyflwr arbennig. Yn syml, mae’n golygu dod yn fwy ymwybodol o brofiad uniongyrchol a bod yn agored i’r profiad hwnnw, yn amyneddgar efo’r profiad a’i dderbyn.
Dydi ymwybyddiaeth ofalgar ddim yn dalent arbennig sydd gan rai pobl a ddim gan eraill. Mae'n allu naturiol sydd ar gael i bob un ohonom - yn un y gallwn ni ei gryfhau trwy ymarfer.
Trwy fyfyrdod, rydan ni’n hyfforddi ein sylw'n raddol i aros efo'r foment bresennol. Dros amser, mae'r ymarfer hwn yn cryfhau ein gallu o ran ymwybyddiaeth ofalgar, fel bod modd i ni ei gynnwys ym mhob agwedd ar ein bywydau beunyddiol.
Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch, Adeilad Brigantia, Bangor, Gwynedd, LL57 2AS